-
Y Torïaidd Hanesyddol yng Nghymru
Mae gwreiddiau’r term ‘Tori’ i’w canfod yn yr ail ganrif ar bymtheg, a’r cyfnod cythryblus a ddechreuodd gyda’r rhyfel cartref Seisnig. Daw’r gair o’r hen Wyddeleg, a’r term tóraidhe (heriwr neu leidr) ac fe’i defnyddiwyd yn wreiddiol i ddisgrifio’r Gwyddelod a barhaodd yn eu gwrthwynebiad i deyrnasiad Oliver Cromwell wedi diwedd y Rhyfel Cartref. Yn fwy diweddar, defnyddiwyd y term i ddisgrifio’r Aelodau’r Seneddol oedd yn cefnogi hawl Iago’r Ail i olynu ei frawd, Siarl yr Ail fel brenin. Roedd Iago wedi troi at yr Eglwys Gatholig mewn cyfnod lle’r roedd Protestaniaeth yn prysur ennill tir.
Ni pharhaodd y cysylltiad uniongyrchol yma â Chatholigiaeth, ond parhaodd Torïaeth mewn ffurfiau eraill, ac fe adnabyddir y traddodiad bellach fel rhagflaenydd i’r Blaid Geidwadol ac Unoliaethol fodern a ffurfiwyd yn 1834 dan arweinyddiaeth Robert Peel. Conglfeini’r traddodiad Torïaidd oedd cefnogaeth gref i’r Frenhiniaeth, drwgdybiaeth o ddiwygio cymdeithasol radical, a chefnogaeth i Eglwys Loegr. Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif roedd y syniadau hyn wedi’u cyplysu â safbwyntiau mwy rhyddfrydol y Chwigiaid, o dan ddylanwad ffigurau megis Edmund Burke, a’r Prif Weinidog, William Pitt the Younger. Dyma’r cyfnod lle gwelwyd Ceidwadaeth fodern yn ymffurfio yn y Deyrnas Unedig.
Profodd ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn gyfnod heriol i’r Blaid Geidwadol wrth iddi ymgodymu â chanlyniadau’r broses o ddemocrateiddio’r Deyrnas Unedig. Ehangwyd yr etholfraint yn raddol trwy gyfres o ddeddfau diwygio pwysig yn 1832, 1867 ac 1884 a chafodd hyn effaith fawr ar gefnogaeth a statws y blaid, yn arbennig felly yng Nghymru. Ers cyflwyno’r Deddfau Uno yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, tirfeddianwyr Ceidwadol oedd wedi dominyddu gwleidyddiaeth y wlad, gan ddal trwch y seddi seneddol. Fodd bynnag, newidiodd hyn o’r 1860au ymlaen wrth i fwy a mwy o ddynion cyffredin ennill yr hawl i bleidleisio ac estyn eu cefnogaeth i’r Blaid Ryddfrydol. Digwyddiad sy’n aml yn cael ei nodi fel symbol o’r newid mawr hwn oedd buddugoliaeth y Rhyddfrydwr, Henry Richard, ym Merthyr Tudful yn etholiad 1868. Yn wir, erbyn 1906 nid oedd yr un Aelod Seneddol Ceidwadol ar ôl yng Nghymru.
-
-
Ceidwadwyr yng Nghymru 1885-1997
Ni ddiflannodd y Ceidwadwyr o wleidyddiaeth Cymru yn ystod yr ugeinfed ganrif. Fodd bynnag, ni welwyd y blaid yn dod yn agos at adennill ei statws o’r cyfnod cyn-ddemocrataidd. Yn wir, ar ddiwedd y ganrif yn 1997 cafwyd etholiad arall lle ni lwyddodd y blaid i ennill yr un sedd etholiadol. O ystyried y cefndir hwn – ochr yn ochr â’r ffaith fod y Blaid Geidwadol yn gyson wedi sicrhau pleidlais yng Nghymru oedd rhyw 10% yn llai nag yn Lloegr – gellir deall sut datblygodd y canfyddiad nad yw Ceidwadaeth yn draddodiad perthnasol wrth drafod gwleidyddiaeth Cymru.
Yn wir, mae’n bosib bod rhai ffactorau strwythurol wedi cyfrannu at gyfyngu ar apêl Ceidwadaeth i etholwyr yng Nghymru. Er enghraifft, gan fod unigolyddiaeth ac eiddo yn tueddu i fod yn werthoedd sy’n meddu ar fwy o arwyddocâd i bleidleiswyr dosbarth canol ac uwch, efallai nad oedd yn syndod bod gwlad sydd â chanrannau uwch o’r boblogaeth yn perthyn i’r dosbarth gweithiol yn pleidleisio’n bennaf i bleidiau mwy asgell chwith. Ffactor arall sydd wedi derbyn cryn sylw wrth geisio esbonio methiant cymharol y Ceidwadwyr yw’r ffaith fod rhai o’r hen nodweddion sy’n mynd yn ôl at gyfnod y Torïaid – megis Anglicaniaeth, breningarwch a chyfoeth – wedi cyfrannu at gynnal y canfyddiad mai plaid Seisnig yn ei hanfod oedd y blaid Geidwadol.
Fodd bynnag, er gwaethaf y ffactorau hyn, dylid gochel rhag casglu mai amherthnasol fu lle Ceidwadaeth yng ngwleidyddiaeth Cymru. Yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif, daeth y blaid i sicrhau troedle mewn nifer o etholaethau y tu hwnt i’r ardaloedd diwydiannol. Yn wir, yn 1983 llwyddodd y blaid i sicrhau 14 o’r 38 sedd seneddol yng Nghymru. Roedd trwch y seddi hyn mewn ardaloedd gwledig a chymharol Seisnigedig megis Sir Benfro, Bro Morgannwg, arfordir y gogledd a’r ardaloedd hynny sy’n ffinio â Lloegr – yr ardaloedd a ddisgrifiwyd gan y gwyddonydd gwleidyddol, Denis Balsom, fel ‘British Wales’.
Eto i gyd, nid dim ond fel grym Seisnig a Phrydeinig y dylid dehongli Ceidwadaeth yng Nghymru yn ystod yr ugeinfed ganrif. Yn arwyddocaol, cyfrannodd gwleidyddion Ceidwadol at lawer o’r datblygiadau polisi a welwyd mewn perthynas â’r iaith Gymraeg o’r 1970au ymlaen. Er enghraifft, roedd yr Ysgrifennydd Gwladol, Nicholas Edwards yn allweddol i’r trafodaethau arweiniodd yn y pendraw ar sefydlu S4C yn 1980. Yn fwy pwysig, roedd Syr Wyn Roberts, cyn Aelod Seneddol dros etholaeth Conwy ac is-weinidog yn y Swyddfa Gymreig, yn gwbl allweddol i ddatblygiadau megis Deddf Addysg 1988 (arweiniodd at sefydlu’r Gymraeg fel pwnc hanfodol yn y cwricwlwm ac at sefydlu’r arfer bod disgyblion yng Nghymru yn astudio cwricwlwm addysg gwahanol i Loegr), sefydlu Bwrdd yr Iaith Gymraeg, a hefyd Deddf Iaith 1993 a gyfrannodd at sicrhau statws cyhoeddus mwy amlwg i’r Gymraeg.
Ceidwadaeth yn oes datganoli
Er i’r Ceidwadwyr ymgyrchu yn erbyn sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol cynigiodd datganoli gyfle i’r blaid ail-sefydlu presenoldeb yng ngwleidyddiaeth Cymru yn dilyn ei cholledion mawr yn ystod etholiad San Steffan yn 1997. Gwelwyd lefel pleidlais a nifer seddi’r blaid yn y Cynulliad yn codi ym mhob etholiad rhwng 1999 a 2011. Yn wir erbyn 2011 llwyddodd i ddisodli Plaid Cymru fel y brif wrthblaid ym Mae Caerdydd.
Yn ystod y cyfnod hwn bu ymgais fwriadol i geisio mabwysiadu agwedd fwy cadarnhaol tuag at ddatganoli a hefyd i geisio Cymreigio delwedd y blaid. Roedd Nick Bourne, arweinydd y grŵp Ceidwadol yn y Cynulliad rhwng 1999 a 2011 yn allweddol i’r symudiad hwn. Ffigur pwysig arall yng nghyd-destun datblygiad Ceidwadaeth yng Nghymru yn ystod y cyfnod ôl-ddatganoli yw’r Aelod Cynulliad, David Melding. Mewn cyfres o ysgrifau trawiadol mae Melding wedi dadlau o blaid datganoli pellach i Gymru a hefyd yr angen am ddiwygio cyfansoddiadol sylfaenol ar draws y Deyrnas Unedig gan gynnwys mabwysiadu trefniadau ffederal llawn. Yn wir, mae dadleuon Melding yn adlewyrchu elfennau o Geidwadaeth Draddodiadol ffigurau megis Burke ac Oakeshott, yn benodol y dybiaeth na ddylid ymwrthod â newidiadau gwleidyddol a chymdeithasol mawr, ond yn hytrach, eu cofleidio mewn modd pragmataidd er mwyn gosod seiliau cryfach i’r dyfodol. Roedd presenoldeb unigolion megis Bourne a Melding yn rhengoedd y blaid Geidwadol yng Nghymru yn allweddol yn ystod y cyfnod wedi etholiad Cynulliad 2007. Bryd hynny cododd y posibilrwydd o sefydlu ‘clymblaid Enfys’ rhwng y Ceidwadwyr, Plaid Cymru a’r Rhyddfrydwyr er mwyn disodli’r llywodraeth Llafur a fu mewn grym ers cychwyn datganoli ar ddiwedd y 1990au. Dyma enghraifft arall o’r ymagwedd bragmataidd sy’n nodweddu gwleidyddiaeth nifer o Geidwadwyr Cymru.
Wrth gwrs, ni chafodd y glymblaid enfys ei sefydlu yn y pendraw. Y gwir amdani oedd bod amheuon dwfn ynglŷn â’r syniad i’w ganfod yn rhengoedd y tair plaid wahanol. Yn y cyswllt hwn, mae’n werth oedi am eiliad i ystyried yr agweddau gwahanol ynglŷn â’r cynllun a fynegwyd gan aelodau Plaid Cymru. A hithau’n blaid sydd, ers yr 1980au cynnar, wedi lleoli ei hun yn bendant ar chwith y sbectrwm gwleidyddol ac sydd, ar sawl achlysur, wedi disgrifio’i hun fel plaid sy’n arddel ffurf ar ‘sosialaeth ddemocrataidd’, nid oedd yn syndod bod nifer o’i haelodau wedi mynegi cryn anniddigrwydd ynglŷn â’r syniad o sefydlu clymblaid a fyddai’n golygu cydweithio â Cheidwadwyr. Ar yr un pryd, roedd nifer o aelodau eraill yn ddigon agored i’r syniad. Mae hyn yn tynnu sylw at y ffaith bod mudiadau cenedlaetholgar yn medru cwmpasu unigolion sy’n arddel ystod o safbwyntiau gwahanol ar hyd y sbectrwm chwith-de.
Yn wir, yn achos Cymru, mae’n bwysig nodi bod hanes syniadaethol y mudiad Cenedlaethol wedi cynnwys traddodiad Ceidwadol nodedig. Ffigur allweddol yn y cyd-destun hwn oedd, Saunders Lewis – bardd, dramodydd ac arweinydd Plaid Cymru yn ystod ei chyfnod cynnar. Yn ei ysgrifau niferus mae Lewis yn gyson yn cyfuno daliadau cenedlaetholgar gyda ffurf ramantaidd ar Geidwadaeth. Gwelir hyn, er enghraifft, yn ei ysgrif wleidyddol enwog, Egwyddorion Cenedlaetholdeb, lle mae’n dadlau y dylid dehongli’r bywyd a’r diwylliant Cymreig fel rhan o hen draddodiad Ewropeaidd ac y dylid ymdrechu i warchod y dreftadaeth hon trwy wrth-droi y diwydiannu mawr a brofodd Cymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Perthyna nodweddion rhamantaidd lled-debyg hefyd i rai o syniadau’r athronydd J. R. Jones, a gyhoeddodd amryw o ysgrifau dylanwadol ar genedlaetholdeb a’r cysylltiad rhwng iaith a hunaniaeth yn ystod y 1960au. Yn yr ysgrifau hyn ceir adlais o ddeheuad Jones i ddychwelyd at ryw fywyd a fu, un oedd yn rhydd o ddylanwad y diwylliant Eingl-Americanaidd bas a oedd, erbyn y 1960au, yn prysur ennill troedle ar draws ardaloedd Cymreicaf Cymru trwy’r cyfryngau a’r teledu. Bygythiad i draddodiad a’r gymdeithas organig Gymraeg oedd yn poeni Jones yn anad dim.
Fe wynebir rhwystr sylfaenol wrth gynnig dadansoddiad o ddylanwad Ceidwadaeth yng Nghymru, oblegid prin iawn yw’r ffynonellau academaidd sy’n mynd i’r afael â’r pwnc. Adlewyrcha’r sefyllfa academaidd sefyllfa ehangach yn hynny o beth, sef y canfyddiad mai traddodiad Seisnig, estron, yw Ceidwadaeth. Gweithred leiafrifol, ar y gorau, felly, yw ysgrifennu am y blaid Geidwadol neu Ceidwadaeth yn gyffredinol. Fodd bynnag, mae peryg bod hyn arwain at ganfyddiad sy’n ymylu’r traddodiad Ceidwadol mewn modd nad sy’n gweddu ei arwyddocâd cymharol yng Nghymru drwy gydol y cyfnod modern.