Er bod rhyddfrydwyr yn rhoi pwyslais ar ryddid pob unigolyn, maent yn derbyn na fyddai cymdeithas heddychlon, oddefgar gyda phawb yn gyfartal yn bosib pe byddai rhyddid absoliwt. Pe na byddai unrhyw drefniadau gwleidyddol a chyfreithiol er mwyn cadw trefn, byddai'n bosib i unigolion ddefnyddio eu rhyddid er mwyn cam-drin neu ennill mantais dros bobl eraill. Byddai hyn yn golygu sefyllfa lle byddai pob aelod o gymdeithas yn medru bygwth eraill neu gael eu bygwth gan eraill. Felly gwelir bod ein rhyddid ni i gyd yn dibynnu ar wneud yn siŵr na fydd unigolion yn bygwth ei gilydd. Am y rheswm yma, mae rhyddfrydwyr yn derbyn bod angen creu gwladwriaeth er mwyn i bawb gael chwarae teg.

  • Cyfamod cymdeithasol

    Mae'r rhyddfrydwyr yn amddiffyn yr angen am wladwriaeth gan ddweud bod angen cyfamod (cytundeb) cymdeithasol. Soniodd dau o'r meddylwyr rhyddfrydol cynharaf am hyn yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg, sef Thomas Hobbes a John Locke. Er bod gwahaniaeth pwysig rhwng dadleuon gwleidyddol Hobbes a Locke, roedd gwaith y ddau ohonynt yn dychmygu bywyd yn y cyfnod cynnar lle nad oedd unrhyw lywodraeth yn bodoli – disgrifiwyd hyn ganddynt fel y 'cyflwr naturiol'. Cafwyd disgrifiad trawiadol o natur y bywyd hwn gan Hobbes. Er na fyddai unrhyw rwystrau ffurfiol i ryddid unigolion yn y cyflwr naturiol, byddai bywyd o ddydd i ddydd yn ansicr iawn heb unrhyw gorff i gadw trefn, a byddai gwrthdaro o hyd. Yng ngeiriau Hobbes, byddai bywyd o’r fath yn 'solitary, poor, nasty, brutish and short.' Roedd y darlun a roddodd Locke o fywyd yn y cyflwr naturiol yn llawer llai tywyll. Eto i gyd, dywedodd y byddai ansicrwydd parhaol a heb unrhyw awdurdod uwch, byddai’n amhosib datrys unrhyw anghytuno rhwng unigolion. Oherwydd yr ansicrwydd hwn, cytunodd Hobbes a Locke y byddai unigolion rhesymol am gael cyfamod cymdeithasol a fyddai'n arwain at sefydlu gwladwriaeth er mwyn cadw trefn. Byddai pob unigolyn yn derbyn bod yn rhaid iddo roi’r gorau i ychydig o ryddid er mwyn creu cyfundrefn wleidyddol a chyfreithiol, a fyddai'n medru diogelu eu hawliau a'u heiddo.

    Nid Hobbes a Locke yw'r unig ryddfrydwyr a soniodd am y cyfamod cymdeithasol. Mae thema debyg yng ngwaith Immanuel Kant yn ystod y 18fed ganrif ac yn fwy diweddar yng ngwaith John Rawls yn ystod degawdau olaf yr 20fed ganrif. Mae’r cyfamod cymdeithasol yn cynnwys dau bwynt sy’n ganolog i sut mae rhyddfrydwyr o bob math wedi dehongli natur y wladwriaeth.

    I ddechrau, mae'r syniad hwn yn awgrymu bod unigolion wedi creu'r wladwriaeth ar eu cyfer nhw eu hunain ac mai ei phwrpas yw diogelu eu lles a’u hanghenion. Mae'r wladwriaeth felly yn gytundeb rhwng aelodau cymdeithas. Oherwydd hynny, mae rhyddfrydwyr yn credu bod awdurdod y wladwriaeth yn codi o’r bobl – o’r gwaelod i fyny. Felly, golyga hyn bod rhyddfrydwyr yn credu nad oes rhaid i unigolion i ufuddhau yn absoliwt i gyfreithiau'r wladwriaeth bob tro. Fel y dywedodd Locke, gan fod y wladwriaeth wedi ei sefydlu drwy gytundeb y bobl, yna gall y bobl hynny brotestio a gwrthod cydymffurfio. Gallant wneud hyn os ydynt yn teimlo bod y wladwriaeth yn mynd yn rhy bell ac yn mynd â gormod o’u rhyddid a'u hawliau sylfaenol.

    Yn ail, wrth bwysleisio mai cytundeb cyffredinol ymhlith y bobl yw’r wladwriaeth, ystyrir cyfamod cymdeithasol fel endid sydd yn deg i bawb. Oherwydd hyn, mae rhyddfrydwyr wedi gwrthod dadl Marcswyr, sef bod y wladwriaeth yn gweithredu er lles rhai dosbarthiadau breintiedig o fewn cymdeithas. Yn hytrach mae rhyddfrydwyr yn edrych ar y wladwriaeth fel endid sydd yn cynnal trefn a sicrhau bod pawb o fewn cymdeithas yn ymddwyn o fewn y gyfraith ac yn trin ei gilydd yn deg. Yn syml, mae’r wladwriaeth fel dyfarnwr mewn gêm bêl-droed.

  • Cyfansoddiadaeth

    Tra bo rhyddfrydwyr yn derbyn bod yn rhaid cael gwladwriaeth, maen nhw hefyd yn gwybod bod gwladwriaethau modern yn rymus iawn. Oherwydd hynny, mae rhyddfrydwyr am sicrhau nad yw grym y wladwriaeth yn cael ei gamddefnyddio er mwyn ymyrryd gormod â rhyddid unigolion. Felly mae rhyddfrydwyr yn dadlau dros gael trefniadau gwleidyddol a chyfreithiol a fydd yn lleihau grym y wladwriaeth – dyma yw’r syniad o gyfansoddiadaeth.

    Casgliad o reolau yw cyfansoddiad sy'n nodi dyletswyddau a grym y sefydliadau gwahanol sy'n rhan o'r wladwriaeth. Un ffactor pwysig mewn cyfansoddiadaeth ryddfrydol yw bod cyfansoddiad gwlad yn nodi’n glir sut mae cyfreithiau’n lleihau grym y wladwriaeth. Mae hyn yn golygu cael cyfansoddiad ysgrifenedig sy'n nodi'n glir beth yw rôl y wladwriaeth, ond hefyd sy’n nodi lle na ddylai’r wladwriaeth gael grym. Yr enghraifft gyntaf o gyfansoddiad oedd Cyfansoddiad Unol Daleithiau America (UDA) a ysgrifennwyd yn 1787. Yn dilyn hynny, cafwyd llawer o gyfansoddiadau ysgrifenedig mewn gwladwriaethau rhyddfrydol-democrataidd.
    Erbyn heddiw dim ond Israel, Seland Newydd a'r Deyrnas Unedig sydd heb gyfansoddiad ysgrifenedig. Mae cyfansoddiadau ysgrifenedig fel arfer yn nodi lle na ddylai'r wladwriaeth ymyrryd, drwy nifer o hawliau sylfaenol. Er enghraifft, y Mesur Hawliau yn America, sef deg cymal cyntaf cyfansoddiad y wladwriaeth honno.

    Nid yn unig mae cyfansoddiad rhyddfrydol yn cyfyngu ar y wladwriaeth, ond mae hefyd am sicrhau bod gwahanol gyrff yn rhannu grym gwleidyddol. Roedd y Ffrancwr o'r 18fed ganrif, Montesquieu, yn dadlau dros 'rannu grym'. Credai y dylai fod rhaniadau clir rhwng y swyddogaethau gweithredol, deddfwriaethol a barnwrol o fewn unrhyw gyfundrefn. Byddai hyn yn gwneud yn siŵr nad yw grym gwleidyddol yn nwylo un person neu grŵp bach o bobl. Unwaith eto, mae Unol Daleithiau America yn enghraifft dda o ddadl Montesquieu, gyda rhaniad pendant rhwng yr Arlywydd, y Gyngres a'r Uchel Lys. Ffordd arall o rannu grym gwleidyddol mewn gwladwriaethau rhyddfrydol-democrataidd yw drwy drefniadau ffederal neu ddatganoli. Caiff grym ei rannu rhwng haenau gwahanol o lywodraeth sy'n cynrychioli ardaloedd o fewn y wladwriaeth, gyda phob haen o lywodraeth yn gyfrifol am feysydd arbennig.

  • Rhyddfrydiaeth a democratiaeth

    Yn syml, mae democratiaeth yn golygu 'rheolaeth gan y bobl'. Erbyn heddiw mae'r egwyddor y dylai pobl gyffredin allu siapio'r gyfundrefn wleidyddol sy'n effeithio ar eu bywyd o ddydd-i-ddydd yn cael ei derbyn gan bob plaid wleidyddol, gan gynnwys rhyddfrydwyr.

    Ond yn ystod hanner cyntaf y 18fed ganrif, roedd llawer o ryddfrydwyr yn cwestiynu’r syniadau democrataidd newydd a oedd yn dod yn boblogaidd. Yr oedd rhai meddylwyr rhyddfrydol y cyfnod, fel y Ffrancwr, Alexis de Toqueville, yn poeni y gallai'r syniadau hyn effeithio ar ryddid yr unigolyn. Gan fod democratiaeth yn dilyn barn y mwyafrif, yna pan fyddai gwrthdaro, y ffordd ddemocrataidd o ddelio â'r broblem yw gofyn beth yw barn y mwyafrif ac yna dilyn y llwybr hwnnw. Ond efallai na fyddai’r mwyafrif yn dewis dilyn y llwybr rhyddfrydol bob tro. O ganlyniad, roedd de Toqueville yn poeni bod peryg y gallai’r mwyafrif fynd yn erbyn rhyddid yr unigolyn a hawliau grwpiau lleiafrifol.

    Erbyn diwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif, roedd barn rhyddfrydwyr yn llawer mwy cadarnhaol ynglŷn â democratiaeth. I ddechrau, roedd nifer o ryddfrydwyr wedi dechrau cysylltu democratiaeth â'r syniad o gyfamod cymdeithasol a oedd gan y rhyddfrydwyr cynnar fel John Locke. Hefyd, roedd rhyddfrydwyr modern yn cysylltu democratiaeth â dadleuon J.S. Mill, hynny yw ei bod yn beth da i bobl gael cyfle i drafod cyfeiriad gwleidyddol y gymdeithas, yn gyhoeddus.

    Fodd bynnag, wrth i ryddfrydwyr fod yn llawer mwy cadarnhaol tuag at ddemocratiaeth, mae'n bwysig deall mai democratiaeth ryddfrydol yr oeddent yn ei gefnogi. Mae systemau democrataidd-rhyddfrydol yn rhai sy'n uno 'rheolaeth gan y bobl' gyda'r syniad rhyddfrydol o gyfyngu ar y llywodraeth. Byddai system o’r fath yn:

    1. 1. cynnal etholiadau yn rheolaidd a rhoi hawl i bob unigolyn bleidleisio.
    2. 2. gosod cyfyngiadau ffurfiol ar y llywodraeth, fel arfer drwy gyfansoddiad ysgrifenedig, a bod rhyddid sylfaenol unigolion yn cael ei ddiogelu gan hawliau cyfreithiol.

    Yn gyffredinol, gellir disgrifio systemau democrataidd-rhyddfrydol fel rhai lle gellir trafod y rhan fwyaf o faterion o ddydd-i-ddydd yn agored a lle gellir gwneud penderfyniad ar sail mwyafrif syml. Ond mae hefyd rai pethau sydd mor bwysig i les rhai unigolion fel na ddylid ymyrryd ynddynt, hyd yn oed os yw’r mwyafrif am wneud hynny. Er enghraifft, mewn system ddemocrataidd-rhyddfrydol, hyd yn oed pe bai mwyafrif y bobl am gael un grefydd swyddogol ar draws y wladwriaeth, byddai cyfraith yn gwarantu rhyddid i bob unigolyn i addoli fel y dymunai, felly ni allai 'r wladwriaeth ganiatáu dymuniad y mwyafrif.