-
Cyflwyno Rhyddfrydiaeth
Ar y 4ydd o Dachwedd, 1789, cyflwynodd y Cymro a'r Rhyddfrydwr enwog, Richard Price, bregeth a achosodd drafodaeth wleidyddol fywiog; soniodd am nifer o syniadau gwleidyddol sy'n parhau i gael llawer o sylw heddiw.
darllen mwy >> -
Gwreiddiau Rhyddfrydiaeth
Mae’r term ‘rhyddfrydol’ yn estyn yn ôl i’r Oesoedd Canol a chafodd ei ddefnyddio mewn sawl cyd-destun gwahanol dros y canrifoedd. Er enghraifft, roedd y term Lladin, liber, yn disgrifio dosbarth o ddynion rhydd – dynion nad oeddent yn gaethweision. Yn fwy diweddar cafodd y term ei ddefnyddio i awgrymu haelioni.
darllen mwy >> -
Ffrydiau Rhyddfrydol
Fel ymron pob ideoleg wleidyddol arall, nid un corff taclus o syniadau oedd rhyddfrydiaeth. Felly, tra bod rhai wedi ceisio dadlau mai un athrawiaeth bur ydyw rhyddfrydiaeth, mae’r mwyafrif yn credu mewn nifer o ffrydiau rhyddfrydol. Y mwyaf amlwg yw Rhyddfrydiaeth Glasurol a Rhyddfrydiaeth Fodern.
darllen mwy >> -
Elfennau Allweddol Rhyddfrydiaeth
Unigolyddiaeth Mae unigolyddiaeth yn egwyddor ryddfrydol cwbl ganolog. Golyga bod rhyddfrydwyr yn credu y dylid rhoi lles pobl unigol o flaen rhai cymdeithas, neu unrhyw grŵp torfol arall. Credant fod pobl yn unigolion gwahanol yn y lle cyntaf, a bod y ffaith hon yn bwysig.
darllen mwy >> -
Seiliau Gwladwriaeth Ryddfrydol
Er bod rhyddfrydwyr yn rhoi pwyslais ar ryddid pob unigolyn, maent yn derbyn na fyddai cymdeithas heddychlon, oddefgar gyda phawb yn gyfartal yn bosib pe byddai rhyddid absoliwt. Pe na byddai unrhyw drefniadau gwleidyddol a chyfreithiol er mwyn cadw trefn, byddai'n bosib i unigolion ddefnyddio eu rhyddid er mwyn cam-drin neu ennill mantais dros bobl eraill. Byddai hyn yn golygu sefyllfa lle byddai pob aelod o gymdeithas yn medru bygwth eraill neu gael eu bygwth gan eraill.
darllen mwy >> -
Rhyddfrydiaeth, y Wladwriaeth a Chydraddoldeb
Rhyddfrydiaeth a chydraddoldeb Mae’r rhyddfrydwyr yn credu bod tair elfen o gydraddoldeb i gyfiawnder cymdeithasol, sef: •* Cydraddoldeb sylfaenol:* Mae rhyddfrydwyr yn credu y dylai pob person gael hawl i gydraddoldeb sylfaenol a bod bywyd pob unigolyn â’r un gwerth moesol. • *Cydraddoldeb ffurfiol:* Mae rhyddfrydwyr yn credu y dylai pob person gael yr un statws ffurfiol o fewn cymdeithas, ac y dylai pob unigolyn, beth bynnag fo'u cefndir, gael yr un hawliau a breintiau. Credant na ddylai cymdeithas ystyried unrhyw wahaniaethau rhwng pobl a sicrhau bod cyfle i bawb beth bynnag yw eu rhyw, lliw croen, crefydd neu ddosbarth cymdeithasol.
darllen mwy >> -
Rhyddfrydiaeth a'r Economi
Mae pob rhyddfrydwr yn credu bod economi marchnad rydd yn bwysig. Fodd bynnag mae gan ryddfrydwyr safbwyntiau gwahanol ynglŷn â faint o gamau y dylai'r wladwriaeth gymryd er mwyn ceisio rheoleiddio a llywio'r economi. Mae ateb gwahanol ryddfrydwyr i'r cwestiwn hwn yn dibynnu ai rhyddfrydwyr clasurol neu fodern ydynt.
darllen mwy >> -
Rhyddfrydiaeth yng Ngwleidyddiaeth Cymru
Tarddiad y Blaid Ryddfrydol Tra bod elfennau o ryddfrydiaeth wedi dylanwadu ar wleidyddiaeth y wladwriaeth trwy’r 18fed ganrif, ni chafwyd Rhyddfrydiaeth wleidyddol swyddogol yn y Deyrnas Unedig tan etholiad 1868, pan ffurfiwyd y Blaid Ryddfrydol. Ond roedd agweddau ar ryddfrydiaeth wedi dylanwadu’n fawr ar y wladwriaeth cyn hynny. Etholiad 1868 oedd yr etholiad cyntaf yn dilyn pasio’r Ddeddf Ddiwygio yn 1867, a roddodd y bleidlais i ddynion oedd yn berchen tŷ neu’n talu rhent o £10 yn y bwrdeistrefi.
darllen mwy >> -
Rhyddfrydiaeth a Gwleidyddiaeth Fyd-eang
Cyd-destun Rhyddfrydiaeth a Realaeth Er bod rhyddfrydiaeth yn safbwynt canolog iawn mewn gwleidyddiaeth heddiw, mae’r sefyllfa’n wahanol iawn yn rhyngwladol. Mewn rhai rhannau o’r byd mae syniadau rhyddfrydol yn cael eu beirniadu’n llym. Dyma’r safbwynt realaidd, sydd yn ystyried bod y system ryngwladol mewn cyflwr o anarchiaeth.
darllen mwy >>