O ystyried natur y dadleuon cyfoes a glywir yn cael eu mynegi gan aelodau o’r Blaid Geidwadol, gellid tybio bod Ceidwadaeth yn ideoleg sydd wastad wedi bod yn driw i rinweddau’r farchnad rydd a’r gred y dylid cyfyngu cymaint â phosib ar ymyrraeth y wladwriaeth yng ngweithrediad yr economi. Serch hynny, dylid pwysleisio mai datblygiad cymharol ddiweddar fu’r arfer i Geidwadwyr fynnu y dylid arddel daliadau o’r fath fel mater o egwyddor. Yn wir, dim ond gyda datblygiad y Dde Newydd yn ystod y 1970au y daeth niferoedd sylweddol o Geidwadwyr i leisio’r farn neo-ryddfrydol bod llewyrch economaidd yn ddibynnol ar ‘wthio’r wladwriaeth yn ôl’ a sicrhau cymaint o ofod a phosib i fenter breifat gan unigolion hunangynhaliol.

  • O edrych yn ôl ar y Geidwadaeth Draddodiadol a gâi ei harddel gan niferoedd helaeth hyd at y 1970au, fe welir safbwynt gwahanol iawn ynglŷn â sut y dylai’r wladwriaeth ymwneud â’r economi. Fel yr eglurwyd eisoes, un o nodweddion mwyaf amlwg y ffrwd benodol hon o Geidwadaeth oedd cred yn yr angen i ymwneud â gwahanol gwestiynau gwleidyddol mewn modd pragmataidd: i fod yn barod i gyflwyno diwygiadau cymdeithasol ac economaidd mewn modd gofalus, a hynny ym mha bynnag fodd a oedd yn ymddangos yn briodol o ystyried yr amgylchiadau a wynebwyd. O ystyried hyn, roedd Ceidwadwyr Traddodiadol, megis yr athronydd Saesnig, Michael Oakeshott, a hefyd gwleidyddion Saesnig megis Harold MacMillan ac R.A. Buttler, yn amheus o ddadleuon y Democratiaid Cymdeithasol a oedd yn mynnu mai dim ond trwy arddel ‘rheolaeth wladwriaethol’ y gellid sicrhau economi a fyddai’n gweithredu mewn modd teg ac effeithiol. Ond ar yr un pryd, bu iddynt fynegi amheuon mawr pan ddechreuodd rhai ar adain dde y sbectrwm gwleidyddol ddadlau y dylid felly mabwysiadu safbwynt a oedd yn ymwrthod ag unrhyw ymyrraeth wladwriaethol yn yr economi fel mater o egwyddor. Fel y dadleuodd Oakeshott, roedd y ddau safbwynt yn meddu ar yr un gwendid ideolegol yn y pendraw: ‘A plan to resist all planning may be better than its opposite, but it belongs to the same style of politics’ (1962: 212)

  • Harold-MacMillan.jpg
    Harold MacMillan
  • O ganlyniad, tra bod Ceidwadwyr Traddodiadol wedi gochel rhag cofleidio ffydd y Democratiaid Cymdeithasol yng ngallu’r wladwriaeth i lywio’r economi, nid oeddent chwaith o’r farn y dylid gwrthwynebu polisïau o’r fath mewn modd cwbl ddogmatig. Yn hytrach, barn y garfan yma o Geidwadwyr oedd y dylid bod yn barod i arddel pa bynnag raglen economaidd a oedd i’w weld yn gweithio ar y pryd – i fod yn bragmataidd. Yn y Deyrnas Unedig, dyma’r rheswm pam na fu i Lywodraethau Ceidwadol y 1950au a’r 1960au fynd ati i geisio dadwneud nifer o’r diwygiadau cymdeithasol ac economaidd pellgyrhaeddol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Lafur 1945-51 – mesurau a oedd yn cynnwys sefydlu’r gwasanaeth iechyd cenedlaethol, cyflwyno trefn addysg fwy cynhwysfawr a gwladoli sectorau diwydiannol pwysig megis glo, dur, nwy, trydan a’r rheilffyrdd. Yn ystod y degawdau dilynol, ymddangosodd y mesurau hyn i fod yn rhai a oedd yn dwyn ffrwyth ac felly bu Ceidwadwyr pragmataidd y cyfnod yn barod i’w derbyn a’u cynnal.

    Fodd bynnag, erbyn heddiw mae’r farn economaidd ymhlith Ceidwadwyr wedi newid. Yn sgil anawsterau economaidd rhyngwladol mawr y 1970au, bu i’r math o ddadleuon a fynegwyd gan y Dde Newydd ynglŷn â’r angen i gyfyngu ar rôl economaidd y wladwriaeth ennill mwy o hygrededd. Arweiniodd hyn at newidiadau pwysig yn y math o raglenni polisi a gâi eu cynnig gan bleidiau gwleidyddol Ceidwadol, yn arbennig yma yn y Deyrnas Unedig a hefyd yn achos y Blaid Weriniaethol yn yr Unol Daleithiau. Roedd y rhaglenni polisi hyn yn rhai a oedd yn mynd ati o ran egwyddor i dorri ar lefelau gwariant cyhoeddus ac i leihau ‘maint’ y wladwriaeth, er enghraifft trwy breifateiddio ystod o ddiwydiannau a gwasanaethau a fu cynt yn rhan o’r sector cyhoeddus. Roedd hyn yn gyferbyniad llwyr i ymagwedd fwy pragmataidd a graddol Ceidwadwyr y degawdau cynt ac i raddau helaeth dyma fu’r duedd mewn cylchoedd Ceidwadol ers hynny.