-
Rhagymadrodd: Cyflwyno Ceidwadaeth
Ysgrifennodd Edmund Burke ei glasur, Reflections on the Revolution in France, fel ymateb i araith gan yr athronydd o Gymro, Richard Price. Roedd Price wedi croesawu’r newidiadau chwyldroadol oedd ar droed ar dir mawr Ewrop, gan groesawu’r ymosodiad ar awdurdod y Brenin yn Ffrainc fel mynegiant o brosesau hirdymor – rhai oedd yn rhyddfreinio dynoliaeth ac yn ei symud tuag at gymdeithas hapusach, mwy moesol a rhinweddol. Fodd bynnag, roedd dadleuon Price yn wrthun i Burke, yn arbennig ei bwyslais ar egwyddorion sylfaenol a gwerthoedd cyfanfydol.
darllen mwy >> -
Gwreiddiau Ceidwadaeth
Y consensws ymhlith y mwyafrif o ysgolheigion yw mai ideoleg wleidyddol a ddatblygodd yn ystod blynyddoedd cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg yw Ceidwadaeth. Honnir bod hyn wedi digwydd fel ymateb i'r gyfres o newidiadau gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd pellgyrhaeddol a oedd yn sgubo ar draws gorllewin Ewrop ar y pryd. Un digwyddiad mawr y mae haneswyr yn tueddu i gyfeirio ato fel symbol amlwg o’r newid hwn – y symud i’r hyn a ddisgrifir fel y cyfnod modern – yw Chwyldro Ffrainc yn 1789.
darllen mwy >> -
Ffrydiau Ceidwadol
Er bod amryw wedi awgrymu y dylid ystyried Edmund Burke fel tad Ceidwadaeth, byddai’n anghywir hawlio bod y syniadaeth wedi datblygu ar hyd un llwybr penodol, gan lynu’n dynn at y dadleuon gwreiddiol a amlinellwyd ganddo yn Reflections on the Revolution in France (1790). Yn hytrach, ers cyfraniad cychwynnol Burke mae Ceidwadaeth wedi datblygu mewn ffyrdd amrywiol ac erbyn heddiw gellir adnabod ystod o ffrydiau Ceidwadol gwahanol. Dyma gyflwyno tri o’r rhai mwyaf arwyddocaol.
darllen mwy >> -
Elfennau Allweddol Ceidwadaeth
Er y gwahaniaethau pwysig a geir rhwng gwahanol ffrydiau, gellir nodi rhai elfennau sydd yn tueddu i gael eu cysylltu â’r byd-olwg Ceidwadol; elfennau sy’n caniatáu i ni wahaniaethu rhywfaint rhwng Ceidwadaeth ag ideolegau gwleidyddol eraill, yn arbennig Rhyddfrydiaeth neu Sosialaeth.
darllen mwy >> -
Ceidwadaeth a Chymdeithas
Y Teulu a’r Eglwys: Priodas Hoyw Daeth enghraifft ddiddorol o’r berthynas rhwng gwleidyddiaeth geidwadol, y teulu a’r Eglwys i’r amlwg yn 2014, pan gyfreithlonwyd priodas gyfunrywiol yn y Deyrnas Unedig. Y Llywodraeth Geidwadol oedd yn gyfrifol am y ddeddfwriaeth, oedd yn caniatáu'r un hawl i gyplau oedd tan hynny yn gymwys am undeb sifil yn ei le. Roedd y ddeddfwriaeth honno wedi dod i rym yn 2004, o dan lywodraeth Lafur, ac felly i bob pwrpas ymestyn yr egwyddor honno i briodas a wnaethpwyd gan y Ceidwadwyr.
darllen mwy >> -
Ceidwadaeth a'r Economi
O ystyried natur y dadleuon cyfoes a glywir yn cael eu mynegi gan aelodau o’r Blaid Geidwadol, gellid tybio bod Ceidwadaeth yn ideoleg sydd wastad wedi bod yn driw i rinweddau’r farchnad rydd a’r gred y dylid cyfyngu cymaint â phosib ar ymyrraeth y wladwriaeth yng ngweithrediad yr economi. Serch hynny, dylid pwysleisio mai datblygiad cymharol ddiweddar fu’r arfer i Geidwadwyr fynnu y dylid arddel daliadau o’r fath fel mater o egwyddor. Yn wir, dim ond gyda datblygiad y Dde Newydd yn ystod y 1970au y daeth niferoedd sylweddol o Geidwadwyr i leisio’r farn neo-ryddfrydol bod llewyrch economaidd yn ddibynnol ar ‘wthio’r wladwriaeth yn ôl’ a sicrhau cymaint o ofod a phosib i fenter breifat gan unigolion hunangynhaliol.
darllen mwy >> -
Ceidwadaeth yng Ngwleidyddiaeth Cymru
Fe wynebir rhwystr sylfaenol wrth gynnig dadansoddiad o ddylanwad Ceidwadaeth yng Nghymru, oblegid prin iawn yw’r ffynonellau academaidd sy’n mynd i’r afael â’r pwnc. Adlewyrcha’r sefyllfa academaidd sefyllfa ehangach yn hynny o beth, sef y canfyddiad mai traddodiad Seisnig, estron, yw Ceidwadaeth. Gweithred leiafrifol, ar y gorau, felly, yw ysgrifennu am y blaid Geidwadol neu Ceidwadaeth yn gyffredinol.
darllen mwy >> -
Ceidwadaeth a Gwleidyddiaeth Fyd-eang
Realaeth Wleidyddol a’i Gwreiddiau Ni cheir ideoleg neu ddamcaniaeth benodol sy’n dwyn yr enw ‘Ceidwadaeth’ ym maes cysylltiadau rhyngwladol, ac eto mae sawl meddyliwr a thraddodiad deallusol yn y maes sy’n arddel syniadau Ceidwadol eu natur. Yn wir, mae Realaeth, y safbwynt sydd wedi dominyddu trafodaethau ar wleidyddiaeth ryngwladol ers degawdau yn ategu a nifer o syniadau a gwerthoedd Ceidwadol, er enghraifft pragmatiaeth, cred yn amherffeithrwydd y cymeriad dynol a hefyd pwyslais ar drefn ac awdurdod. Mae ysgolheigion sy’n astudio cysylltiadau rhyngwladol wedi olrhain gwreiddiau'r traddodiad Realaidd yn ôl dros nifer o flynyddoedd.
darllen mwy >>