• Rhagymadrodd: Cyflwyno Cenedlaetholdeb

    Cariad at ein Gwlad yw’r teitl Cymraeg a roddir i destun Richard Price – A Discourse on the Love of our Country – a sbardunodd y rhyfel pamffledi yn ystod y blynyddoedd yn dilyn y Chwyldro Ffrengig yn 1789. Daeth yr ysgrif yn adnabyddus yn sgil y dadleuon radical, rhyddfrydol eu naws, a fynegwyd ynddo a’r ffaith iddynt gymell Edmund Burke i ymateb gyda’i destun enwog, Reflections on the Revolution in France. Fodd bynnag, trafod gwladgarwch oedd pwrpas pennaf Price, ac yn benodol, yr egwyddorion hynny ddylai fod yn sail i’r genedl fodern.

    darllen mwy >>
  • Gwreiddiau Cenedlaetholdeb

    Mae’r drafodaeth ynglŷn â gwreiddiau cenedlaetholdeb yn un sydd wedi esgor ar ddadlau poeth ymhlith nifer o haneswyr, gwyddonwyr gwleidyddol a chymdeithasegwyr. Tuedda’r mwyafrif helaeth o ysgolheigion i gytuno mai ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg y gwelwyd termau megis ‘cenedl’ a ‘chenedlaetholdeb’, ynghyd â themâu cysylltiedig megis ‘hunanbenderfyniad cenedlaethol’ a ‘hunaniaeth genedlaethol’, yn dechrau cael eu defnyddio’n gyson mewn cyd-destunau gwleidyddol. Fodd bynnag, ceir anghydweld sylweddol ynglŷn â’r graddau y dylid hefyd trin y teimladau a’r syniadau a ddaeth i gael eu cynrychioli gan y termau hyn fel pethau sydd ond yn perthyn i’r cyfnod modern.

    darllen mwy >>
  • Ffurfiau ar Genedlaetholdeb

    Mae cenedlaetholdeb yn ideoleg sydd wedi cwmpasu ystod eang iawn o ffrydiau. Yn wir, ar brydiau ymddengys y byddai’n fwy addas i sôn am gyfres o genedlaetholdebau gwahanol yn hytrach na thrin cenedlaetholdeb fel un traddodiad cydlynol. I raddau, gellid cyflwyno dadl o’r fath yn achos bron pob un ideoleg wleidyddol.

    darllen mwy >>
  • Elfennau Allweddol Cenedlaetholdeb

    Fel y gwelwyd yn yr adran flaenorol, mae cenedlaetholdeb yn ideoleg sydd wedi cwmpasu ystod eang ac amrywiol iawn o safbwyntiau gwleidyddol. Ymhellach, mae'r rhain yn safbwyntiau sydd wedi gorgyffwrdd â bron pob un o’r prif draddodiadau ideolegol eraill, gan gynnwys rhyddfrydiaeth, ceidwadaeth, sosialaeth a ffasgaeth. Eto i gyd, er gwaethaf yr ehangder hwn, erys rhai elfennau allweddol y gellir eu trin fel rhai sy’n greiddiol i wleidyddiaeth genedlaetholgar o bob math.

    darllen mwy >>
  • Cenedlaetholdeb a’r Rhaniad Sifig-ethnig

    Cyflwynwyd y rhaniad rhwng cenedlaetholdeb sifig ac ethnig gan Hans Kohn (1891-1971) er mwyn dadansoddi a disgrifio mathau gwahanol o genedlaetholdeb. Er eu bod yn gategorïau lled ddiweddar, maent yn seiliedig ar safbwyntiau sy’n meddu ar hanes hir sy’n ymestyn yn ôl i’r ddeunawfed ganrif. Ymhellach, er eu bod yn gategorïau a gyflwynwyd at bwrpas dadansoddol, maent hefyd wedi meddu ar wedd normadol gref – yn yr ystyr bod Kohn yn tueddu i gysylltu’r sifig gyda’r hyn sy’n ‘dda’ a’r ethnig gyda’r hyn sy’n ‘ddrwg’.

    darllen mwy >>
  • Cenedlaetholdeb yng Ngwleidyddiaeth Cymru

    Owain Glyndŵr Gellir cychwyn trafodaeth ynglŷn â dylanwad syniadau cenedlaetholgar ar wleidyddiaeth Cymru trwy droi nôl i gyfnod Owain Glyndŵr. Cychwynnodd Glyndŵr ar ei wrthryfel yn 1400 ac fe gyrhaeddodd uchafbwynt yn 1405, cyn i’r llanw droi yn ei erbyn. O safbwynt cenedlaetholdeb, un o’r pethau sy’n arwyddocaol am yr ymgyrch yw’r modd y gwnaed defnydd helaeth o fytholeg a hanes, yn enwedig y pwyslais ar etifeddiaeth Glyndŵr a’i gysylltiadau â Thŷ Aberffraw.

    darllen mwy >>
  • Cenedlaetholdeb a Gwleidyddiaeth Fyd-eang

    Mae tybiaethau cenedlaetholgar yn gwbl ganolog i weithrediad gwleidyddiaeth fyd-eang. Amlygir hyn gan y ffaith fod gennym bellach system ryngwladol sy’n seiliedig ar gyfres o genedl-wladwriaethau sofran sy’n ymwneud â’i gilydd. Wrth gwrs, datblygiad lled-ddiweddar fu ymlediad y drefn yma o genedl-wladwriaethau i bedwar ban byd.

    darllen mwy >>