Cyflwynwyd y rhaniad rhwng cenedlaetholdeb sifig ac ethnig gan Hans Kohn (1891-1971) er mwyn dadansoddi a disgrifio mathau gwahanol o genedlaetholdeb. Er eu bod yn gategorïau lled ddiweddar, maent yn seiliedig ar safbwyntiau sy’n meddu ar hanes hir sy’n ymestyn yn ôl i’r ddeunawfed ganrif. Ymhellach, er eu bod yn gategorïau a gyflwynwyd at bwrpas dadansoddol, maent hefyd wedi meddu ar wedd normadol gref – yn yr ystyr bod Kohn yn tueddu i gysylltu’r sifig gyda’r hyn sy’n ‘dda’ a’r ethnig gyda’r hyn sy’n ‘ddrwg’. Awgrymodd bod cenedlaetholdeb sifig yn seiliedig ar agweddau agored, mwy rhyddfrydol a goddefgar, tra bod y cenedlaetholdeb ethnig yn fwy caeedig, cul ac anoddefgar.

  • Hanfod y gwahaniaeth yw seiliau'r genedl, yn benodol yr hyn sy’n dynodi aelodaeth o’r gymuned genedlaethol ac yn dwyn y bobl at ei gilydd, gan gynnig sail i’w hunaniaeth gyfunol. Caiff cenedlaetholdeb sifig, ei gysylltu’n bennaf â’r athronydd o Lydaw, Ernest Renan (1823-1892). Tra bod Renan yn cydnabod bod ystod o elfennau yn cyfrannu at greu ymwybyddiaeth o genedl, mynnodd mai’r hyn sy’n fwyaf allweddol yn y pendraw yw dyhead aelodau’r grŵp i feddwl am eu hunain fel cenedl – hynny yw, eu parodrwydd i ewyllysio’r genedl. Fodd bynnag, er pwysigrwydd Renan mewn perthynas â chenedlaetholdeb sifig, mae’n bosib hefyd camu’n ôl ymhellach at syniadau’r athronydd Cymreig, Richard Price (1723-1791), a’i drafodaeth enwog o natur gwladgarwch yn 1789, ar wawr y Chwyldro Ffrengig. Pwysleisiodd Price nad y tir neu ein man geni sy’n bwysig wrth ddiffinio cenedl, ond y gymuned o bobl sy’n dewis byw gyda’i gilydd, ac yn benodol, y llywodraeth, cyfraith a chyfansoddiad sydd yn gosod y fframwaith ar gyfer bywyd y gymuned honno. Yr hyn sydd yn ein huno fel cenedl ac yn ein cynnal felly yw’r sefydliadau sifig yma, nid ein tiriogaeth neu’n hunaniaeth.

  • richard-price-1789.jpg
    Richard Price
  • Cyferbynnir y traddodiad sifig uchod gyda chenedlaetholdeb ethnig, a gaiff ei gysylltu â’r gred mai elfennau penodol ar hunaniaeth person sy’n cynnig sail ar gyfer aelodaeth o genedl benodol. Ymhellach, tueddir i dybio bod cenedlaetholdeb ethnig yn trin yr elfennau hyn fel rhai sy’n gwbl anhepgorol er mwyn sicrhau parhad y genedl ac undod ei haelodau. Erbyn heddiw, tueddir i dybio mai ffactorau megis hil neu dras penodol yw’r rhai y bydd cenedlaetholwyr ethnig yn dewis eu pwysleisio wrth ddynodi aelodaeth o genedl. Fodd bynnag, mae’r traddodiad yn un a gaiff ei gysylltu â syniadau’r athronydd Almaenig o’r ddeunawfed ganrif, Joseph Herder (1744-1803), ac roedd ef yn rhoi pwyslais hefyd ar nodweddion diwylliannol, megis chwedloniaeth, traddodiadau a chelfyddyd, ond yn anad dim, iaith a’r safbwynt unigryw ar y byd y mae’n cynrychioli sydd yn gynsail i’r genedl.

  • John-Stuart-Mill.jpg
    J.S.Mills
  • Datblygodd y categorïau sifig ac ethnig i fod yn rhai poblogaidd iawn ymhlith ysgolheigion sydd wedi astudio cenedlaetholdeb. Fodd bynnag, mae peryg rhoi gormod o bwyslais ar y rhaniad hwn gan fod dadleuon cenedlaetholwyr yn aml yn medru bod yn gyfuniad cymhleth o’r sifig a’r ethnig. Mae ystyried rhai o ddadleuon yr athronydd Seisnig, John Stuart Mill (1806-1873) yn fodd o dynnu sylw at rai o’r tensiynau hyn. Adnabyddir Mill fel lladmerydd ar ran y ffurf sifig o genedlaetholdeb, yn sgil y pwyslais a rodda ar yr angen i barchu dewis grŵp o bobl i ymffurfio’n genedl, a hefyd y pwyslais a rodda ar hanes gwleidyddol y genedl (hynny yw ymwybyddiaeth o ddatblygiad ei sefydliadau llywodraethol). Ar yr un pryd, dadleuodd Mill fod creu amodau a fydd yn caniatáu i sefydliadau gwleidyddol y genedl weithredu’n effeithiol yn galw am sicrhau bod yr holl aelodau yn rhannu rhai nodweddion diwylliannol cyffredin, ac yn arbennig, eu bod yn rhannu iaith gyffredin. Yn wir, ceir dyfyniad enwog o eiddo Mill lle mae’n rhybuddio’r Cymry y byddai’n ddoeth iddynt aberthu agweddau ar eu hunaniaeth ddiwylliannol er mwyn hwyluso’r broses o ddod yn aelodau cyflawn o’r ‘genedl’ Brydeinig:

    • 'Nobody can suppose that it is not more beneficial for a Breton or a Basque of French Navarre ... to be a member of the French nationality... than to sulk on his own rocks, the half-savage relic of past times ...The same remark applies to the Welshman or the Scottish highlander as members of the British nation' (J. S. Mill, Considerations on Representative Government, 1861).

    Gwelir felly nad yw dadleuon ‘cenedlaetholwyr sifig’ honedig fel Mill bob amser yn medru cael eu gwahaniaethu’n llwyr o safbwyntiau mwy ethnig sy’n pwysleisio’r angen i unigolion feddu ar nodweddion diwylliannol penodol cyn medru hawlio aelodaeth lawn o’r genedl. Yn wir, nid eithriad mo hyn chwaith. Mae gwaith ymchwil diweddar wedi tynnu sylw at y ffaith y bu tuedd gyson ymhlith rhai o genedl-wladwriaethau mawr y gorllewin – Ffrainc, Prydain ac Unol Daleithiau America er enghraifft, sef yr arch enghreifftiau o genhedloedd sifig yn ôl Kohn – i arddel dehongliadau o hunaniaeth genedlaethol sy’n pwysleisio elfennau ethnig. Fe welir hyn yn bennaf mewn perthynas â pholisïau mewnfudo y gwledydd hyn, lle bo meddu ar y gallu i siarad iaith benodol (Ffrangeg neu Saesneg) yn rhag-amod ar gyfer ennill dinasyddiaeth. O ganlyniad, tra na ellir gwadu bod y rhaniad rhwng cenedlaetholdeb sifig ac ethnig yn meddu ar werth dadansoddol, dylid gochel rhag dibynnu’n ormodol ar y categorïau hyn. Y gwir amdani yw mai anaml y bydd enghreifftiau o genedlaetholdeb yn syrthio’n daclus i’r naill gategori neu’r llall. Yn amlach na pheidio, bydd cenedlaetholdeb yn gymysgedd cymhleth o’r ddwy elfen.