-
-
Marcsiaeth
Mae’n deg dweud bod y traddodiad Marcsaidd o’r diddordeb mwyaf ar y lefel ryngwladol, a hynny’n rhannol oherwydd ei lwyddiant fel ideoleg dan arweiniad Comiwnyddion yr Undeb Sofietaidd, ac yn rhannol oherwydd y safbwyntiau a’r dadansoddiad nodedig y mae’r persbectif yn ei gynnig. Yn benodol, dangosai’r Farcsiaeth a ddatblygwyd gan Lenin (arweinydd yr Undeb Sofietaidd yn sgil y Chwyldro Rwsiaidd yn 1917) sut y gellid dehongli ymerodraethau’r cyfnod fel mynegiant o gyfalafiaeth ar ei ffurf fwyaf datblygedig, wrth i wladwriaethau cyfoethog y gorllewin geisio chwilio am fwy o elw trwy ecsploetio llafur ac adnoddau o rannau eraill o’r byd. O’r safbwynt Marcsaidd felly, gellir deall gwleidyddiaeth ryngwladol nid yn gymaint fel cymdeithas neu system a nodweddir gan wladwriaethau unigol sy’n cydweithredu neu’n brwydro yn erbyn ei gilydd, ond yn hytrach fel un system economaidd fyd-eang y mae rhai gwledydd penodol yn ei rheoli ac yn ei defnyddio er mwyn ecsploetio eraill.
Yr uchelgais tymor hir o safbwynt Comiwnyddiaeth, felly, yw dinistrio’r system gyfalafol hon ar lefel ryngwladol, er mwyn gwaredu’r byd o system a ystyrir yn anfoesol a diangen. Ymhlyg ym mholisi tramor gwladwriaeth fel yr Undeb Sofietaidd roedd y bwriad o geisio tanseilio’r gwledydd hynny oedd yn driw i gyfalafiaeth – ond yn ymarferol, nid oedd hyn yn flaenoriaeth nac yn realistig, yn enwedig yn ystod blynyddoedd cynnar y wladwriaeth honno. Yn wir, yn sgil gofynion mewnol sefydlu system gomiwnyddol a’i datblygu, sgileffeithiau’r dirwasgiad mawr, a chynnydd ffasgaeth yn Ewrop, am gyfnod hir ni chafwyd gwir ymgais i ledaenu’r system yn eang. Fodd bynnag, yn sgil yr Ail Ryfel Byd roedd gan Joseph Stalin gyfle i ail-lunio’r sefyllfa, ac fe wnaed hynny trwy ehangu’r cylch dylanwad dros nifer o wledydd dwyrain Ewrop. Mi fyddai’r ‘bloc’ Sofietaidd hwn yn datblygu system gomiwnyddol dros y blynyddoedd nesaf a oedd mewn gwrthwynebiad llwyr i’r system gyfalafol yng ngorllewin Ewrop a gogledd America.
Yn wir, dyma ddechrau’r ‘Rhyfel Oer’ – a gafodd ei enwi oherwydd y diffyg gwrthdaro gwaedlyd rhwng yr Undeb Sofietaidd a’r Unol Daleithiau. Roedd hyn yn rhannol o ganlyniad i ddatblygu arfau niwclear a chanlyniadau trychinebus arfaethedig unrhyw wrthdaro milwrol. Fodd bynnag, realiti’r sefyllfa oedd bod y ddwy wladwriaeth yn brwydro, ond bod maes y gad mewn gwledydd eraill yn Affrica, De America ac Asia, ble roedd y ddwy ochr yn ceisio cefnogi, ariannu ac arfogi’r grwpiau hynny oedd yn driw i’w hideolegau.
Roedd gwleidyddiaeth ryngwladol yn ystod y degawdau wedi’r Ail Ryfel Byd felly i bob pwrpas yn rhyfel ideolegol rhwng Comiwnyddiaeth a Chyfalafiaeth. ‘Enillwyd’ y rhyfel hwnnw erbyn diwedd yr 80au pan ddechreuodd y Bloc Sofietaidd ymddatod, a fesul gwlad, rhoddwyd y gorau i’r system gomiwnyddol, gyda Rwsia’n gorffen y broses yn 1991. Ceir o leiaf ddau ganlyniad amlwg i’r broses hon – yn gyntaf, ystyrir cyfalafiaeth bellach fel yr unig system ddilys, a byddai’n rhaid i sosialaeth frwydro ar y sail honno, gan allu mynnu yn unig bolisïau a oedd yn ffrwyno’r farchnad. Economi cymysg oedd y gorau y gallai sosialwyr obeithio amdano bellach – gan eithrio esiampl Cuba. Yn ail, gyda goruchafiaeth cyfalafiaeth dechreuodd oes newydd ym myd gwleidyddiaeth ryngwladol ble roedd yr Americanwyr yn dominyddu, ac awgrymir gan rai, fel Francis Fukuyama yn ei lyfr The End of History, bod gwleidyddiaeth y byd yn symud at sefyllfa ble byddai gwledydd fesul un yn troi at ryddfrydiaeth ddemocrataidd.
Er gwaethaf methiant Comiwnyddiaeth, mae diddordeb mewn Marcsiaeth yn parhau, yn rhannol oherwydd y ddealltwriaeth bod nifer o agweddau ar ddatblygiad yr Undeb Sofietaidd nad oedd yn driw i’r weledigaeth wreiddiol. Yn hynny o beth, ac yn enwedig mewn oes ble mae’r economi byd-eang wedi wynebu argyfyngau pellach, mae dadansoddiad Marcsaidd o rai o’r problemau cyfoes yn parhau’n addas. Un o’r safbwyntiau hynny yw’r ddamcaniaeth a ddatblygwyd yn yr 1970au gan feddylwyr fel Immanuel Wallerstein, sef damcaniaeth dibyniaeth. Gan ddechrau â’r syniad o’r system ryngwladol fel un economi enfawr, honnir gan y meddylwyr hyn fod y system gyfalafol fyd-eang yn un sy’n gofyn am gadw rhai rhannau o’r byd mewn cyflwr o ddibyniaeth er mwyn galluogi i’r system gyfalafol weithio, a chynhyrchu elw i bobl mewn rhannau eraill o’r byd. Yn ôl y safbwynt hwn, mae gennym economi byd-eang sydd â chraidd a chyrion, gyda’r craidd metropolitan yn echdynnu adnoddau dynol a naturiol o’r cyrion er mwyn eu defnyddio a’u hecsploetio trwy brosesau cynhyrchu. Ar y llaw arall, nid oes gan y gwladwriaethau hynny ar y cyrion y profiad na’r gallu i wneud yn fawr o’u hadnoddau craidd, ac yn bwysicach na dim, nid oes modd iddynt sefydlu’r hyn sydd ei angen er mwyn creu elw a chystadlu ag eraill, sef diwydiannau cynhyrchu cydnerth.
-
Democratiaeth gymdeithasol
Tra bo Marcsiaeth, ac yn hynny o beth, rhyddfrydiaeth, wedi bod yn ddylanwadol iawn o safbwynt gwleidyddiaeth ryngwladol, ac yn arbennig o ran astudio’r maes, nid yw democratiaeth gymdeithasol wedi hawlio’r un sylw nac wedi bod yn sail i draddodiad cydnabyddedig cyffelyb. Un awgrym pam fod y diffyg hwn yn bodoli yw bod traddodiad o feddwl sydd, mewn gwirionedd, yn coleddu gwerthoedd democrataidd cymdeithasol ond sy’n cael eu cyflwyno yn enw traddodiad arall, sef rhyddfrydiaeth egalitaraidd. I bob pwrpas, dyma’r label Americanaidd ar yr un teulu o syniadau – un a ddefnyddiwyd yn rhannol oherwydd cysylltiad ‘sosialaeth’ â’r hen elyn, sef Comiwnyddiaeth yr Undeb Sofietaidd, ac oherwydd cryfder y traddodiad rhyddfrydol a phwysigrwydd hawliau unigol yn eu hanes.
Un enghraifft o athronydd sy’n cyflwyno syniadau o’r fath yw Thomas Pogge (sy’n hanu o’r Almaen yn wreiddiol), ac yn wir, digon hawdd yw adnabod y dylanwad sosialaidd ar ei waith oherwydd ei ddyled i’r damcaniaethwyr dibyniaeth fel Wallerstein. Yn hynny o beth, mae Pogge’n rhoi pwyslais mawr ar rwystrau’r system economaidd fyd-eang ar ddatblygiad gwledydd yn y byd mwyafrifol (term cyfoes am gysyniad y trydydd byd) – gan ddadlau bod dyletswydd ar bobl yn y gorllewin i weithio tuag at ddiddymu’r strwythurau rheiny sydd, i bob pwrpas, yn parhau i ecsploetio rhannau helaeth o’r byd. Ceir meddylwyr eraill yn y traddodiad hwn, er enghraifft yr Indiad Amartya Sen, sydd wedi ysgrifennu’n helaeth am yr angen i ddiwygio gwledydd y byd yn ôl egwyddorion democrataidd. Iddo ef, mae datblygiad economaidd a gwleidyddol gwledydd yn ddibynnol ar sicrhau rhyddid ehangach i unigolion, yn enwedig merched. Mae’r sawl sy’n dadlau dros ‘gyfiawnder byd-eang’ (wele hefyd yr adran ar ryddfrydiaeth) i bob pwrpas yn dadlau dros ymestyn egwyddorion democrataidd cymdeithasol i’r lefel ryngwladol, gan arddel ailddosbarthiad adnoddau, strwythurau economaidd tecach, ehangu hawliau a sicrhau cydraddoldeb pellach rhwng unigolion a phobloedd y byd.
O safbwynt ymarferol, mae modd adnabod enghreifftiau niferus i geisio hybu’r agenda hwn, yn arbennig ers yr Ail Ryfel Byd. Roedd y Datganiad Cyffredinol ar Hawliau Dynol, mewn ymateb i erchyllterau’r rhyfel hwnnw, yn fan cychwyn o safbwynt ceisio hybu cyfiawnder ledled y byd. Cyfraniad nodedig arall oedd Adroddiad Brandt yn 1980, sef ymchwiliad (o dan arweiniad cyn-Ganghellor Gorllewin yr Almaen, Willy Brandt) i’r anghydraddoldeb a nodweddai’r gymdeithas ryngwladol – a’r argymhellion a ddaeth yn ei sgil i ailddosbarthu cyfoeth rhwng gwledydd. Yn 2000 cynhaliwyd Uwchgynhadledd y Mileniwm, ac yn dilyn honno, lluniwyd wyth nod datblygu ar gyfer y gymdeithas ryngwladol, a oedd eto’n adlewyrchu gwerthoedd sosialaidd democrataidd fel gwaredu tlodi, hybu addysg, sicrhau cydraddoldeb, gwella iechyd, yn ogystal â gwarchod yr amgylchedd. Dilynwyd Amcanion Datblygu’r Mileniwm yn 2016 gan restr o 17 o Amcanion Datblygu Cynaliadwy, sy’n dangos dilyniant gyda’r amcanion gwreiddiol ond sy’n adlewyrchu’n ogystal yr angen dybryd am ymateb i’r argyfwng amgylcheddol.
Mae sosialaeth yn ei hamryw ffurfiau yn ideoleg gyfanfydol, yn yr ystyr ei bod yn gasgliad o werthoedd a syniadau y mae’r sawl sy’n eu harddel yn credu y gellid eu lledaenu ledled y byd – yn ddamcaniaethol o leiaf. Dyna oedd cred Robert Owen ynghylch ei gymunedau cydweithredol – cymunedau y credai allasai nodweddu pob cymdeithas pa ots ble yn y byd. Yn eu Maniffesto Comiwnyddol apeliodd Engels a Marx ar weithwyr y byd i uno yn eu brwydr yn erbyn y bourgeoisie. Adlewyrchir y traddodiad hwn yn yr honiad cyson bod sosialaeth yn ideoleg rhyngwladolaidd (internationalist), a’i golygon yn ymestyn y tu hwnt i’r genedl unigol i gyfeiriad y rhyngwladol, gan arddel achosion fel hawliau gweithwyr, heddwch a chydraddoldeb ar y lefel honno’n ogystal. Ymgorfforwyd y naws ryngwladol hon mewn dau sefydliad o bwys mawr, sef y First International, neu’r International Workingman’s Association (1864-1876), a’r Second International (1889-1916). Bwriad y ddau fudiad oedd uno grwpiau asgell chwith – sosialwyr, comiwnyddion, anarchwyr, undebau – mewn rhwydwaith rhyngwladol er mwyn ymuno mewn rhyfel dosbarth. Daeth y cyntaf i ben oherwydd rhwygiadau gyda’r anarchwyr, nad oedd yn rhan o’r sefydliadau dilynol, er i’r mudiad barhau’n ddylanwadol tan y Rhyfel Byd Cyntaf. Chwalwyd yr achos o ganlyniad i gefnogaeth nifer o bleidiau sosialaidd i’r rhyfel, yn wyneb gwrthwynebiad egwyddorol i weld y dosbarth gweithiol yn cael ei droi’n ysglyfaeth i’r gynnau mawr. Roedd y Third International yn fater arall, sef y Comintern: y sefydliad hwnnw a ffurfiwyd yn 1919 i genhadu dros Gomiwnyddiaeth ar ran yr Undeb Sofietaidd. Byddai’n chwarae rhan flaenllaw yn Rhyfel Cartref Sbaen (1936-39) pan frwydrodd sosialwyr, anarchwyr a Chomiwnyddion gyda’r Gwerinwyr, yn erbyn y lluoedd cenedlaetholgar. Dyma fynegiant croyw o ryngwladoldeb y mudiad sosialaidd rhyngwladol, gyda’r International Brigades a drefnwyd gan y Comintern yn denu degau o filoedd o filwyr o wledydd amrywiol – a’r Cymry yn eu mysg. Mae llyfr nodedig Hywel Francis, Miners Against Facism yn olrhain cyfraniad yr unigolion yma i’r rhyfel.