-
-
Yn wir, mae’n bosib dehongli’r drafodaeth rhwng Price a Burke, a’r syniadau gwahanol a fynegir ganddynt, fel enghraifft o’r ddadl ynghylch gwreiddiau cenhedloedd a chenedlaetholdeb. Tra bod Burke yn cynrychioli’r safbwynt mwy hanesyddol, sy’n ystyried y genedl fel endid organig sydd wedi esblygu dros amser, mae syniadau Price yn fynegiant o’r dehongliad modernaidd sy’n sefydlu cyswllt pendant rhwng y genedl â sefydliadau’r wladwriaeth. Ceir hefyd yn y ddadl rhwng Price a Burke awgrym o’r ffurfiau gwahanol ar genedlaetholdeb a fyddai’n datblygu yn hwyrach yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn arbennig Cenedlaetholdeb Rhyddfrydol – sy’n adlewyrchu nifer o safbwyntiau Price ynglŷn â’r angen am wladgarwch er mwyn hyrwyddo gwerthoedd megis rhyddid, rhinwedd a dinasyddiaeth – a Chenedlaetholdeb Ceidwadol – sy’n adleisio pwyslais Burke ar themâu megis traddodiad, dyletswydd ac awdurdod. Maes o law byddai ffurfiau cenedlaetholgar amgen yn datblygu hefyd – Cenedlaetholdeb Ymledol a Chenedlaetholdeb Gwrthdrefedigaethol – gan arwain at gysylltu cenedlaetholdeb â thrafodaethau ynglŷn â rhinweddau ymerodraeth a threfedigaethu. Bu i’r naill gynnig sail ar gyfer cyfiawnhau ymgyrchoedd ymledol y grymoedd ymerodraethol, tra bo’r llall wedi’i gysylltu â dadleuon y rheini a fu’n brwydro’n ôl.
Er gwaethaf yr amrywiaeth o safbwyntiau cenedlaetholgar a ddatblygodd ers dyddiau’r Chwyldro Ffrengig, mae’n bosib adnabod rhai elfennau allweddol sy’n nodweddu cenedlaetholdeb o bob math. Yn eu mysg, mae’r pwyslais ar y genedl a’r syniad o ymlyniad cenedlaethol, a hefyd pwyslais ar egwyddorion megis sofraniaeth genedlaethol a hunanbenderfyniaeth. Elfen arall sy’n hawlio sylw llawer o genedlaetholwyr yw’r angen i gynnal diwylliant traddodiadol y genedl. Fodd bynnag, ceir anghydweld mewn rhai cylchoedd ynglŷn â’r graddau y dylid pwysleisio nodweddion diwylliannol wrth ddiffinio’r genedl. Arweinia hyn at ystyriaeth o’r rhaniad poblogaidd rhwng cenedlaetholdeb sifig a chenedlaetholdeb ethno-ddiwylliannol – sy’n seiliedig ar yr honiad (problematig) bod modd gwahaniaethu rhwng mathau gwahanol o genedlaetholdeb ar sail y pwyslais a roddir ffactorau sifig (megis dinasyddiaeth) neu ffactorau ethnig (megis hil a diwylliant).
Pan fu Price yn trafod ei weledigaeth ef ar gyfer y genedl ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif fe wnaeth hynny yng nghyd-destun Prydain Fawr, a datblygiad y genedl benodol honno. Ar y pryd, nid oedd mudiad cenedlaetholgar Cymreig trefnus yn bodoli. Fodd bynnag, mae cenedlaetholdeb wedi bod yn nodwedd amlwg yng ngwleidyddiaeth Cymru dros y canrifoedd, boed hynny o safbwynt dylanwad Prydeindod ar Gymru, neu yn sgil ymdrechion i sicrhau mynegiant i, neu gydnabyddiaeth o, Gymreictod. O droi wedyn i’r lefel fyd-eang, gellir hawlio bod cenedlaetholdeb yn rhan cwbl annatod o weithrediad gwleidyddiaeth ryngwladol heddiw. Deillia hyn o’r ffaith mai’r genedl-wladwriaeth sy’n parhau i gael ei gweld fel yr uned sylfaenol ar gyfer trefnu daearyddiaeth wleidyddol y byd ac ar gyfer strwythuro ymwneud rhwng pobloedd gwahanol. Er hyn, fe geir rhai lleisiau pwysig sy’n cwestiynu a ddylai’r genedl barhau i fod yn ystyriaeth mor flaenllaw i’r dyfodol.
Cariad at ein Gwlad yw’r teitl Cymraeg a roddir i destun Richard Price – A Discourse on the Love of our Country – a sbardunodd y rhyfel pamffledi yn ystod y blynyddoedd yn dilyn y Chwyldro Ffrengig yn 1789. Daeth yr ysgrif yn adnabyddus yn sgil y dadleuon radical, rhyddfrydol eu naws, a fynegwyd ynddo a’r ffaith iddynt gymell Edmund Burke i ymateb gyda’i destun enwog, Reflections on the Revolution in France. Fodd bynnag, trafod gwladgarwch oedd pwrpas pennaf Price, ac yn benodol, yr egwyddorion hynny ddylai fod yn sail i’r genedl fodern. Yn hynny o beth, mae’r testun yn adlewyrchiad teilwng o’r oes – cyfnod a adnabyddir bellach yn un a oedd nid yn unig yn hollbwysig o safbwynt datblygiad rhyddfrydiaeth, ceidwadaeth a sosialaeth, ond hefyd o safbwynt y syniad o’r genedl ei hun.