Tra bo cred yn yr angen i drawsnewid cymdeithas, a hynny ar sail egwyddorion fel cydraddoldeb a chydweithrediad, yn tueddu i nodweddu dadleuon bron pob sosialydd, mae’n bwysig cofio na cheir un ffurf swyddogol ar sosialaeth. Yn hytrach, dros y blynyddoedd datblygodd ystod o ffrydiau sosialaidd gwahanol. Isod cyflwynir rhai o’r ffrydiau mwyaf dylanwadol: Sosialaeth Iwtopaidd, Marcsiaeth a Democratiaeth Gymdeithasol.

  • Sosialaeth Iwtopaidd

    Gellir canfod yr ymgais gyntaf i gynnig amlinelliad o hanfodion y byd-olwg sosialaidd yng ngwaith carfan a adnabyddir bellach fel y Sosialwyr Iwtopaidd. Roedd y garfan hon yn rhagflaenwyr i Karl Marx ac yn weithgar yn ystod y 1800au cynnar. Fe’u sbardunwyd i drafod ac ysgrifennu gan ymwybyddiaeth gynyddol o’r amgylchiadau anffodus a oedd yn nodweddu bywyd y dosbarth gweithiol newydd yn sgil natur y gymdeithas gyfalafol fodern. Yn wir, mae’n arbennig o bwysig ein bod ni fel Cymry yn treulio amser yn ystyried cyfraniad y garfan hon o sosialwyr cynnar, gan mai Cymro – Robert Owen o’r Drenewydd (1771-1858) – oedd un o’r ffigurau amlycaf. Nid oedd Owen yn ystyried ei hun yn ysgolhaig pur, nac yn feddyliwr gwleidyddol systematig chwaith. Perchennog melinau gwlân mawr yn New Lanark yn ne’r Alban ydoedd. Ond, trwy ei brofiad yn y maes hwn, yn goruchwylio gwaith miloedd o weithwyr cyffredin, datblygodd ei ddiddordeb mewn materion cymdeithasol a gwleidyddol.

    Daeth Owen i’r casgliad fod cymeriad a galluoedd pobl yn cael eu siapio drwyddi draw gan eu hamgylchiadau cymdeithasol. Dyma syniad newydd ar y pryd. Golygai fod Owen yn herio’r gred gonfensiynol fod nifer o’r cyflyrau anffodus a oedd yn nodweddu bywyd gweithwyr y cyfnod – anwybodaeth, tlodi, afiechyd, trosedd ac ati – yn ganlyniadau anochel o’r modd yr oedd y bobl hyn yn dewis byw eu bywydau. Ar y pryd y duedd oedd cymryd yn ganiataol mai bai’r gweithwyr eu hunain oedd eu hamgylchiadau anffodus. Fodd bynnag, yn hytrach na derbyn y casgliad arferol hwn, dadleuodd Owen fod y cyflyrau anffodus a oedd yn nodweddu bywyd cymaint o bobl yn deillio o amgylchiadau cymdeithasol anffodus – hynny yw, yr amgylchiadau a oedd yn nodweddu’r gymdeithas gyfalafol fodern. Fel amryw o’i gyfoeswyr sosialaidd – e.e. y Ffrancwyr Charles Fourier (1772-1837) a Saint-Simon (1760-1825) – dadleuodd Owen y gellid dileu’r tlodi a’r dioddefaint a oedd yn nodweddu bywyd y cyfnod, trwy drefnu cymdeithas mewn ffordd amgen. Arweiniodd hyn at gyhoeddiadau fel A New View of Society (1816), a oedd yn disgrifio natur y gymdeithas iwtopaidd – cymdeithas sosialaidd a fyddai’n seiliedig ar gydweithio a chariad. Yn wir, un o’r pethau hynod am waith Owen oedd manylder ei ddisgrifiadau o natur y gymdeithas ddelfrydol. Aeth mor bell â thrafod gwisg y bobl, ynghyd â phatrymau cenhedlu!

    Nodwedd arall o waith Owen a’r sosialwyr cynnar oedd eu cred – ffydd, hyd yn oed – mewn rhesymoliaeth. Credwyd y byddai nerth eu dadleuon yn sicr o ennill y dydd, gan ddwyn perswâd ar lywodraethau a chyfalafwyr grymus i gyflwyno sosialaeth yn wirfoddol. Wrth gwrs, dyma safbwynt sydd bellach yn ymddangos yn anobeithiol o naïf. Yn wir, maes o law beirniadwyd y naïfrwydd hwn yn hallt gan Karl Marx a’i gyfaill Friedrich Engels. Parhaont ddiystyru rhagflaenwyr fel Owen yn ‘iwtopiaid’ – carfan a oedd yn deisyfu newid cymdeithasol, ond yn methu â chynnig unrhyw amlinelliad credadwy o sut y gellid sicrhau’r newid hwnnw. Cyferbynnwyd safbwynt iwtopaidd eu rhagflaenwyr gyda’u dehongliad ‘gwyddonol’ o’r llwybr anochel tuag at chwyldro a chwymp cyfalafiaeth (gweler isod). Er y feirniadaeth hon, mae’n bwysig nodi bod cryn debygrwydd rhwng rhai o ddadleuon Robert Owen ynglŷn â natur y gymdeithas ddelfrydol, a’r dadleuon a gyflwynwyd maes o law gan Karl Marx, er enghraifft ar faterion fel perchnogaeth gymunedol o’r dulliau cynhyrchu a’r angen i ddosbarthu nwyddau ar sail angen. Yn wir, bron y gellid disgrifio cymdeithas ddelfrydol Owen fel ffurf gynnar ar Gomiwnyddiaeth.

    Marcsiaeth

    Un enw sy’n sicr o godi wrth drafod sosialaeth yw Karl Marx. Heb os, mae Marx yn ffigur cwbl allweddol o fewn y traddodiad sosialaidd. Ni ellir astudio’r ideoleg heb fynd i’r afael â’i syniadau mewn rhyw fodd. Ni ellir chwaith drafod syniadau Marx heb nodi dylanwad a phwysigrwydd ei gyfeillgarwch deallusol gyda’r Almaenwr arall, Friedrich Engels, a gyfarfu a Marx yn 1844 ac a ddylanwadodd arno yn y lle cyntaf gyda’i waith The Condition of the Working Class in England. Dyma lyfr a ysgrifennwyd yn Almaeneg a chyfieithwyd i’r Saesneg yn 1885 ac a gafodd cydnabyddiaeth fel clasur o lyfr – un oedd yn cyfleu dioddefaint y bobl a’r ffaith i’w bywydau waethygu yn y gymdeithas gyfalafol. Parhaodd y berthynas rhwng y ddau hyd eu hoes.

    Beirniadaeth ar gyfalafiaeth
    Beirniadaeth ar y gymdeithas gyfalafol fodern yw gwaith Karl Marx yn bennaf. I ddeall natur y feirniadaeth hon rhaid dechrau trwy ystyried ei drafodaeth o’r cysyniad o ymddieithrio. Datblygwyd y drafodaeth hon gan Marx yn Llawysgrifau Paris, casgliad o ysgrifau a luniwyd ganddo yn 1844 (ond na chyhoeddwyd tan 1932). Yn ôl Marx, un o’r prif newidiadau a ddeilliodd o dwf cyfalafiaeth oedd y newid a welwyd mewn arferion llafur (h.y. gwaith) pobl. Roedd llafur yn elfen hollbwysig i Marx. Dyma, yn ei dyb ef, sy’n rhyddhau pobl ac yn ein gwahaniaethu oddi wrth anifeiliaid. Trwy ein llafur rydym yn mynd ati i ddatblygu sgiliau a thalentau, ynghyd â dealltwriaeth o’r byd. Ymhellach, mae llafur yn caniatáu i berson arddangos ei allu i gynllunio ac yna i weithredu yn unol â’r cynlluniau hyn. Nid yw'r rhain yn rhinweddau sy’n perthyn i’r anifail – ymddwyn yn reddfol a wna ef, heb unrhyw gynllunio bwriadus. Fodd bynnag, sylwodd Marx fod dyfodiad cyfalafiaeth wedi arwain at newid sylfaenol yn natur llafur y dosbarth gweithiol. Nid oedd bellach yn weithgaredd a oedd yn caniatáu i’r gweithiwr fynegi ei ddynoliaeth. I’r gwrthwyneb, mae cyfalafiaeth yn arwain at ymddieithrio aelodau’r dosbarth gweithiol.

    I ddechrau, caiff y gweithiwyr eu hymddieithrio o gynnyrch eu llafur. Nid gweithio er mwyn ateb anghenion bywyd penodol yn ôl yr angen a wnânt bellach, ond yn hytrach gweithio i gynhyrchu nwyddau amhersonol sydd i’w gwerthu am elw. Yn ogystal, caiff y gweithiwr ei ymddieithrio o’r broses o lafurio. O dan gyfalafiaeth, yn hytrach na gweithio yn ôl ei drefniadau ei hun, mae’n gorfod gweithio yn ôl cyfarwyddiadau ac amserlen rheolwyr a goruchwylwyr. Ymhellach, nid yw’r trefniadau gwaith hyn yn rhai cymdeithasol iawn ac felly caiff y gweithiwr ei ymddieithrio oddi wrth ei gydweithiwr. Yn olaf, mae patrymau gwaith cyfalafol yn arwain at ymddieithrio’r gweithiwr oddi wrtho’i hun. Yn hytrach na bod yn weithgaredd sy’n caniatáu iddo fynegi ei ddynoliaeth a’i ryddid, mae llafur y gweithiwr yn troi’n ddim mwy na nwydd – rhywbeth a gaiff ei werthu ganddo er mwyn ennill cyflog.

    Tra bo’r cysyniad o ymddieithrio'n cael cryn sylw yng ngweithiau cynnar Marx, erbyn rhai o’i weithiau diweddarach – Das Kapital, er enghraifft – nid yw’r cysyniad o ymddieithrio'n cael cymaint o sylw. Yn hytrach gwelir Marx rhoi mwy o bwyslais ar duedd cyfalafiaeth i hybu gwrthdaro dosbarth ac i ecsploetio. Yn nhyb Marx, mae cyfalafiaeth yn drefn sy’n arwain at rannu cymdeithas yn ddau brif ddosbarth – y bourgeoisie (y perchnogion) a’r proletariat (y gweithwyr) – a mynna ei bod yn anochel y bydd yr ail ddosbarth hwn yn cael ei ecsploetio gan y cyntaf. Deillia hyn o’r ffaith mai’r bourgeoisie yw’r dosbarth sy’n berchen ar ‘foddion cynhyrchu’ – yn syml, y gweithfeydd a hefyd yr holl offer a ddefnyddir gan aelodau’r proletariat i wneud eu gwaith. Yn ogystal, y bourgeoisie fydd yn berchen ar yr holl nwyddau a fydd yn deillio o lafur y proletariat a nhw hefyd fydd yn medru hawlio’r holl elw a ddeillia o werthu’r nwyddau hynny. Yn nhyb Marx mae hyn yn arwain at berthynas rhwng y bourgeoisie a’r proletariat sy’n seiliedig ar ecsploetio anochel. Er mwyn i’r bourgeoisie fedru gwneud elw ar sail y nwyddau a gynhyrchwyd gan ddefnyddio eu gweithfeydd a’u hadnoddau, bydd angen i aelodau’r proletariat dreulio cyfnod bob wythnos yn gweithio’n ddi-dâl. Wedi’r cyfan, all y bourgeoisie ond sicrhau elw i’w hunain drwy dalu cyflog i’w gweithwyr sy’n llai na gwir werth eu llafur. Pe bai’n talu gwerth llawn eu llafur iddynt, yna fyddai dim arian ar ôl i gael ei fancio fel elw. Mynnodd Marx bod ecsploetio o’r math hwn yn rhan hanfodol o ddull gweithredu’r economi cyfalafol ac y byddai’n parhau pa mor flaengar neu oleuedig bynnag fyddai’r cyflogwyr.

    Gwelir felly beth oedd rhai o brif feirniadaethau Marx o natur y drefn gyfalafol. Dyma drefn sydd, ar y naill law, yn rhwym o arwain at ymddieithrio’r gweithiwr o’i wir natur, tra ar y llaw arall, yn cymell y perchnogion i ecsploetio’r sawl a gyflogir ganddynt mewn modd systematig.

    Y dehongliad materol o hanes
    Eto i gyd, nid dim ond beirniadu cyfalafiaeth a wnaeth Marx. Aeth ati hefyd i egluro pam, yn ei dyb ef, ei bod yn drefn a fyddai’n sicr o chwalu yn y pen draw, ynghyd â sut y byddai hynny’n digwydd. Seiliodd Marx y dadleuon hyn ar ei ddull arbennig o ddehongli ac egluro newid hanesyddol a chymdeithasol. Cyfeirir at y dull hwn fel y dehongliad materol o hanes.

    Roedd y dehongliad materol hwn yn rhannu cymdeithas yn ddwy ran. I ddechrau, ceid y sylfaen economaidd. Fel yr awgryma’r enw, dyma derm a ddefnyddid i gyfeirio at drefniadau economaidd y gymdeithas, ac yn benodol, y moddion cynhyrchu (yr offer a’r adnoddau a ddefnyddiwyd i gynhyrchu nwyddau) a’r perthnasau cynhyrchu (sut y trefnwyd llafur er mwyn defnyddio’r moddion cynhyrchu). Ar ben y sylfaen economaidd, roedd yr uwchstrwythur. Dyma derm a ddefnyddiwyd i gyfeirio at agweddau eraill o fywyd, gan gynnwys meysydd fel gwleidyddiaeth, y gyfraith, crefydd, diwylliant a chelf. O’r ddwy ran hon, y gyntaf – y sylfaen economaidd – oedd fwyaf dylanwadol yn nhyb Marx. Dadleuodd bod natur y trefniadau economaidd a geid mewn unrhyw gymdeithas yn sicr o ddylanwadu ar bob rhan arall o fywyd y gymdeithas honno – ei gwleidyddiaeth, ei chyfreithiau a’i diwylliant. Yr economi felly yw sail cymdeithas.

    Felly, os yw’r economi mor sylfaenol i bopeth, onid yw’n dilyn yn naturiol y bydd unrhyw newid arwyddocaol yn nhrefniadau’r economi yn arwain at newid pellgyrhaeddol i natur y gymdeithas yn gyffredinol? Dyna’n sicr oedd casgliad Marx. Dadleuodd bod ei astudiaethau hanesyddol gofalus – er enghraifft mewn cyfrolau fel Deutsche Ideologie (1846) – wedi dangos mai newid i strwythur gwaelodol yr economi sydd, dros amser, wedi bod yn gyfrifol am symud cymdeithas o un cyfnod hanesyddol i’r llall – er enghraifft y symudiad o’r cyfnod ffiwdal i’r cyfnod cyfalafol modern a nodweddwyd gan ddulliau newydd o gynhyrchu a hefyd gan drefniadau gwaith newydd.

    Ond, dros hanes, beth sydd wedi achosi’r newidiadau economaidd hyn a esgorodd ar newid cymdeithasol ehangach? Yn nhyb Marx, y cysyniad allweddol i egluro hyn yw’r dilechdid (dialectic), sef proses barhaol o ryngweithio rhwng grymoedd cyferbyniol sydd, dros amser, yn creu gwrthdaro, ac yn sgil hynny, yn sbarduno newidiadau cymdeithasol pellgyrhaeddol. Yn hyn o beth, roedd Marx yn dilyn Hegel. Eto i gyd, pwysleisio rôl gwrthdaro ym myd syniadau a wnâi Hegel, er enghraifft y gwrthdaro rhwng rheswm ac ofergoeliaeth Gristnogol. Yn ei dyb ef, gwrthdaro syniadol o’r math hwn oedd yn gyrru newid hanesyddol a chymdeithasol. Fodd bynnag, gan fod Marx yn pwysleisio dylanwad y sail economaidd, tueddai ef i bwysleisio’r gwrthdaro materol a oedd yn amlygu ei hun ar y lefel hon. Yn wir, dadleuodd fod pob cyfnod hanesyddol wedi’i seilio ar drefniadau economaidd sydd wedi’u nodweddu gan densiwn neu wrthdaro sylfaenol. Er enghraifft, nodweddwyd y cyfnod ffiwdal gan wrthdaro sylfaenol rhwng buddiannau economaidd y meistri a’r taeogion. Yn y pen draw, golyga’r broses o newid dilechdidol y bydd y gwrthdaro hwn yn cyrraedd uchafbwynt ac, o ganlyniad, esgorir ar drefniadau economaidd newydd, ac yn sgil hynny, ar uwchstrwythur cymdeithasol newydd hefyd.

    Nid yw’r cyfnod cyfalafol yn ddim gwahanol, yn ôl Marx, i gyfnodau hanesyddol cynt. Fel y gwelwyd eisoes, nodweddir trefniadau economaidd y gymdeithas gyfalafol gan wrthdaro sylfaenol rhwng buddiannau’r ddau brif ddosbarth – y bourgeoisie a’r proletariat. Mae meddiant y dosbarth cyntaf ar y moddion cynhyrchu, a hefyd ei angen i ddefnyddio’r moddion hyn i greu elw, yn arwain at ecsploetio’r ail ddosbarth – aelodau’r proletariat. Gan fod y fath densiynau’n bodoli o dan gyfalafiaeth, tybiai Marx fod cwymp y ffurf hon ar gymdeithas yr un mor anochel ag yr oedd cwymp ffurfiau cymdeithasol cynt.

    Gwelir felly beth oedd natur y dehongliad materol o hanes, y dehongliad hanesyddol a ddefnyddiodd Marx i geisio egluro pam fod cwymp cyfalafiaeth, yn ei dyb ef, yn anochel. Nodweddwyd y dehongliad hwn gan bwyslais ar y modd yr oedd yr economi’n dylanwadu ar siâp gweddill cymdeithas. O ganlyniad, mynnai Marx y dylid dehongli unrhyw newid hanesyddol a chymdeithasol yn bennaf fel proses o newid economaidd a gâi ei gyrru gan wrthdaro rhwng buddiannau gwahanol garfanau neu ddosbarthiadau cymdeithasol.

    Y Chwyldro a Chomiwnyddiaeth
    Y tu hwnt i egluro pam ei fod yn credu bod cwymp cyfalafiaeth yn anochel, aeth Marx ati hefyd i geisio manylu ar sut fyddai hyn yn digwydd. Mae rhai o’r syniadau hyn i’w canfod yn y Maniffesto Comiwnyddol a gyhoeddwyd yn 1848.

    Roedd Marx yn barod i gydnabod bod cyfalafiaeth, ac yn enwedig y datblygiadau o ran technoleg a dulliau cynhyrchu a gysylltir â’r drefn, wedi esgor ar gynnydd sylweddol yng ngalluoedd dyn. Golygai bod y gallu materol gennym bellach i ddileu’r tlodi a’r angen a oedd yn nodweddu sefyllfa cymaint o bobl. Fodd bynnag, roedd natur y drefn gyfalafol yn milwrio yn erbyn hyn. Cofier, hanfod y broses gynhyrchu o dan gyfalafiaeth oedd bod adnoddau a llafur yn cael eu defnyddio i gynhyrchu elw yn hytrach na diwallu anghenion cymdeithasol – elw a lifai i bocedi un garfan yn benodol, sef y bourgeoisie. O ganlyniad, dros amser, byddai’r gwrthdaro sylfaenol a fodolai rhwng buddiannau’r dosbarth gweithiol a’r bourgeoisie ond yn dwysáu ymhellach. Yn y pen draw, tybiai Marx y byddai’r dosbarth gweithiol – a oedd yn crynhoi ar lawr y ffatrïoedd – yn datblygu ymwybyddiaeth gynyddol o’u safle gorthrymedig o dan gyfalafiaeth – ymwybyddiaeth ddosbarth – a phan fyddai’r ymwybyddiaeth hon yn cyrraedd uchafbwynt byddai aelodau’r dosbarth gweithiol yn gwrthryfela yn erbyn y drefn.

    Yn ogystal, tynnodd Marx sylw at y nodweddion cyfalafol eraill a fyddai’n hybu deffroad y dosbarth gweithiol ymhellach. I ddechrau, tynnodd sylw at natur gwbl ansefydlog cyfalafiaeth. O dan gyfalafiaeth roedd tuedd gan yr economi i dyfu a thyfu cyn cwympo’n sydyn gan achosi dirwasgiadau mawr a fyddai’n arwain at arafu’r broses gynhyrchu ac at ddiweithdra cynyddol. Wrth gwrs, mewn cyfnodau o’r fath, y dosbarth gweithiol a fyddai’n dioddef fwyaf. Ar ben hynny, pwysleisiodd fod cyfalafiaeth yn drefn sy’n tueddu i grynhoi grym a chyfoeth yn nwylo llai a llai o bobl. Er enghraifft, rydym yn parhau i glywed yn gyson am duedd rhai cwmnïau mawr i brynu amryw o rai bach gan olygu bod rhannau helaeth o’r economi’n dod dan reolaeth llond dwrn o bobl. Canlyniad hyn, yn nhyb Marx, fyddai cynyddu’r niferoedd a berthynai i’r dosbarth gweithiol gan bwysleisio ymhellach annhegwch diffyg atebolrwydd y drefn gyfalafol. Yn y pen draw, byddai’r holl ffactorau uchod yn dod ynghyd, a’r canlyniad fyddai fod y dosbarth gweithiol yn arwain chwyldro i ddymchwel cyfalafiaeth. Nid chwyldro gwleidyddol cyffredin sydd ond yn arwain at ddisodli’r llywodraeth a’r sawl sy’n dal grym fyddai hwn. Yn hytrach, byddai’n chwyldro cyflawn, a fyddai’n arwain at sefydlu trefn wleidyddol, gymdeithasol ac economaidd gwbl newydd: comiwnyddiaeth.

    Ar y cyfan, digon bras yw’r manylion a geir gan Marx ynglŷn ag union natur y chwyldro hwn a hefyd natur y gymdeithas gomiwnyddol a ddaw yn ei sgil. Fodd bynnag, mae rhai pwyntiau pendant yn cael ei gwneud ganddo. I ddechrau, cam cwbl sylfaenol yn ei dyb ef yw sefydlu unbennaeth y proletariat yn gynnar yn ystod y chwyldro. Golyga hyn fod y dosbarth gweithiol yn cipio grym i’w hunain. Yn nhyb Marx, bydd angen unbennaeth o’r fath yn ystod y cyfnod cynnar er mwyn sicrhau nad yw’r bourgeoisie yn adrefnu gan danseilio’r chwyldro a hefyd er mwyn sicrhau bod y broses o sefydlu comiwnyddiaeth yn mynd rhagddo’n llwyddiannus. Wrth sefydlu comiwnyddiaeth un o’r camau cyntaf hollbwysig, fydd dileu perchnogaeth breifat o’r moddion cynhyrchu – hynny yw, yr adnoddau economaidd hynny a fu gynt yn eiddo i’r bourgeoisie ac yn sail i’w grym. Yn hytrach na pharhau fel asedau preifat i gyfalafwyr unigol, bydd yr adnoddau hyn yn cael eu trosglwyddo i ddwylo’r bobl yn gyffredinol. Trwy wneud hynny, gellir sicrhau bod y broses o gynhyrchu a dosbarthu nwyddau yn troi o fod yn un sy’n seiliedig ar y nod o wneud elw i unigolion i fod yn un sy’n anelu i ateb gwir anghenion cymdeithasol. Wrth i’r broses hon fynd yn rhagddi, bydd y gwahaniaethau dosbarth a nodweddai’r gymdeithas gyfalafol yn diflannu’n raddol ac yn y pen draw fe fydd yr angen am wladwriaeth hefyd yn diflannu.

    Marcsiaeth wedi Marx
    Bu farw Marx yn 1883. Fodd bynnag, ni ddaeth datblygiad syniadau Marcsaidd i ben gyda marw Marx ei hun. Parhaodd ei olynwyr i’w trafod gan addasu arnynt ac ychwanegu atynt. Dyma nodi rhai cyfraniadau pwysig

  • .Herbert Marcuse (1898-1979): Erbyn ail hanner yr ugeinfed ganrif, roedd Marcswyr yn y gorllewin yn gweld bod angen edrych eto ar syniadau eu rhagflaenwyr gan geisio egluro pam, er gwaethaf proffwydoliaethau Marx, fod cyfalafiaeth yn parhau’n gymharol sefydlog a’r dosbarth gweithiol yn dangos dim awch chwyldroadol. Un o’r rhai a aeth ati i wneud hyn oedd Herbert Marcuse. Ateb Marcuse oedd casglu na ddylid cymryd yn ganiataol mai’r dosbarth gweithiol oedd y garfan chwyldroadol. Roedd y blynyddoedd wedi’r Ail Ryfel Byd yn rhai o lewyrch cymharol ac o ganlyniad tybiodd Marcuse fod aelodau’r dosbarth gweithiol wedi’u cyfaddawdu wrth iddynt fabwysiadu meddylfryd a gwerthoedd y dosbarth canol. O ganlyniad, dadleuodd y dylai Marcswyr droi i ystyried sefyllfa grwpiau ‘ymylol’ a ‘gorthrymedig’ eraill, er enghraifft merched, grwpiau ethnig, myfyrwyr neu drigolion y trydydd byd.

  • Herbert-Marcuse.jpg
    Herbert Marcuse
  • • Antonio Gramsci (1891-1937): Ac yntau’n aelod seneddol etholedig ac yn Ysgrifennydd Cyffredinol ar Blaid Gomiwnyddol newydd yr Eidal, carcharwyd Gramsci yn 1926 gan Mussolini, ac yno y bu hyd ei farwolaeth. Mewn casgliad o ysgrifau enwog a luniwyd ganddo yn ystod ei gyfnod dan glo, dadleuodd Gramsci o blaid ailystyried y pwyslais traddodiadol ymhlith Marcswyr ar ddylanwad ffactorau economaidd a materol. Trwy gyflwyno’r cysyniad o hegemoni, amlinellodd sut roedd grym a statws y dosbarth bourgeois yn ddibynnol ar ddominyddiaeth syniadol ac ideolegol, yn gymaint â’i dominyddiaeth economaidd. Y ddominyddiaeth ideolegol hon oedd yn caniatáu i gyfalafiaeth gael ei chyflwyno fel yr unig ffurf bosib ar gyfer cymdeithas – yr unig ‘synnwyr cyffredin’. O ganlyniad, dadleuodd Gramsci bod angen i Farcswyr ymgymryd â brwydr syniadol er mwyn creu hegemoni amgen nad oedd yn seiliedig ar dybiaethau materol ac ariangar bourgeois.

  • Antonio-Gramsci.jpg
    Antonio Gramsci
  • • Mao Zedong (1893-1976) a Ho Chi Minh (1890-1969): Ysbrydolwyd Mao a Ho Chi Minh ill dau gan Farcsiaeth a’r ideoleg Leniniaeth-Farcsaidd a ddatblygodd trwy ddehongliad Lenin o’r traddodiad. Fel yn achos Lenin rhoddodd y ddau yr ideoleg ar waith yn eu gwledydd hwythau mewn ffurf ymosodol, chwyldroadol. Yn achos Mao – a ddaeth i rym yn China gyda’r Blaid Gomiwnyddol yn 1949 wedi ugain mlynedd o frwydro – datblygodd agweddau ar syniadaeth Farcsaidd oedd yn deillio o brofiad ac amgylchiadau’r wlad. Er i Lenin ei ysbrydoli, yn enwedig yn y frwydr wrth-Imperialaidd, mae gwahaniaethau diddorol yn ei safbwynt, yn arbennig yn ei ffocws ar gefn gwlad a’r gymuned werinol. Gwelodd dyndra sylweddol rhwng y trefol a gwledig, ar y lefel wladol a rhyngwladol, gyda’r byd gorllewinol cyfalafol yn gormesu’r gwleidydd annatblygedig. Iddo ef, felly, roedd y werin yn chwarae rhan hanfodol yn y frwydr gomiwnyddol oherwydd eu diffyg buddsoddiad yn y system gyfalafol, ac yn ymarferol trwy ryfela guerrilla, Yn hynny o beth roedd yn gwadu syniad Lenin o’r Vanguard ac yn hytrach pwysleisio’r angen am undod a ‘llinell dorfol’ ymysg y lliaws. Syniadau nid annhebyg sydd yn nodweddiadol o Ho Chi Minh, arweinydd mudiad annibyniaeth y Viet Minh a oedd yn Brif Weinidog ar Weriniaeth Ddemocrataidd Vietnam pan y’i sefydlwyd yn 1945. Y gymuned werinol oedd conglfaen y chwyldro comiwnyddol, fel rhan o’r mudiad cenedlaethol a oedd yn brwydro am ryddid yn erbyn grymoedd Imperalaidd.

  • Chairman-Mao-Zedong.jpg
    Mao Zedong
  • • Vladimir Ilich Lenin (1870-1924): Dadleuodd Lenin na ddylai Marcswyr gymryd yn ganiataol fod cwymp cyfalafiaeth yn gwbl anochel ac y byddai aelodau’r dosbarth gweithiol yn codi i arwain y chwyldro. Dadleuodd nad oedd y dosbarth gweithiol ar ei ben ei hun yn meddu ar yr ymwybyddiaeth wleidyddol angenrheidiol er mwyn sbarduno ac arwain chwyldro o’r fath. O ganlyniad rhaid oedd wrth garfan flaengar o chwyldroadwyr a fyddai’n gweithredu fel vanguard ar ran y dosbarth gweithiol. Rôl y garfan hon oedd ymsefydlu fel plaid wleidyddol – nid plaid ag iddi aelodaeth dorfol eang ond yn hytrach carfan ddethol o chwyldroadwyr proffesiynol ac ymroddedig a oedd â’r gallu i gynnig arweiniad gwleidyddol ac ideolegol i eraill. O ganlyniad pan fu i blaid Folsieficaidd Lenin gipio grym yn Rwsia yn 1917, hawliwyd eu bod yn gwneud hynny yn enw buddiannau’r dosbarth gweithiol ar draws y wlad.

  • Vladimir-Lenin.jpg
    Vladimir Lenin
  • Democratiaeth Gymdeithasol

    Mae ystyr y term Democratiaeth Gymdeithasol wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd. Yn wreiddiol, yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ystyriwyd ef fel term a oedd yn gyfystyr â Marcsiaeth – hynny yw, roedd disgrifio eich hun fel democrat cymdeithasol yn awgrymu cefnogaeth i ddadleuon Karl Marx. Er enghraifft, pan aethpwyd ati i sefydlu pleidiau gwleidyddol er mwyn lledaenu Marcsiaeth – fel a wnaed yn yr Almaen yn 1875 ac yn Rwsia yn 1898 – tueddwyd i’w galw yn bleidiau Democrataidd Cymdeithasol.

    Eto i gyd, erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac yn sicr erbyn dechrau’r ugeinfed ganrif, roedd arwyddocâd y term yn dechrau newid. Dechreuodd y sawl a oedd yn glynu at ddehongliadau Marx arddel y term comiwnyddiaeth. Pwysleisiwyd y newid cywair hwn yn 1918, pan benderfynodd y Bolsieficiaid yn Rwsia y dylid ailenwi Plaid Lafur Ddemocrataidd Gymdeithasol Rwsia yn Blaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd. Yn dilyn hyn, penderfynodd nifer o’r pleidiau a’r mudiadau hynny a oedd yn gefnogol i’r Bolsieficiaid, ac a oedd yn glynu at ddehongliadau Marx, alw eu hunain yn gomiwnyddion hefyd. Gyda hyn, daethpwyd i gysylltu’r term democratiaeth gymdeithasol â ffrwd llawer mwy cymedrol o sosialaeth. A siarad yn gyffredinol, roedd bellach yn cyfeirio at garfan a oedd yn amheus o hygrededd dadleuon Marx ac yn gweld yr angen i’w hadolygu.

    Ffigur allweddol yn natblygiad Democratiaeth Gymdeithasol fel ffrwd sosialaidd amgen oedd yr Almaenwr, Eduard Bernstein (1850-1932). Mae’r ffaith i Bernstein gyfrannu mewn modd sylweddol i’r symudiad hwn yn arwyddocaol. Roedd yn un o gyn-ddisgyblion Marx, ac yn wir, fe’i penodwyd i ofalu am bapurau Marx wedi ei farwolaeth yn 1883. Er hyn, dros amser daeth Bernstein yn fwyfwy amheus o hygrededd dadleuon Marx ac mewn cyfrolau fel Evolutionary Socialism (1898) aeth ati i amlinellu ei fyd-olwg amgen.

    I ddechau mynegodd Bernstein amheuon ynglŷn â’r duedd Farcsaidd i bwysleisio’r angen am chwyldro. Deilliodd yr amheuon hyn o rai o’r newidiadau cymdeithasol a gwleidyddol a welwyd yn ystod degawdau olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. I ddechrau, yn ystod y cyfnod hwn aeth y dosbarth gweithiol ati i sefydlu amrediad o sefydliadau pwysig – clybiau gweithwyr, undebau llafur a phleidiau gwleidyddol – a fyddai’n cyfrannu at warchod a dyrchafu eu buddiannau. Yn ogystal, cyfrannodd sefydliadau o’r fath at greu ymdeimlad cryfach o berthyn ac o undeb ymhlith aelodau’r dosbarth gweithiol. Ar ben hynny, ac efallai’n bwysicach, yn ystod y cyfnod hwn gwelwyd ehangu sylweddol ar yr etholfraint, gan olygu bod nifer cynyddol o’r dosbarth gweithiol yn meddu ar yr hawl i bleidleisio. Er enghraifft, ym Mhrydain, estynnwyd yr hawl i nifer cyfyng o weithwyr yn 1867 ac ehangwyd ar hyn yn 1884. Yna erbyn 1918 estynnwyd yr hawl i ddynion yn gyffredinol a hefyd i nifer cyfyng o ferched. At ei gilydd, arweiniodd y newidiadau hyn at sefyllfa ble roedd gan y dosbarth gweithiol lais gwleidyddol tipyn cryfach na chynt, ac yn sgil hynny roedd hi’n debygol y câi’u buddiannau fwy o sylw. Yn nhyb Bernstein, roedd newidiadau o’r fath yn golygu nad oedd modd cynnal y ddadl Farcsaidd o blaid yr angen am chwyldro treisgar.

    Roedd yr ehangu a fu ar yr etholfraint, yn enwedig, yn cynnig llwybr newydd i’r dosbarth gweithiol – bellach roedd modd i sosialaeth fod yn achos a gâi’i hyrwyddo’n raddol trwy gyfrwng y broses ddemocrataidd.

    Yn ail, dadleuodd Bernstein fod profiad o fywyd yn ystod degawdau olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg hefyd wedi tanseilio hygrededd rhai o ddadleuon Marx ynglŷn â natur yr economi cyfalafol, ynghyd â chwymp anochel y drefn honno. Mynnodd Bernstein fod cyfalafiaeth wedi datblygu i fod yn drefn llawer mwy sefydlog a hyblyg nag y tybiwyd yn wreiddiol. Honnodd Marx fod cyfalafiaeth yn drefn a fyddai’n arwain at dlodi parhaol a chynyddol ymhlith y dosbarth gweithiol. Fodd bynnag, o tua 1870 ymlaen gwelwyd cynnydd graddol mewn cyflogau a safonau byw ar draws nifer o wledydd gorllewinol. Yn arwyddocaol, ac yn gwbl groes i broffwydoliaethau Marx, roedd hwn yn gynnydd a estynnai i bob dosbarth cymdeithasol ac nid dim ond rhai aelodau cefnog o’r dosbarth bourgeois. Yn ogystal, yn ystod y blynyddoedd hyn, datblygodd cyfalafiaeth yn drefn llawer mwy cymhleth ac amlweddog. Roedd Marx wedi mynnu y byddai twf cyfalafiaeth yn arwain at gronni cyfoeth a chyfalaf yn nwylo llai a llai o unigolion. Fodd bynnag, yn gwbl groes i hyn, yn ystod degawdau olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg gwelwyd ehangu sylweddol ar y meddiant o gyfoeth. Un o’r ffactorau arweiniodd at hyn oedd y twf a fu mewn cwmnïau ble cai perchnogaeth ei rannu rhwng amryw o gyfranddalwyr, yn hytrach nag un diwydiannwr pwerus. Ar ben hynny, ni welwyd y math o bolareiddio cymdeithasol rhwng y proletariat a’r bourgeois a gafodd ei ddarogan gan Marx. Yn hytrach, yn sgil newidiadau o fewn y farchnad lafur, cyflogwyd mwy a mwy o bobl mewn meysydd proffesiynol (gweision sifil, athrawon, cyfreithwyr ac ati), gan esgor ar garfan gymdeithasol newydd – y dosbarth canol – nad oedd yn perthyn i’r proletariat na’r bourgeoisie.

    O ganlyniad i’r canfyddiadau hyn, dadleuodd Bernstein nad oedd y disgrifiad Marcsaidd o gyfalafiaeth – trefn a nodweddwyd gan ecsploetio economaidd amrwd ynghyd â gwrthdaro di-baid rhwng y dosbarthiadau – yn un a oedd bellach yn dal dŵr. Roedd yn drefn a oedd wedi addasu ac felly gellid codi cwestiynau ynglŷn â’r angen i’w dymchwel yn llwyr. O ystyried hyn, nid yw’n syndod fod democratiaid cymdeithasol yr ugeinfed ganrif, er enghraifft aelodau Plaid Ddemocrataidd Gymdeithasol yr Almaen, Plaid Lafur y Deyrnas Unedig neu Blaid Sosialaidd yr Eidal, wedi mabwysiadu amcanion cymdeithasol a gwleidyddol tipyn mwy cyfyng. Yn hytrach na sôn am ddymchwel cyfalafiaeth yn llwyr, tueddwyd i roi’r pwyslais ar yr angen i’w ffrwyno a’i ddiwygio trwy fabwysiadu polisïau tebyg i’r canlynol:

    • • Yr Economi Cymysg: Dyma drefniant economaidd sy’n sefyll hanner ffordd rhwng cyfalafiaeth farchnadol cwbl rydd a pherchnogaeth gyhoeddus o bob agwedd o’r economi. Mae democratiaid cymdeithasol wedi tueddu i gydnabod bod gan y farchnad rydd ei lle. O ganlyniad, dadleuwyd y dylid cyfyngu mesurau sy’n sefydlu perchnogaeth gyhoeddus i feysydd penodol – uchelfannau’r economi fel trydan, glo, dur a’r rheilffyrdd – tra bo gweddill yr economi’n parhau mewn perchnogaeth breifat.
    • • Rheoli Economaidd: Tra bo democratiaid cymdeithasol yn derbyn bod gan gyfalafiaeth ei rhinweddau, maent hefyd yn gweld angen i’w reoleiddio er mwyn sicrhau twf economaidd cyson a gwarchod rhag cyfnodau o ddiweithdra neu chwyddiant sydyn. Golyga hyn bod democratiaid cymdeithasol fel rhyddfrydwyr modern wedi dadlau o blaid polisïau macro-economaidd Keynesaidd sy’n defnyddio gwariant cyhoeddus a threthiant er mwyn rheoleiddio cyfalafiaeth.
    •  Gwladwriaeth Les: Dyma’r dull a ffafrir gan ddemocratiaid cymdeithasol er mwyn ceisio dofi’r anghyfartaledd all godi o dan gyfalafiaeth. Trwy’r wladwriaeth les – sefydliadau fel y drefn addysg, y gwasanaeth iechyd, y drefn fudd-daliadau – gall y wladwriaeth ail-ddosbarthu cyfoeth a chyfleoedd, gan geisio sicrhau mwy o gydraddoldeb ar draws cymdeithas a lleihau tlodi.

    Yn y cyfnod rhwng tua 1945 a’r 1970au cynnar tybiodd nifer bod y math o syniadau a gâi eu harddel gan ddemocratiaid cymdeithasol – syniadau a oedd yn gorgyffwrdd yn helaeth ag elfennau o ryddfrydiaeth fodern – wedi dod i gynrychioli’r ‘synnwyr cyffredin’ gwleidyddol ar draws y mwyafrif o wladwriaethau’r gorllewin. Eto i gyd, roedd hwn yn gyfnod o dwf economaidd cyson, diweithdra isel a chwyddiant isel ac o ganlyniad roedd modd i wladwriaethau ariannu darpariaethau lles mwyfwy hael. Fodd bynnag, arweiniodd dirwasgiad mawr y 1970au at argyfwng i’r sawl oedd yn arddel democratiaeth gymdeithasol. Ar y naill law, arweiniodd at gynnydd mawr yn y galw am ddarpariaethau lles y wladwriaeth wrth i ddiweithdra godi, ond, ar yr y llaw arall, rhoddodd bwysau ar allu’r wladwriaeth i ariannu rhaglenni o’r fath (gan fod llai o bobl yn gweithio ac felly’n methu â thalu trethi). Wrth iddynt wynebu’r fath sialensiau, datblygodd dadlau chwyrn rhwng gwahanol ddemocratiaid cymdeithasol – gyda rhai’n mynnu y dylid blaenoriaethu’r dasg o sicrhau effeithlonrwydd economaidd gan leihau chwyddiant a thorri trethi, ac eraill yn hawlio y dylid ymrwymo i warchod y tlawd a’r anghenus trwy gynnal ac ehangu darpariaethau lles allweddol – a chreodd hyn y gwagle gwleidyddol a alluogodd i ddadleuon gwahanol iawn y Dde Newydd ddechrau ennill tir.