Owain Glyndŵr

    Gellir cychwyn trafodaeth ynglŷn â dylanwad syniadau cenedlaetholgar ar wleidyddiaeth Cymru trwy droi nôl i gyfnod Owain Glyndŵr. Cychwynnodd Glyndŵr ar ei wrthryfel yn 1400 ac fe gyrhaeddodd uchafbwynt yn 1405, cyn i’r llanw droi yn ei erbyn. O safbwynt cenedlaetholdeb, un o’r pethau sy’n arwyddocaol am yr ymgyrch yw’r modd y gwnaed defnydd helaeth o fytholeg a hanes, yn enwedig y pwyslais ar etifeddiaeth Glyndŵr a’i gysylltiadau â Thŷ Aberffraw. Ymhellach, roedd pwyslais Glyndŵr ar yr angen i greu sefydliadau cynhenid Cymreig, boed hynny’n senedd, yn brifysgolion neu’n gyfundrefn eglwysig, yn adleisio themâu cenedlaetholgar pwysig. Yn fwy cyffredinol, o ystyried ei ymgyrch gellir dadlau bod y profiad o ymrafael gyda’r Normaniaid a’r Sacsoniaid wedi peri i’r Cymry fagu ymdeimlad o hunaniaeth genedlaethol yn gynnar iawn – llawer yn gynt nag yn achos nifer o bobloedd eraill ledled Ewrop. Er enghraifft, ni welwyd ymdeimlad o hunaniaeth Seisnig cydlynol yn amlygu ei hun tan ddechrau’r bymthegfed ganrif. I raddau helaeth, ffurf reit gyntefig ar genedlaetholdeb a welwyd yn ystod y cyfnod hwn, lle cai hunaniaeth genedlaethol ei seilio’n bennaf ar ffactorau megis iaith, hanes a mytholeg. Fodd bynnag, roedd y cof o fodolaeth cyfraith frodorol Gymreig – cyfreithiau Hywel Dda o’r ddegfed ganrif – hefyd yn rhan o’r etifeddiaeth roedd Owain Glyndŵr yn awyddus i’w harneisio wrth ddenu cefnogaeth i’w wrthryfel.

  • Owain-Glyndwr.jpg
    Owain Glyndŵr
  • Gyda methiant gwrthryfel Glyndŵr, ymgorfforwyd Cymru ymhellach, ac ni fyddai’r syniad, ymreolaeth genedlaethol yn codi eto mewn modd ystyrlon am rai canrifoedd. Yn hytrach trodd nifer o’r Cymru eu golygon at geisio dylanwadau ar natur y wladwriaeth Seisnig newydd a oedd bellach yn ffurfio, a hefyd at yr ymdrech i ddiogelu’r iaith a’r diwylliant Cymraeg. Yn nhyb rhai, cafodd yr ymdrechion hyn eu hybu pan fu i Harri Tudur (Harri VII), a oedd o dras Gymreig, ddod yn frenin yn 1485, a hynny’n rhannol yn sgil y gefnogaeth y rhoddodd y Cymry i’w ymgyrch i gipio’r orsedd. Yn ddiweddarach, bu i’w fab, y drwg-enwog Harri VIII, roi cydnabyddiaeth i’r Cymry trwy Ddeddfau Uno 1536 a 1542 a ffurfiolodd siroedd Cymru fel rhan o wladwriaeth Lloegr. Yna yn ystod teyrnasiad ei ferch, Elisabeth I, daeth nifer cynyddol o Gymry i ddylanwadu ar ffurf y wladwriaeth honno, er enghraifft John Dee, a fathodd y term ‘Yr Ymerodraeth Brydeinig’.

  • Michael-Daniel-Jones.jpg
    Michael Daniel Jones
  • Michael D Jones a chenedlaetholdeb y bedwaredd ganrif ar bymtheg

    Erbyn dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd yr Alban ac Iwerddon hefyd wedi’u hymgorffori gan greu Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon. Yn ystod y ganrif hon aeth y wladwriaeth ati i geisio tynhau ei rheolaeth ar fywyd y bobl – yn enwedig yn sgil cyffro a phrotest y Chwyldro Diwydiannol – a gwelwyd ymgais i geisio creu a lledu ymdeimlad o hunaniaeth Brydeinig. O ganlyniad, daeth yr iaith a diwylliant Cymraeg dan bwysau; yn yr un cyfnod roedd y werin Gymreig yn wynebu amodau byw anodd iawn ac roedd Eglwys Lloegr yn destun gwrthwynebiad chwyrn ar draws cenedl a oedd bellach wedi troi at yr enwadau anghydffurfiol.

    O ystyried yr amgylchiadau hyn, nid syndod, efallai, bod ffigur fel Michael D. Jones (1822-1898) – tad cenedlaetholdeb modern Cymreig, yn nhyb rhai – wedi dod i amlygrwydd. Erbyn heddiw, fe’i hadnabyddir yn bennaf fel arweinydd yr ymdrech i sefydlu Gwladfa Gymraeg ym Mhatagonia yn yr Ariannin, ond roedd eu safbwyntiau cenedlaetholgar yn ymestyn yn llawer pellach na hynny. Mynnai fod y diwylliant mwyafrifiol Saesneg, trwy sefydliadau sifig megis y gyfraith a llywodraeth, ond hefyd trwy’r economi, yn tanseilio rhagolygon Cymru a’r Gymraeg. Yn wir yn nhyb Jones, a oedd yn bregethwr i’r Annibynwyr, roedd yr iaith yn elfen allweddol i hunaniaeth genedlaethol y Cymry ond hefyd yn hanfodol i’w ffydd – credai y byddai colli’r iaith nid yn unig yn arwain at danseilio diwylliant cynhenid y Cymry, byddai hefyd yn peri iddynt golli eu crefydd. Am y rhesymau hynny, dadleuodd bod rhaid gwrthsefyll y wladwriaeth Brydeinig, ac os nad oedd hynny’n bosib, byddai’n rhaid wrth ymgais i sefydlu cyfundrefn Gymreig newydd mewn rhan arall o’r byd lle byddai’r Gymraeg yn medru cael ei sefydlu fel yr unig iaith weinyddol swyddogol.

    Yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, dilynwyd Michael D. Jones gan ystod o ffigurau pwysig eraill – yn eu plith Emrys ap Iwan – ac erbyn 1886 sefydlwyd mudiad Cymru Fydd a ddaeth i arwain ymgyrch o blaid ymreolaeth i Gymru ac a ddenodd gefnogaeth gan Ryddfrydwyr Cymreig blaenllaw megis J.E. Lloyd, O.M. Edwards, T.E. Ellis a Lloyd George. Byrhoedlog oedd llwyddiant y mudiad hwn, a daeth i ben erbyn diwedd y ganrif, yn rhannol o ganlyniad i anghydweld rhwng aelodau’r de a’r gogledd. Serch hynny, parhaodd y syniad o ymreolaeth i gael ei drafod ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, er enghraifft yn sgil ymgyrch yr Aelod Seneddol Cymreig, E.T. John, neu yn sgil ymdrechion sosialwyr megis T.E. Niclas a David Thomas i greu Plaid Lafur Gymreig oedd o blaid ymreolaeth. Fodd bynnag, mae’n bwysig pwysleisio nad annibyniaeth lwyr oedd y nod yn achos yr ymgyrchoedd gwahanol hyn o blaid ymreolaeth ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif, ond yn hytrach, ceisio sicrhau mesur o hunanlywodraeth i Gymru fel ‘dominiwn’ o fewn strwythur rhyngwladol yr Ymerodraeth Brydeinig.

  • Gwynfor-Evans.jpg
    Gwynfor Evans
  • Saunders Lewis a datblygiad Plaid Cymru

    Yn dilyn y Rhyfel Byd cyntaf, gwelwyd y mudiad cenedlaetholgar yng Nghymru yn newid cyfeiriad wrth i ffigurau megis Saunders Lewis (1893-1985) ddadlau bod angen brwydro am annibyniaeth a bod galw am blaid genedlaetholgar Gymreig er mwyn gwneud hynny. Ffurfiwyd Plaid Genedlaethol Cymru (sef enw creiddiol y blaid) ym Mhwllheli yn 1925 a gwasanaethodd Saunders Lewis fel ei llywydd hyd at 1939. Fe’i hadnabyddir fel ysgolhaig a llenor disglair, ond roedd ei arweinyddiaeth wleidyddol yn llai poblogaidd. Ffurf geidwadol iawn ar genedlaetholdeb a gâi ei harddel ganddo. Rhoddai bwyslais mawr ar draddodiad a hanes a mynegai amheuon mawr ynglŷn â rhinweddau’r gymdeithas ddiwydiannol fodern – i’r graddau fel ei fod wedi dadlau y dylai Plaid Cymru arddel polisi economaidd a oedd yn argymell dad-ddiwydiannu cymoedd de Cymru. Ymhellach, trodd at Babyddiaeth yn 1932, penderfyniad a brofodd yn ddadleuol iawn mewn gwlad o gapelwyr anghydffurfiol. Drwy hyn oll, yr un elfen greiddiol a chyson yn ei weledigaeth wleidyddol oedd yr angen i adfer yr iaith Gymraeg a’r nod o greu Cymru Gymraeg unieithog.

    Pwysleisir yn aml y gwahaniaethau rhwng Saunders Lewis a’i olynydd, sef Gwynfor Evans (1912-2005). Tra bod y naill yn Babydd, yn geidwadwr ac yn barod i arddel safbwyntiau militaraidd o ran ymagwedd, roedd y llall yn anghydffurfiwr, yn rhyddfrydwr cymdeithasol, a hefyd yn heddychwr brwd. Yn wir, heddychiaeth gadarn Gwynfor oedd un o’r ffactorau a olygodd na fyddai cenedlaetholdeb Cymreig, ar ei ffurf torfol, yn dilyn llwybr tebyg i’r Gwyddelod. Er gwaetha’r gwahaniaethau hyn roedd y ddau hefyd yn debyg iawn mewn amryw o ffyrdd. Er enghraifft, roedd y ddau’n gytûn ynglŷn ag arwyddocâd hanes i’r mudiad cenedlaethol a hefyd fod cynnal y Gymraeg yn gwbl hanfodol os am gynnal ymdeimlad o arwahanrwydd Cymreig. Yn ogystal, roedd y ddau yn mynnu y dylid dehongli cenedlaetholdeb Cymreig fel safbwynt gwleidyddol cyflawn – un y gellid ei drin fel dewis amgen i gyfalafiaeth farchnadol ar y naill law a sosialaeth ar y llaw arall.

    Ffigur pwysig arall sydd angen ei ystyried wrth drafod datblygiad syniadaethol y mudiad cenedlaethol yng Nghymru yn ystod yr ugeinfed ganrif yw J.R. Jones (1911-1970). Ni fu iddo ymgymryd â rôl wleidyddol ffurfiol fel arweinydd plaid – yn hytrach ysgolhaig ydoedd a fu’n bennaeth ar Adran Athroniaeth Prifysgol Abertawe. Yn ystod y 1960au cyhoeddodd o ysgrifau nodedig a oedd yn rhoi mynegiant athronyddol i rai o dybiaethau sylfaenol cenedlaetholdeb Cymreig. Fel yn achos Saunders Lewis a Gwynfor Evans, credai J.R. Jones fod yr iaith Gymraeg yn rhan annatod o barhad y syniad o genedl Gymreig. Dadleuodd bod modd diffinio hanfod y syniad o genedl trwy gyfeirio at dair elfen allweddol, sef tir, iaith a gwladwriaeth, ynghyd â’r clymau rhyngddynt. Cyflwynodd hefyd y cysyniad o ‘gydymdreiddiad’ rhwng iaith a thir, sef proses hanesyddol sy’n caniatáu i briod iaith cenedl esblygu mewn cytgord â’i thiriogaeth, gan lunio ysbryd y bobl (h.y. aelodau’r genedl). Fodd bynnag yn absenoldeb gwladwriaeth, mynnodd Jones nad oes modd sicrhau parhad yr iaith na chwaith ysbryd unigryw y bobl. Y broblem o safbwynt Cymru, yn nhyb Jones, yw’r ffaith fod y bobl Gymreig yn byw o fewn gwladwriaeth nad sydd wedi’i chlymu i’w tiriogaeth a’u hysbryd hwy; yn hytrach mynnodd fod y Deyrnas Unedig, yn ei hanfod, yn wladwriaeth sydd wedi’i chlymu’n hanesyddol i dir a iaith Lloegr, ac felly nid swyddogaeth y wladwriaeth honno yw gwarchod y bobl Gymreig, ond yn hytrach eu cymhathu. Heb annibyniaeth felly, a heb sefydliadau gwladwriaethol cynhenid, edwino’n raddol fyddai ffawd yr iaith a’r ysbryd Cymraeg, ac yn y pen draw, gyda difodiant yr iaith nid Cymry fyddai yno mwyach.

    Oes Datganoli

    Ni ellir trafod cenedlaetholdeb yn y cyswllt Cymreig felly, heb gydnabod y gwrthdrawiad neu â chenedlaetholdeb Prydeinig. Wrth wrthwynebu cenedlaetholdeb Cymreig, yn amlach neu beidio byddai aelodau’r pleidiau mawr – y Ceidwadwyr a’r Blaid Lafur – yn arddel ffurf ar genedlaetholdeb Prydeinig. Ni fyddai hyn, o reidrwydd, yn golygu cwestiynu bodolaeth cenedligrwydd Cymreig, ond byddai’n pwysleisio natur wleidyddol Prydeindod, gan ganiatáu’r Cymreictod fel ymlyniad diwylliannol yn unig. Ac eto, daeth pethau’n fwy cymhleth yn sgil datganoli a sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol ar ddiwedd y 1990au. Bellach roedd pwysau ar y pleidiau ‘Prydeinig’ i fabwysiadu delwedd a byd-olwg mwy Cymreig er mwyn ymateb i’r sialensiau etholiadol a’r sialensiau polisi a oedd yn deillio o’r cyd-destun gwleidyddol newydd. Gwelwyd hyn yn fwyaf amlwg yn achos y Blaid Lafur yn y cyfnod rhwng 1999 a 2003. Yn dilyn llwyddiant annisgwyl Plaid Cymru yn ystod etholiadau cyntaf y Cynulliad yn 1999, bu ymdrech benodol i Gymreigio delwedd y blaid yng Nghymru a hefyd cryfhau ei threfniadaeth yng Nghymru – proses a symbylwyd yn rhannol gan natur ei harweinydd ar y pryd, Rhodri Morgan. Gwelwyd y Ceidwadwyr yng Nghymru a hefyd y Democratiaid Rhyddfrydol yn cymryd camau digon tebyg. At ei gilydd felly, gellir dadlau bod bron pob un o’r prif bleidiau a gynrychiolir yn y Cynulliad (ac eithrio UKIP) yn arddel rhyw ffurf ar genedlaetholdeb Cymreig, yn yr ystyr eu bod yn ymrwymedig i gynnal cyfundrefn lywodraethol Gymreig. Wrth gwrs, nid yw hyn yn golygu bod pob plaid yn debygol o gefnogi camau a fyddai’n symud Cymru ymhellach ar hyd y llwybr cyfansoddiadol tuag at annibyniaeth. Fodd bynnag, ceir consensws bellach ar yr angen i drin a thrafod gwleidyddiaeth o fewn ffrâm Gymreig benodol.