-
Ceidwadaeth Awdurdodaidd
Mae pwyslais ar awdurdod yn tueddu i fod yn nodwedd amlwg mewn gwaith Ceidwadol. Er hyn, erbyn heddiw mae Ceidwadwyr, ar y cyfan, wedi dod i delerau â democratiaeth ac yn derbyn y dylai awdurdod gwleidyddol dilys ddeillio o ‘gydsyniad y bobl’. Fodd bynnag mae rhai Ceidwadwyr wedi arddel safbwynt gwahanol gan ddadlau y dylid ymestyn y pwyslais traddodiadol ar awdurdod i gynnwys cred mewn trefniadau llywodraethol awdurdodaidd (authoritarian). Gellir diffinio awdurdodaeth fel cred ym mhwysigrwydd ‘llywodraeth oddi fry’; hynny yw, trefniadau llywodraethol sydd ddim yn ddibynnol ar gydsyniad ac sy’n pwysleisio, yn hytrach, ddoethineb, gallu a chywirdeb y sawl sy’n arwain. Mae ffydd yn nilysrwydd y dull hwn o lywodraethu yn deillio o gred ym mhwysigrwydd trefn a’r dybiaeth y gellir ond cynnal trefn os yw pobl yn ufuddhau i’r llywodraeth mewn modd di-gwestiwn.
Datblygodd ffrwd o Geidwadaeth a oedd yn pwysleisio themâu tebyg i hyn yn ystod blynyddoedd cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a bu’n arbennig o ddylanwadol ar draws rhannau o ‘gyfandir’ Ewrop. Un meddyliwr gwleidyddol a gaiff ei gysylltu â’r ffrwd hon o Geidwadaeth oedd y Ffrancwr Joseph de Maistre (1753-1821). Fel Edmund Burke, roedd de Maistre yn feirniad hallt o ddigwyddiadau’r Chwyldro yn Ffrainc. Fodd bynnag, yn wahanol i Burke, roedd de Maistre am adfer y drefn frenhinol hollbwerus a fodolai cyn y Chwyldro, a hynny heb unrhyw ddiwygiadau er mwyn gwneud y drefn honno yn fwy derbyniol i drwch y boblogaeth. Roedd de Maistre yn gwbl amharod i dderbyn unrhyw newid ar yr ancien régime a gafodd ei dymchwel yn 1789. Adlewyrcha’r dadleuon hyn bwyslais y Ceidwadwyr Awdurdodaidd ar yr angen i gynnal trefn uwchlaw popeth arall. Dim ond trwy sicrhau cymdeithas drefnus a sefydlog y gallai pobl deimlo’n ddiogel ac roedd cyflawni hyn, yn nhyb meddylwyr fel de Maistre, yn galw am ufuddhau’n llwyr i’r ‘meistr’. Rhybuddiwyd y byddai newidiadau chwyldroadol, neu, hyd yn oed, diwygio cymdeithasol graddol ac organig, tebyg i’r hyn a ffafriwyd gan Burke, yn gwanhau’r clymau a oedd yn dal y gymdeithas drefnus at ei gilydd ac yn agor y drws i anarchiaeth. Yn wir, yn nhyb de Maistre, dylid hyd yn oed ufuddhau i arweinwyr creulon, gan y byddai cwestiynu awdurdod y bobl hyn ond yn arwain at ansicrwydd a dioddef mwy sylweddol.
Parhaodd nifer o Geidwadwyr Ewropeaidd yn driw i ddadleuon tebyg i hyn am ran helaeth o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, er enghraifft yn Rwsia o dan Tsar Nicholas y 1af a hefyd mewn gwledydd Catholig megis Sbaen, Portiwgal a’r Eidal. Digwyddodd hyn er gwaetha’r don o syniadau Rhyddfrydol, Sosialaidd a Chenedlaetholgar a welwyd yn ennill tir yn ystod y cyfnod hwn; syniadau a oedd yn argymell amrediad o newidiadau cymdeithasol pellgyrhaeddol. Ar yr un pryd, mewn achosion eraill gwelwyd Ceidwadwyr Awdurdodaidd yn llwyddo i harneisio cefnogaeth ymhlith yr etholyddiaeth newydd. Er enghraifft yn Ffrainc rhwng 1804 a 1815 llwyddodd Napoleon i ennill cefnogaeth trwy blethu awdurdodaeth ag addewid o dwf a llewyrch economaidd. Gwnaed rhywbeth digon tebyg, yn yr Ariannin yn ystod y 1940au a’r 1950au pan lwyddodd Juan Perón arddel grym ar sail agenda boblyddol. Rhaid cofio hefyd bod nifer o syniadau cynnar y Natsïaid yn ategu’r pwyslais ar awdurdod, ufudd-dod ac addewid o lewyrch economaidd. Cafodd amryw o’r syniadau hyn eu hamlygu mewn ysgrifau gan yr athronydd Almaenig, Carl Schmitt. Amlyga hyn y ffaith fod Ceidwadaeth Awdurdodaidd yn aml wedi gorgyffwrdd â syniadau Ffasgaidd.
Ceidwadaeth Draddodiadol
Tra bod amryw o Geidwadwyr cyfandirol y bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi mabwysiadu agweddau a nodweddwyd gan wrthwynebiad digyfaddawd i newid gwleidyddol neu gymdeithasol o unrhyw fath, gwelwyd traddodiad Ceidwadol mwy cymedrol, ac yn y pendraw, mwy llwyddiannus yn etholiadol, yn datblygu o fewn cylchoedd Eingl-Americanaidd. I raddau helaeth, roedd y traddodiad hwn yn un a oedd yn fwy cydnaws â’r syniadau gwreiddiol a gafodd eu hamlinellwyd gan Edmund Burke.
Yr hyn a oedd wedi peri pryder mawr i Burke wrth ddilyn datblygiadau’r Chwyldro yn Ffrainc oedd y modd cwbl ddisymwth yr aethpwyd ati i ddymchwel y drefn frenhinol a fu’n weithredol am ganrifoedd a cheisio adeiladu trefn cwbl newydd yn ei lle. Roedd hyn yn gam peryglus iawn yn ei dyb ef, fel y datganodd yn y dyfyniad enwog canlynol:
- ‘It is with infinite caution that any man ought to venture upon pulling down an edifice which has answered in any tolerable degree for ages the common purpose of society’ (Burke, Reflections, 1790: 152).
Credai Burke fod sefydliadau neu arferion traddodiadol sydd wedi llwyddo i oroesi dros gyfnod hir – er enghraifft, yn achos Ffrainc, y frenhiniaeth – yn bethau y dylid eu parchu ac y dylid ymdrechu i’w cynnal. Mynnodd bod traddodiadau o’r fath, trwy oroesi, wedi profi eu bod yn meddu ar werth cynhenid a’u bod wedi dod i ymgorffori gwybodaeth a doethineb hanesyddol pwysig na ddylid ei ddibrisio.
Fodd bynnag, tra bod Burke yn gryf o’r farn bod angen parchu sefydliadau neu arferion traddodiadol, nid oedd o’r farn y dylid gwrthwynebu newid gwleidyddol a chymdeithasol ar bob cyfrif. Yn hytrach, roedd newid gofalus a threfnus – newid a ddisgrifiwyd ganddo fel un organig ei natur – yn dderbyniol. Yn wir, dadleuodd bod newid graddol o’r math hwn yn angenrheidiol er mwyn i gymdeithas a’i harferion a’i sefydliadau traddodiadol fedru goroesi:
- ‘A state without the means of some change is without the means of its conservation’ (Burke, Reflections, 1790: 285).
Felly, newid graddol er mwyn cynnal y traddodiadol oedd yr hyn a ffafriwyd gan Burke, a dyma’r math o dybiaethau a welir yn amlygu eu hunain yn syniadau’r garfan o Geidwadwyr a ddilynodd ef yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yna hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Dyma garfan niferus a gaiff eu disgrifio’n aml fel y Ceidwadwyr Traddodiadol. Label arall a ddefnyddir o bryd i’w gilydd ar gyfer y garfan hon yw’r Ceidwadwyr Tadol.
Yn achos y Deyrnas Unedig, ffigur pwysig a gyfrannodd at esblygiad pellach y traddodiad Ceidwadol hwn oedd Benjamin Disraeli (1804-1881). Fel gwleidydd yr adnabyddir Disraeli’n bennaf – bu’n Brif Weinidog yn 1868 ac unwaith eto rhwng 1874 a 1880 – ond roedd yn nofelydd nodedig hefyd a gwelwyd amryw o’u syniadau gwleidyddol yn cael eu mynegi’n wreiddiol mewn nofelau megis Sybil (1845) a Conigsby (1844). Cyhoeddwyd y gweithiau hyn mewn cyfnod o dyndra cymdeithasol a gwleidyddol sylweddol. I ddechrau, roedd effeithiau cymdeithasol niweidiol y broses o ddiwydiannu, megis amodau gwaith anodd, pegynnu o ran cyfoeth a phroblemau iechyd, wedi dechrau dod yn fwyfwy amlwg ym Mhrydain a hefyd ar y cyfandir. Yn ogystal, mewn rhannau o Ewrop gwelwyd problemau o’r fath yn cael eu defnyddio gan garfannau gwleidyddol fel sail i wthio am newidiadau cymdeithasol radical. Caiff 1830 a 1848 yn enwedig eu cofio fel blynyddoedd o chwyldroadau a thensiwn gwleidyddol ar draws y cyfandir. Roedd datblygiadau o’r fath yn destun pryder i Disraeli a’i neges wleidyddol fawr oedd bod peryg i Brydain ddod i gael ei rhannu’n ‘ddwy genedl’: y cyfoethog a’r tlawd. Byddai hyn wedyn yn esgor ar ansefydlogrwydd difrifol. Er mwyn osgoi hyn, dadleuodd bod angen i Brydain ymgymryd â phroses o ddiwygio gwleidyddol a chymdeithasol gofalus.
Wrth gwrs, cyflwynwyd dadleuon tebyg gan Ryddfrydwyr a Sosialwyr yn ystod yr un cyfnod. Fodd bynnag, roedd naws Ceidwadol clir i’r modd y fframiodd Disraeli ei ddadleuon. I ddechrau, pwysleisiodd mai diwygio gofalus a graddol y dylid ymgymryd ag ef. Ond ar ben hynny, gan adlewyrchu ei fyd-olwg Ceidwadol, roedd ei ddadleuon yn cyfuno elfennau pragmataidd ac egwyddorol. Ar y naill law, mynnodd Disraeli y byddai caniatáu i anghydraddoldeb economaidd y cyfnod i ddwysáu ond yn esgor, yn y pendraw, ar chwyldro Prydeinig, tebyg i’r hyn a welwyd mewn rhannau o Ewrop. Byddai hyn yn peryglu statws aelodau breintiedig cymdeithas, ac yn sgil hynny, mynnodd y byddai’n synhwyrol i’r bobl hyn gefnogi diwygio graddol, cyn i bethau fynd yn rhy bell. Gallai diwygio o’r fath warchod buddiannau’r bobl hyn yn y tymor hir. Dyna felly yr ochr bragmataidd i’w ddadl. Ond ar y llaw arall, roedd agwedd foesol ac egwyddorol i’w ddadl. Awgrymodd bod cyfoeth a braint yn esgor ar gyfrifoldeb cymdeithasol, yn arbennig cyfrifoldeb i gynorthwyo’r sawl sy’n dlawd ac yn llai ffodus. Wrth arddel dadleuon o’r fath, nid oedd Disraeli’n closio at sosialwyr neu ryddfrydwyr cymdeithasol. Yn wahanol i’r bobl hyn ni roddai bwyslais mawr ar gydraddoldeb. Yn hytrach, credai yn y syniad Ceidwadol o anghydraddoldeb neu hierarchaeth naturiol. Fodd bynnag, credai fod yr hierarchaeth hon yn esgor ar ddyletswyddau penodol, sef bod disgwyl i’r breintiedig estyn llaw i gynorthwyo’r llai ffodus.
Yn ystod ei yrfa wleidyddol llwyddodd Disraeli i droi’r dadleuon hyn yn weithredu ymarferol. Ef oedd yn gyfrifol am gyflwyno’r ‘Ail Ddeddf Ddiwygio’ yn 1867, y mesur arweiniodd at estyn yr hawl i bleidleisio i aelodau’r dosbarth gweithiol am y tro cyntaf. Ef hefyd oedd yn gyfrifol am ystod o ddiwygiadau cymdeithasol a gyfrannodd at wella amodau tai a iechyd y dosbarth gweithiol. Yn ogystal, cafodd syniadau a gweithredoedd Disraeli ddylanwad mawr ar fyd-olwg nifer o Geidwadwyr diweddarach. Ym Mhrydain, caiff y garfan hon ei hadnabod fel y ‘Ceidwadwyr Un Genedl’, sef ffrwd Geidwadol sydd wedi parhau i arddel cred Disraeli yn yr angen i gydbwyso cred mewn traddodiad a threfn gyda pharodrwydd i ymddwyn yn bragmataidd ac i gyflwyno diwygiadau cymdeithasol mewn modd graddol a gofalus. Yn wir, dyma ffrwd Geidwadol a brofodd yn ddylanwadol iawn ym Mhrydain yn ystod rhan helaeth o’r ugeinfed ganrif. Tybir ei fod wedi bod yn ganolog i raglenni llywodraethau Ceidwadol Harold MacMillan (1957-1963) ac, i raddau llai, Edward Heath (1970-1974). Er enghraifft, gwelir ei ddylanwad wrth ystyried y modd pragmataidd y bu i’r llywodraethau hyn geisio llywio’r economi, gan gyfuno dyhead i hybu menter breifat ymhlith unigolion gyda pharodrwydd i gydnabod ei bod yn briodol i’r wladwriaeth reoli a rheoleiddio rhai sectorau economaidd arwyddocaol, megis y diwydiannau dur a glo. Yn fwy diweddar, awgrymwyd bod John Major a David Cameron hefyd wedi bod yn wleidyddion a oedd, mewn rhai ffyrdd, yn gogwyddo tuag at y ffrwd benodol hon o Geidwadaeth bragmataidd a graddol.
Gwelwyd Ceidwadaeth Draddodiadol hefyd yn ennill tir mewn rhannau o Ewrop yn ystod y blynyddoedd yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. Er enghraifft dyma’r syniadau a fu’n sail i wleidyddiaeth y pleidiau Democrataidd Cristnogol a ffurfiwyd mewn gwelydd megis yr Almaen, Awstria, yr Iseldiroedd a’r Swistir yn ystod y cyfnod hwn ac a brofodd lwyddiant etholiadol sylweddol, yn enwedig yn yr Almaen. Fel yn achos Ceidwadwyr ‘Un Genedl’ y Deyrnas Unedig, roedd arweinwyr y pleidiau hyn, er enghraifft Helmut Kohl, Canghellor yr Almaen rhwng 1983 a 1998, yn credu y dylid caniatáu i’r wladwriaeth ymyrryd mewn meysydd cymdeithasol ac economaidd cyhyd ag y bo achos pragmataidd o blaid hynny a bod modd cyflwyno unrhyw ddiwygiadau mewn modd graddol.
-
-
Y Dde Newydd
Yn ystod y blynyddoedd yn dilyn diwedd yr Ail Ryfel Byd yn 1945, y byd-olwg graddol, pragmataidd a thadol a gysylltir â’r garfan Draddodiadol oedd yn dal y llaw uchaf o fewn cylchoedd Ceidwadol. I raddau helaeth, roedd poblogrwydd y ffrwd benodol hon o Geidwadaeth yn deillio o barodrwydd cyson i gyfaddawdu: i ddechrau gyda’r don o syniadau democrataidd a fu’n ennill tir yn gyson trwy’r bedwaredd ganrif ar bymtheg; ac yna’n ddiweddarach gyda’r pwyslais cynyddol a roddwyd yn ystod yr ugeinfed ganrif ar yr angen i’r wladwriaeth ymyrryd mewn meysydd polisi cymdeithasol ac economaidd. Yn wir, erbyn y 1950au dadleuodd amryw o sylwebwyr gwleidyddol bod rhyw fath o gonsensws i’w weld yn datblygu ar y tir canol gwleidyddol – consensws a oedd yn cwmpasu ystod o Geidwadwyr Traddodiadol ynghyd ag amryw o Ryddfrydwyr Cymdeithasol a hefyd Sosialwyr Democrataidd. Cyfeirir yn aml at hwn fel ‘y consensws Keynesian’, gan fod y sawl a berthynai iddo yn tueddu i dderbyn rhai o ddaliadau sylfaenol yr economegydd John Maynard Keynes, ynglŷn â’r angen am drefniadau cymdeithasol ac economaidd a oedd yn cydnabod rôl allweddol y wladwriaeth.
-
-
Fodd bynnag, yn ystod y 1970au chwalwyd y consensws hwn gan symudiad gwleidyddol newydd a gaiff ei adnabod bellach fel ‘Y Dde Newydd’. Gan fod hwn yn symudiad a welwyd yn datblygu ar ochr dde’r sbectrwm gwleidyddol fe dueddir felly i drin y Dde Newydd fel ffrwd o syniadau sy’n perthyn i Geidwadaeth. Ar y cyfan, mae gwneud hynny’n ddigon priodol. Eto i gyd, mae angen cydnabod nad un corff trefnus o syniadau cydlynol a gaiff eu dwyn ynghyd o dan label y Dde Newydd. Yn hytrach gellir ei ddehongli fel traddodiad sy’n cwmpasu dwy gangen sy’n tynnu ar syniadau sy’n deillio o ddwy ffynhonnell wahanol:
- • Mae’r gangen neo-ryddfrydol yn seiliedig ar syniadau Rhyddfrydol Clasurol ynglŷn â’r economi, ac yn benodol syniadau meddylwyr megis Adam Smith ynglŷn â’r angen i hybu marchnadoedd cwbl rydd trwy gyfyngu ar reolaeth y wladwriaeth ar faterion economaidd. Roddwyd sylw o’r newydd i syniadau fel hyn yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif wrth i ymyrraeth economaidd a chymdeithasol y wladwriaeth ddod yn fwyfwy pellgyrhaeddol. Yn wir, erbyn y 1970au tybiwyd mai’r ymyrraeth wladwriaethol hon a fu’n bennaf gyfrifol am yr arafu economaidd mawr a welwyd ar draws gwledydd y gorllewin a’r chwyddiant sylweddol a ddaeth yn ei sgil. Yr ateb, yn nhyb meddylwyr megis yr economegwyr Freidrich von Hayek (1899-1992) a Milton Friedman (1912-2006) oedd mabwysiadu rhaglen wleidyddol radical a fyddai’n arwain at ‘wthio’r wladwriaeth yn ôl’, gan adael mwy o ofod ar gyfer menter breifat. O ran gweithredu ymarferol, arweiniodd hyn at bwyslais ar breifateiddio gwasanaethau a diwydiannau a fu cynt yn rhan o’r sector cyhoeddus ac felly o dan reolaeth y wladwriaeth.
- • Mae’r gangen neo-geidwadol yn adeiladu ar syniadau Ceidwadol ynglŷn â phwysigrwydd trefn, awdurdod a disgyblaeth – syniadau y gellir eu holrhain yn ôl i Geidwadwyr Awdurdodaidd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Rhoddwyd sylw o’r newydd i’r math yma o syniadau yn sgil y dybiaeth bod rhai o’r diwygiadau cymdeithasol a gyflwynwyd ar draws gwledydd gorllewinol yn ystod y 1960au, er enghraifft cyfreithloni ysgaru ac erthylu, diddymu’r gosb eithaf, llacio rheolau ar sensoriaeth a hefyd cydnabod amrywiaeth trwy bolisïau ar amlddiwylliannedd, wedi tanseilio ymdeimlad o sefydlogrwydd a dyletswydd cymdeithasol. Yn sgil hynny, mynnwyd y bu dirywiad difrifol mewn cyfraith a threfn a hefyd mewn moesoldeb cyhoeddus. O ganlyniad, cysylltir y Dde Newydd â dadleuon sy’n pwysleisio rhinweddau’r teulu traddodiadol ac yn cwestiynu’r duedd i gofleidio ffyrdd newydd o drefnu bywyd domestig; dadleuon sy’n cwestiynu’r parodrwydd i fabwysiadu agweddau cymdeithasol mwy goddefgar a rhyddfrydol ar faterion megis rhyw a rhywioldeb; dadleuon o blaid ail-gyflwyno cosbau troseddol llymach, gan gynnwys mewn perthynas â mân-droseddau; a dadleuon yn erbyn mewnfudo a datblygiad cymdeithasau amlddiwylliannol ac aml-ethnig yn sgil y gred bo hyn yn debygol o esgor ar wrthdaro ac ansefydlogrwydd. Yn aml, roedd dadleuon o’r fath yn cael eu mynegi gan gyfeirio’n ôl at orffennol mwy trefnus lle'r oedd pobl yn byw bywydau mwy disgybledig a rhinweddol. Er enghraifft ym Mhrydain byddai lladmeryddion dadleuon o’r fath yn aml yn sôn am yr angen i ail-sefydlu gwerthoedd ‘Fictoraidd’.
O ganlyniad, mae’r Dde Newydd yn gorff digon brith o syniadau gwleidyddol sy’n ceisio cyfuno math penodol o ryddfrydiaeth economaidd gydag ymagwedd geidwadol ac awdurdodaidd wrth drafod materion cymdeithasol. Yn hynny o beth, mae’n gorff o syniadau sy’n cyfuno elfennau radical, adweithiol a thraddodiadol oll gyda’i gilydd. Heb amheuaeth, profodd y syniadau hyn yn arbennig o ddylanwadol yn ystod degawdau olaf yr ugeinfed ganrif. Rhoddwyd y mynegiant mwyaf amlwg iddynt yn ystod y 1980au ar ffurf Thatcheriaeth yn y Deyrnas Unedig a Reaganiaeth yn yr Unol Daleithiau. Fodd bynnag nid dim ond ffenomen a brofodd yn ddylanwadol yn y lleoliadau hyn yn unig oedd y Dde Newydd. Bu iddo hefyd adael ei ôl ar wleidyddiaeth mewn rhannau eraill o Ewrop, Awstralia a Seland Newydd. Yn wir, yn achos y syniadau hynny a gysylltir â’r adain neo-ryddfrydol, ymledodd eu dylanwad i bedwar ban byd erbyn cychwyn yr unfed ganrif ar hugain yn sgil y broses o globaleiddio economaidd.Er gwaethaf y dylanwad hwn, dylid nodi bod y Dde Newydd yn draddodiad sydd, yn y pendraw, yn seiliedig ar wrthgyferbyniad pwysig rhwng ei ganghennau neo-ryddfrydol a neo-geidwadol. Tra bo’r naill yn pwysleisio’r angen i’r wladwriaeth gamu yn ôl a gadael i unigolion reoli eu materion (economaidd) eu hunain, mae’r llall yn galw ar y wladwriaeth i wneud mwy i oruchwylio a rheoleiddio ein hymddygiad cymdeithasol, gan gynnig arweiniad (moesol) eglur. Mae rhai wedi dadlau bod hwn yn densiwn sylfaenol sy’n tanseilio’r graddau y gellir dehongli’r Dde Newydd fel un corff o syniadau. Fodd bynnag, os oes rhaid meddwl am y Dde Newydd fel un ffrwd Geidwadol, yna mae’n bosib mai’r ffordd orau o wneud hynny yw trwy feddwl am y sawl sy’n arddel y syniadau hyn fel pobl sy’n credu mewn gwladwriaeth gyfyngedig ond eto un gref, neu fel y noda Andrew Gamble (1981), pobl sy’n credu ‘in the free economy and the strong state’.
Er bod amryw wedi awgrymu y dylid ystyried Edmund Burke fel tad Ceidwadaeth, byddai’n anghywir hawlio bod y syniadaeth wedi datblygu ar hyd un llwybr penodol, gan lynu’n dynn at y dadleuon gwreiddiol a amlinellwyd ganddo yn Reflections on the Revolution in France (1790). Yn hytrach, ers cyfraniad cychwynnol Burke mae Ceidwadaeth wedi datblygu mewn ffyrdd amrywiol ac erbyn heddiw gellir adnabod ystod o ffrydiau Ceidwadol gwahanol. Dyma gyflwyno tri o’r rhai mwyaf arwyddocaol.