Tarddiad y Blaid Ryddfrydol

    Tra bod elfennau o ryddfrydiaeth wedi dylanwadu ar wleidyddiaeth y wladwriaeth trwy’r 18fed ganrif, ni chafwyd Rhyddfrydiaeth wleidyddol swyddogol yn y Deyrnas Unedig tan etholiad 1868, pan ffurfiwyd y Blaid Ryddfrydol. Ond roedd agweddau ar ryddfrydiaeth wedi dylanwadu’n fawr ar y wladwriaeth cyn hynny.

    Etholiad 1868 oedd yr etholiad cyntaf yn dilyn pasio’r Ddeddf Ddiwygio yn 1867, a roddodd y bleidlais i ddynion oedd yn berchen tŷ neu’n talu rhent o £10 yn y bwrdeistrefi. Gwelwyd nifer y pleidleiswyr yn treblu, gan gyrraedd dros filiwn o ddynion am y tro cyntaf.

    Daeth tri grŵp at ei gilydd – y Chwigiaid, y Peelites a’r Radicaliaid – a dyma oedd y Blaid Ryddfrydol.

    Roedd y Chwigiaid yn mynd yn ôl i’r 17eg ganrif. Yn wahanol i’w gwrthwynebwyr – y Torïaid – roedden nhw’n credu bod y Senedd yn gorff uwch na’r Frenhiniaeth. Grŵp bach o’r Ceidwadwyr oedd y Peelites a oedd yn cefnogi Robert Peel, sef arweinydd y blaid yn 1846. Masnach rydd oedd eu prif ddiddordeb. Roedd y radicaliaid yn grŵp a oedd yn pwysleisio’r angen am roi’r bleidlais i fwy o bobl, a chredent yn rhyddid y wasg a chefnogi’r tlawd.

    Yn y cyfnod hwnnw nid oedd gan Gymru llawer o gynrychiolaeth, y tirfeddianwyr oedd â’r dylanwad i gyd ac roedd llawer am weld newid. Felly, nid syndod oedd gweld y genedl yn troi yn rhyddfrydol erbyn diwedd y ganrif, yn enwedig wedi’r ddeddf ddiwygio yn 1884, a roddodd y bleidlais i ddynion oedd yn berchen ar gartref neu’n talu £10 rhent yn y siroedd, hefyd. Yn 1832, 32 sedd oedd yng Nghymru, ac 14 ohonynt wedi’u dal gan y Torïaid, 18 gan y Chwigiaid. Erbyn 1868 roedd y Blaid Ryddfrydol wedi ffurfio’n swyddogol ac wedi ennill 23 o’r 33 sedd, ac erbyn 1885, enillon nhw 29 o’r 33 sedd.

  • richard-price-1789.jpg
    Richard Price
  • Radicaliaeth gynnar y Cymry

    Unwaith eto, mae Richard Price yn ffigur canolog gan ei fod yn cael ei gysylltu gyda’r radicaliaid, y grŵp a oedd fwyaf perthnasol i sefyllfa’r Cymry. Er nad oedd y Cymry yn gyfarwydd â’i syniadau yn ystod ei oes ef (1723-1791), roedd y gwerthoedd a safodd drostynt yn rhai amlwg yn rhyddfrydiaeth Cymru yn y 19eg ganrif.

    Roedd ei bwyslais ar ryddid y wasg, rhoi’r bleidlais i fwy o bobl a sicrhau bod y llywodraeth yn atebol yn sylfaen i’r math o wleidyddiaeth roedd y Cymry yn gweithio tuag ato. Roedd Williams Jones, Llangadfan yn byw yn yr un cyfnod, ac arhosodd ef yng Nghymru. Roedd yn enwog am gefnogi’r Chwyldro Ffrengig, ac roedd yn annog y Cymry i symud i’r Unol Daleithiau er mwyn bod yn rhydd o afael y wladwriaeth Brydeinig.

    Mudiad academaidd a phoblogaidd oedd radicaliaeth gynnar a datblygodd yn y 19eg ganrif wrth iddo gael ei gysylltu ag achosion fel Siartaeth, a oedd yn gofyn am roi’r bleidlais i fwy o bobl. Roedd radicaliaeth yn boblogaidd iawn yn Ne Cymru oherwydd ei bod yn ardal ddiwydiannol.

    Roedd mudiadau fel y ‘Scotch Cattle’ yn fwy milwriaethus ac yn cosbi’r gweithwyr os nad oeddent yn barod i gefnogi gweithredu diwydiannol. Hefyd, digwyddodd Helynt Beca yn 30au a 40au’r ganrif, lle'r oedd ffermwyr cefn gwlad Cymru yn ymosod ar y tollbyrth, a oedd yn casglu trethi am ddefnyddio’r ffyrdd.

  • Anghydffurfiaeth a Rhyddfrydiaeth

    Ni ellir deall twf a dylanwad rhyddfrydiaeth yng Nghymru heb hefyd ddeall y newidiadau crefyddol oedd wedi newid y genedl yn ystod hanner cyntaf y 19eg ganrif.

    Dyma’r cyfnod pan welwyd Anghydffurfiaeth, neu Ymneilltuaeth yng Nghymru, yn tyfu. Sectau Cristnogol oeddent, a oedd am dorri i ffwrdd oddi wrth Eglwys Lloegr a chynnal gwasanaethau gwahanol mewn capeli yn hytrach nag Eglwysi. Un o’r sectau hyn oedd yr Undodiaid, ac nid oeddent yn credu yn y syniad o’r Drindod. Roedd Richard Price yn aelod o’r Undodiaid ac roedd wedi bod yn amlwg iawn dros radicaliaeth.

    Yn ogystal â’r Annibynwyr a’r Bedyddwyr (enwadau a ddechreuodd yn y 17eg ganrif) y Methodistiaid oedd y sect newydd, nerthol sy’n cael ei gysylltu gyda thrawsnewid Cymru i fod yn genedl o anghydffurfwyr. Cafwyd ‘diwygiad’ Methodistaidd yn y 18fed ganrif dan arweiniad Howell Harris a William Williams Pantycelyn. Er eu bod yn wreiddiol yn rhan o Eglwys Loegr, erbyn dechrau’r 19eg ganrif roeddent wedi gadael ac yn rhoi egni newydd i’r mudiad anghydffurfiol.

    Y tu ôl i’r mudiad yma oedd dymuniad i wella bywyd mwyafrif y boblogaeth yng Nghymru, y dosbarth gweithiol a’r dosbarth canol. Erbyn dechrau’r 20fed ganrif, gwelwyd yr ‘efengyl gymdeithasol’ a oedd yn gofyn am gyfiawnder cymdeithasol yn enw Duw.

    Cafodd yr egni crefyddol, cymdeithasol yma ei gysylltu gan arweinwyr y mudiad gyda’r Blaid Ryddfrydol. Roedd y blaid honno yn gallu manteisio ar yr holl newidiadau cymdeithasol a’r radicaliaeth pan ddiwygiwyd y system bleidleisio yn 1867. I bob pwrpas roedd Cymru eisoes yn genedl ‘ryddfrydol’ oherwydd ei chrefydd, ei gwleidyddiaeth a’i daliadau cymdeithasol. Rhwng etholiad 1868 ac etholiad 1888 (pan roddwyd y bleidlais i fwy o bobl eto), daeth y genedl anghydffurfiol i fod yn genedl ryddfrydol hefyd.

  • Henry-Richard.jpg
    Henry Richard
  • Y Cymry Rhyddfrydol

    Roedd nifer o bobl enwog yn y cyfnod yn rhan o’r datblygiadau yma, ac un ohonynt oedd Henry Richard, a ddaeth yn aelod seneddol Merthyr Tudful yn 1868. Roedd ef yn credu mewn democratiaeth, roedd yn cefnogi heddychiaeth ac roedd yn siarad o blaid ffermwyr cefn gwlad Cymru. Roedd heddychiaeth yn rhan o’r agenda rhyddfrydol-anghydffurfiol. Roedd diddordeb newydd mewn gwleidyddiaeth yng Nghymru yn y cyfnod hwn – ‘The Rebirth of a Nation’, yn ôl yr hanesydd K.O. Morgan. Deddf Cau'r Tafarndai ar y Sul yn 1881 oedd y ddeddf gyntaf i gael ei basio gan Senedd San Steffan ar gyfer Cymru’n unig ers y Deddfau Uno gyda Lloegr yn ôl yn 1542. Digwyddodd hyn oherwydd dylanwad anghydffurfiaeth, a’r mudiad Dirwest. Yna cafwyd Deddf Addysg Ganolradd Cymru yn 1889, oedd yn ariannu ysgolion canolradd i Gymru. Canlyniad blynyddoedd o ymgyrchu oedd hyn, yn dilyn llwyddiant sefydlu Prifysgolion Aberystwyth, Bangor a Chaerdydd.

    Yn ail hanner y ganrif daeth ffigurau eraill yn enwog, a nifer ohonynt, fel Michael D. Jones, T.E. Ellis a’r Lloyd George ifanc yn uno eu syniadau rhyddfrydol gyda chenedlaetholdeb yn ogystal. Roedd Michael D. Jones yn feirniadol iawn o’r Wladwriaeth Brydeinig a’r effaith yr oedd yn cael ar ddiwylliant ac iaith Cymru. Am y rheswm hwn felly, roedd yn gefnogol iawn o’r cynllun i sefydlu Gwladfa ym Mhatagonia. Ymunodd T.E. Ellis a Lloyd George gyda Cymru Fydd, mudiad a ffurfiwyd yn 1886 gan rai o Gymry Llundain yn wreiddiol, ac roeddent am weld hunanlywodraeth i Gymru. Er y bu llawer o gyffro a diddordeb, daeth y mudiad i ben, yn rhannol oherwydd bod aelodau yn y De a’r Gogledd yn anghytuno – ond yn fwy tebygol oherwydd nad oedd gwreiddiau dwfn gan y mudiad nac apêl torfol.

    Aeth Lloyd George ymlaen i fod yn Ganghellor ac yn Brif Weinidog mewn llywodraeth Ryddfrydol. Yn ystod y cyfnod hwn gwelwyd gwleidyddiaeth yn trawsnewid. Yn 1910 pasiwyd ‘Cyllideb y Bobl’, a oedd yn gosod trethi sylweddol ar y dosbarth uwch a’u tiroedd er mwyn cael arian ar gyfer rhaglen lles cymdeithasol.

    Gellir gweld syniadau Lloyd George a rhyddfrydiaeth y Cymry o’r cyfnod yma yng ngwaith Syr Henry Jones, un o aelodau mudiad y ‘Delfrydwyr Prydeinig’(British Idealists). Roedd syniadau’r grŵp yma yn sail i ryddfrydiaeth fodern. T.E. Green oedd y mwyaf enwog ohonynt. Roedd yn pwysleisio’r ffaith bod yr unigolyn yn dibynnu ar y wladwriaeth a’r gymdeithas a bod angen gofal ‘o’r crud i’r bedd’. Roedd yn gweld rôl llywodraeth fel un sy’n ymyrryd, er mwyn sicrhau bod yr unigolyn yn datblygu. Y grŵp hwn heriodd ryddfrydiaeth glasurol gan bwysleisio syniadau fel ‘rhyddid cadarnhaol’.

    Mewn ysgrif gan Henry Jones yn y Gymraeg, Dinasyddiaeth Bur (1911), gwelir hefyd y gwahaniaeth rhwng rhyddfrydiaeth a’r mudiad gwleidyddol newydd oedd yn dod yn boblogaidd yng Nghymru, sef Sosialaeth. Gofynna Jones i’w ddarllenwyr, sef chwarelwyr gogledd Cymru, i beidio dilyn syniadau chwyldroadol a oedd yn rhoi anghenion y dosbarth gweithiol uwch ben anghenion eraill. Credai ef bod angen i bob dosbarth cymdeithasol weithio gyda’i gilydd er lles pawb, ac mai dyma yw dinasyddiaeth bur.

  • Tranc Rhyddfrydiaeth yng Nghymru

    Yn wir, dechrau’r 20fed ganrif oedd uchafbwynt Rhyddfrydiaeth fel plaid wleidyddol yng Nghymru, ond hefyd roedd yn ddechrau ar ddiwedd dylanwad rhyddfrydiaeth. Roedd Sosialaeth yn ddylanwad mawr yn yr ardaloedd diwydiannol, wrth gwrs, ac roedd y Blaid yn wynebu problemau gydag Iwerddon a’r mudiad Swffragét.

    Yna fe ddaeth y Rhyfel Byd Cyntaf a oedd yn sioc anferth, ac erbyn diwedd yr 1920au, y Blaid Lafur oedd y blaid flaengar yng ngwleidyddiaeth Prydain. Aeth nifer o’r ffigurau enwog ymlaen i weithio dros achosion eraill, fel David Davies a fu’n gweithio dros heddwch, ond roedd dylanwad y Blaid fel plaid Seneddol yn parhau mewn ardaloedd amaethyddol fel Ceredigion a Phowys.

    Yn wir, yn 2017 methodd y Blaid â dychwelyd yr un aelod Seneddol i San Steffan am y tro cyntaf ers dros ganrif. Mae dal i fod un Aelod Cynulliad, sef Kirsty Williams, sydd mewn clymblaid gyda’r Blaid Lafur ac mae hi’n dal swydd fel y Gweinidog dros Addysg.

    Ac eto, er bod y blaid wedi dirywio’n araf nes bod ganddi fawr ddim dylanwad (yr un pryd ag y bu i’r Capeli ddirywio) y gwir yw bod gwerthoedd Rhyddfrydiaeth yn rhan bwysig o Gymru fel cenedl. Gellir dweud bod y Blaid wedi dirywio cymaint am fod syniadau ‘rhyddfrydol’ wedi llwyddo i ddod yn ganolog yn y gymdeithas.