-
Syniadau laissez-faire
Mae Rhyddfrydwyr Clasurol wedi dadlau o blaid safbwynt laissez-faire sy'n dweud na ddylai'r wladwriaeth ymyrryd o gwbl yn yr economi. Golyga hyn bod rhyddfrydwyr clasurol, dros y blynyddoedd, wedi gwrthwynebu mesurau’r wladwriaeth i reoleiddio'r economi, er enghraifft:
- • Mesurau sy'n cyfyngu ar hyd y diwrnod gwaith.
- • Mesurau sy'n rhoi lleiafswm cyflog i bob gweithiwr.
- • Mesurau sy'n rhoi safonau iechyd a diogelwch y dylai pob cyflogwr gadw atynt.
- • Mesurau sy'n rhoi safonau amgylcheddol y dylai cwmnïau a diwydiannau gadw atynt.
Roedd gwaith economegwyr clasurol y 18fed ganrif, fel Adam Smith a David Ricardo wedi dylanwadu ar y safbwynt yma. Mae llyfr enwocaf Smith, The Wealth of Nations (1776), yn dal i gael ei ddarllen gan bobl hyd yn oed heddiw. Mae’n defnyddio rhai o egwyddorion sylfaenol rhyddfrydiaeth glasurol, fel rhyddid negyddol a gwladwriaeth gyfyngedig, ar gyfer yr economi. Ysgrifennai Smith mewn cyfnod pan oedd gwladwriaethau yn rheoleiddio tipyn ar yr economi. Er enghraifft, trwy’r 15eg ganrif a’r 17eg ganrif, roedd llawer yn credu y dylai gwladwriaethau ymyrryd yn yr economi er mwyn cynyddu faint o nwyddau a oedd yn cael eu hallforio, ond ar yr un pryd, lleihau faint o nwyddau a oedd yn cael eu mewnforio. Un prif reswm dros ysgrifau economaidd Smith oedd ei fod am ymosod ar y syniad hwn a dangos y byddai'n llawer gwell pe bai'r wladwriaeth ddim yn ymyrryd o gwbl yn yr economi. I ddechrau, dadleuodd Smith os oedd y wladwriaeth yn ymyrryd yn yr economi, roedd yn cyfyngu ar ryddid pobl, er enghraifft rhyddid perchnogion cwmnïau i benderfynu pa nwyddau i'w cynhyrchu, i bwy roeddent am eu gwerthu ac am ba bris; rhyddid gweithwyr i benderfynu i bwy roeddent am weithio, am faint o gyflog ac am faint o amser bob wythnos; a rhyddid cwsmeriaid i benderfynu pa nwyddau yr hoffent eu prynu. Hefyd, yn ogystal â rhoi mwy o ryddid economaidd i unigolion, credai Smith y byddai’r economi yn llawer mwy hyblyg ac effeithiol, pe byddai’r wladwriaeth yn peidio ymyrryd. Credai Smith y dylid meddwl am yr economi fel marchnad sy'n medru trefnu a rheoleiddio ei hun. O ganlyniad, ni ddylai’r wladwriaeth ymyrryd, er enghraifft pan fydd diweithdra neu chwyddiant, gan adael i 'law ddirgel' y farchnad ddelio â nhw.
Yn fwy diweddar, cafwyd dadleuon tebyg i rai Smith gan rai o feddylwyr neo-ryddfrydol y Dde Newydd, megis Freidrich von Hayek a Milton Freedman. Gellir dadlau bod y rhain a’r gwleidyddion a oedd yn dilyn eu syniadau, fel y cyn Brif Weinidog, Margaret Thatcher, wedi rhoi hyd yn oed fwy o bwyslais ar fanteision marchnad rydd ac unigolyddiaeth a phrynwriaeth nag y gwnaeth Smith ganrifoedd ynghynt. Roedd Smith yn arbennig yn rhoi pwyslais ar werth moesol y farchnad a’i chyfraniad at y gymdeithas, tra bod neo-ryddfrydwyr fel Thatcher yn cwestiynu’r holl syniad o gymdeithas a chydweithio er lles pawb. Dyma safbwynt yr athronydd Americanaidd, Robert Nozick – sydd yn dweud mai casgliad o unigolyn ydym sydd yn dewis p’un ai i gydweithio gydag eraill neu beidio, a hynny am resymau personol yn unig. Un arall o syniadau pwysicaf y neo-ryddfrydwyr presennol yw'r gred bod y farchnad yn effeithlon ac y bydd wastad yn well na rheoli’r wladwriaeth yn wleidyddol. Er enghraifft, dywedodd Hayek bod cynllunio a rheoleiddio gan y wladwriaeth yn araf ac yn aneffeithiol, nid yn unig gyda materion economaidd traddodiadol, ond hefyd gyda pholisi cymdeithasol. Dyma sydd y tu ôl i’r syniad o gyflwyno egwyddorion y farchnad wrth gynnig gwasanaethau pwysig fel iechyd. Credir y bydd hyn yn arwain at wasanaeth mwy dynamig fydd yn ymateb yn well i ddisgwyliadau'r 'cwsmer'.
-
-
Rheolaeth economaidd
Yn groes i'r safbwynt laissez-faire, mae'r rhai sydd yn rhyddfrydwyr modern yn credu y dylai'r wladwriaeth fod yn barod i chwarae rôl fwy actif yn yr economi. Mae gwaith yr economegydd John Maynard Keynes, ac yn enwedig ei lyfr The General Theory of Employment, Interest and Money (1936) yn credu hyn. Roedd Keynes yn cwestiynu a allai’r farchnad reoleiddio'i hun, a delio â phroblemau economaidd fel diweithdra heb i’r wladwriaeth ymyrryd.
Credai Keynes mai'r ffactor pwysicaf i economi llwyddiannus, a’r swyddi a fyddai’n dilyn, yw'r 'galw' cyffredinol a geir o fewn yr economi. Dadleuodd y gallai’r wladwriaeth gymryd camau i lywio'r economi drwy gynyddu’r lefel o alw. Gellid gwneud hyn naill ai drwy benderfynu codi lefel gwariant cyhoeddus neu drwy dorri trethi. Felly, mewn cyfnod economaidd anodd, lle mae diweithdra yn cynyddu, un opsiwn posib fyddai i’r wladwriaeth fuddsoddi mewn prosiectau ar gyfer adeiladu ysgolion, ysbytai neu ffyrdd newydd. Credai Keynes y byddai defnyddio arian cyhoeddus fel hyn yn gwella’r economi mewn sawl ffordd gwahanol. I ddechrau byddai sectorau eraill o'r economi yn manteisio, gan y byddai angen prynu llawer o wahanol ddefnyddiau ar gyfer y prosiectau adeiladu newydd. Hefyd byddai angen cyflogi gweithwyr newydd (e.e. peirianwyr, adeiladwyr, crefftwyr), a byddai’r bobl hyn yn ennill cyflogau a bydden nhw wedyn yn gwario’r arian yn yr economi. Felly, os byddai’r wladwriaeth yn ymyrryd yn ariannol, byddai’r economi'n gyffredinol yn tyfu.
Roedd syniadau Keynes yn ddylanwadol iawn am gyfnod hir yn yr 20fed ganrif, yn enwedig rhwng y 1930au a'r 1970au, yn enwedig ar draws Gogledd America a Gorllewin Ewrop. Ond, wrth i nifer o wladwriaethau’r gorllewin gael cyfnod ariannol anodd yn ystod y 1970au, rhoddwyd mwy o sylw i syniadau neo-ryddfrydol pobl fel Hayek a Friedman a'r pwyslais ar bolisïau laissez-faire. Ond gwnaeth nifer o wladwriaethau’r gorllewin droi yn ôl at rai o egwyddorion Keynes, ac yn enwedig ei ddadl dros ddefnyddio gwariant cyhoeddus er mwyn codi'r economi am gyfnod yn dilyn problemau ariannol rhyngwladol mawr yn 2008.
Mae pob rhyddfrydwr yn credu bod economi marchnad rydd yn bwysig. Fodd bynnag mae gan ryddfrydwyr safbwyntiau gwahanol ynglŷn â faint o gamau y dylai'r wladwriaeth gymryd er mwyn ceisio rheoleiddio a llywio'r economi. Mae ateb gwahanol ryddfrydwyr i'r cwestiwn hwn yn dibynnu ai rhyddfrydwyr clasurol neu fodern ydynt.