Tra bo modd rhestru ystod o elfennau allweddol sy’n tueddu i nodweddu gwaith sosialaidd o bob math, gellir hefyd nodi ystod o wahaniaethau pwysig. Mae dau fater yn arbennig wedi esgor ar gryn wahaniaeth barn rhwng aelodau gwahanol ffrydiau sosialaidd. I ddechrau mae’r mater o ba fath o ddulliau y dylai sosialwyr eu defnyddio er mwyn cyrchu’r gymdeithas well. Yn ail, mae’r mater o ba fath o amcanion y dylai sosialwyr eu cyrchu – mewn geiriau eraill, pa fath o gymdeithas ddylai’r un sosialaidd fod. Trafodir y cyntaf o’r materion hyn yn yr adran hon, cyn troi at yr ail yn yr adran nesaf.

  • Sosialaeth chwyldroadol

    Y farn gyffredinol ymhlith nifer o sosialwyr cynnar, gan gynnwys, wrth reswm, Karl Marx, oedd mai dim ond trwy chwyldro a fyddai’n dymchwel y drefn gyfalafol yn llwyr y gellid gobeithio cyflwyno sosialaeth. Tueddwyd hefyd i dderbyn y byddai trais yn ganlyniad tebygol o chwyldro o’r fath. Fel y gwelwyd, credai Marx bod dyfodiad y chwyldro hwn yn anochel, ac y byddai’r ecsploetio sy’n nodwedd mor ganolog o weithredu cyfalafiaeth yn arwain y dosbarth gweithiol i ymgodi er mwyn mynnu newid. Fodd bynnag, proses reit wahanol oedd y chwyldro sosialaidd llwyddiannus cyntaf yn Rwsia yn 1917. Bryd hynny, cipiwyd grym gan garfan ddisgybledig o chwyldroadwyr dan arweiniad Vladimir Lenin, gweithred a ymdebygai’n fwy i coup d’etat nag i wrthryfel cymdeithasol torfol.

    Roedd dau reswm pam fod sosialwyr y bedwaredd ganrif ar bymtheg mor barod i arddel y syniad o chwyldro. I ddechrau, roedd cyfnod cynnar y broses o ddiwydiannu wedi arwain at amodau byw eithriadol o anodd i aelodau’r dosbarth gweithiol ac roedd y tlodi a brofwyd yn wirioneddol enbyd. O ystyried y fath amgylchiadau, gellir deall pam fod cymaint wedi casglu bod cyfalafiaeth yn ddim mwy na chyfundrefn oedd yn seiliedig ar ormesu amrwd, ac mai dim ond mater o amser fyddai hi tan i aelodau’r dosbarth gweithiol fod yn barod i herio’r drefn. Yn ail, ar y pryd, ychydig o opsiynau eraill oedd ar gael i aelodau’r dosbarth gweithiol os oeddent am sicrhau dylanwad gwleidyddol. Tra bo camau wedi’u cymryd ar draws sawl rhan o Ewrop yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg i sefydlu trefniadau llywodraethol cyfansoddiadol a chynrychioliadol, yn y mwyafrif o achosion câi’r hawl i bleidleisio ei gyfyngu i’r sawl a oedd eisoes yn berchen ar eiddo.

    Fodd bynnag, nid dim ond mater o dactegau oedd cred rhai sosialwyr mewn angen am chwyldro er mwyn sicrhau newid gwleidyddol. Mae’r gred hefyd yn deillio o’u dehongliad o natur grym y wladwriaeth. Tra bo rhyddfrydwyr wedi tueddu i ddehongli’r wladwriaeth fel endid diduedd sydd â'r nod o roi ystyriaeth deg i fuddiannau pawb, mae sosialwyr chwyldroadol wedi’i ddehongli fel endid gormesol sydd â’r dasg o warchod buddiannau ac eiddo’r bourgeoisie ar draul y proletariat. O ystyried hyn, tybiwyd mai hollol ddibwrpas fyddai cyrchu sosialaeth drwy broses o ddiwygio araf a graddol. Yn hytrach, dim ond trwy ddymchwel y wladwriaeth bourgeoise yn llwyr trwy gyfrwng chwyldro y gallai’r dosbarth gweithiol sicrhau cyfiawnder.

  • Graddoliaeth a’r llwybr seneddol

    Mewn cyferbyniad, o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen, datblygodd traddodiad sosialaidd mwy graddol a chymedrol a oedd yn amheus o’r angen am chwyldro treisgar er mwyn sicrhau newidiadau cymdeithasol ystyrlon. Fel y gwelwyd wrth drafod syniadau Eduard Bernstein uchod (adran 3), y sbardun gwreiddiol ar gyfer y datblygiad hwn oedd twf undebau llafur, pleidiau gwleidyddol sosialaidd, a hefyd, yr ehangu graddol ar yr hawl i bleidleisio. Gyda hyn, daeth yn bosib dychmygu llwybr seneddol mwy heddychlon tuag at y gymdeithas sosialaidd. Yn wir, daeth rhai sosialwyr i gredu’n raddol y byddai datblygu democratiaeth yn arwain yn anochel at roi syniadau sosialaidd ar waith. Seiliwyd y ffydd hon ar gyfres o dybiaethau.

    • • I ddechrau, tybiwyd y byddai estyn yr hawl i bleidleisio i bob oedolyn o fewn cymdeithas yn trosglwyddo grym gwleidyddol sylweddol i ddwylo aelodau’r dosbarth gweithiol, sef y dosbarth mwyaf niferus mewn unrhyw gymdeithas ddiwydiannol.

    • • Yn ail, tybiwyd y byddai aelodau’r dosbarth gweithiol yn sicr o estyn eu cefnogaeth i achos sosialaeth. Gan fod cyfalafiaeth yn gyfundrefn a oedd yn gormesu aelodau’r dosbarth gweithiol, doedd dim amheuaeth y byddai’r bobl hynny felly yn pleidleisio dros bleidiau sosialaidd.

    • • Yn drydydd, tybiwyd y byddai pleidiau sosialaidd, o gael eu hethol, yn medru mynd ati i gyflwyno rhaglen o newidiadau cymdeithasol pellgyrhaeddol.

    Yn gryno, tybiwyd bod democratiaeth nid yn unig yn cynnig ffordd o wireddu sosialaeth trwy gyfrwng dulliau heddychlon, roedd yn golygu bod y broses honno yn anochel.

    Fodd bynnag, erbyn heddiw mae’n eglur nad oedd sail gadarn i’r un o’r tybiaethau uchod. Yn wir, er bod pleidiau o anian sosialaidd wedi sicrhau cefnogaeth sylweddol, a hefyd wedi cipio grym gwleidyddol ym mhob gwladwriaeth ddemocrataidd, ac eithrio gwladwriaethau Gogledd America, nid yw eu goruchafiaeth seneddol wedi bod yn barhaol. Cwyd hyn gwestiynau pwysig ynglŷn ag i ba raddau y gall sosialwyr gymryd yn ganiataol y bydd aelodau’r dosbarth gweithiol bob amser yn gefnogol i achos sosialaeth. Yn ogystal, yn ystod y blynyddoedd diweddar, yn sgil y broses o ddad-ddiwydiannu a’r newidiadau yn natur y farchnad lafur a ddaeth yn sgil twf galwedigaethau proffesiynol, ni ellir cymryd yn ganiataol y bydd y rhan fwyaf o aelodau cymdeithas bellach yn perthyn i’r dosbarth gweithiol.