Mae’r term ‘rhyddfrydol’ yn estyn yn ôl i’r Oesoedd Canol a chafodd ei ddefnyddio mewn sawl cyd-destun gwahanol dros y canrifoedd. Er enghraifft, roedd y term Lladin, liber, yn disgrifio dosbarth o ddynion rhydd – dynion nad oeddent yn gaethweision. Yn fwy diweddar cafodd y term ei ddefnyddio i awgrymu haelioni. Hefyd, gall rhyddfrydol neu ryddfrydig gael eu defnyddio i ddisgrifio ein hagweddau cymdeithasol. Disgrifir person fel rhywun rhyddfrydol os yw’n agored i amrywiaeth eang o safbwyntiau.

    Eto, er bod y defnydd o’r term yn mynd yn ôl i’r Oesoedd Canol, ni chafodd rhyddfrydiaeth ei ddefnyddio fel label gwleidyddol hyd ddechrau’r 19eg ganrif. Mae’n bosib mai yn Sbaen yn 1812 y digwyddodd hyn am y tro cyntaf, pan ddefnyddiwyd yr enw Liberales gan blaid newydd a gafodd ei sefydlu er mwyn gwrthwynebu grwpiau mwy ceidwadol a oedd yn cefnogi’r brenin. Wedi hynny, datblygodd y term yn gyflym iawn mewn gwleidyddiaeth. Erbyn tua’r 1840au, roedd rhyddfrydiaeth yn derm ar draws Ewrop i ddisgrifio syniadau gwleidyddol radical.

    Ond ni chafodd rhyddfrydiaeth ei ddefnyddio fel label gwleidyddol pendant hyd ddechrau’r 19eg ganrif. Roedd y math o syniadau ac egwyddorion y gellid eu disgrifio fel rhyddfrydiaeth wedi datblygu’n raddol am ymron i 300 mlynedd cyn hynny. Er enghraifft, mae John Gray – arbenigwr ar hanes a datblygiad rhyddfrydiaeth – yn dweud mai yn yr 17eg ganrif y dechreuodd rhai o'r syniadau a fyddai’n ffurfio rhyddfrydiaeth, yn y pen draw.

    Mae llawer o drafodaeth ynglŷn â sut datblygodd syniadau rhyddfrydol yn ystod y cyfnod hwn – 1600au-1800au. Mae’r rhai sy’n astudio hanes syniadau gwleidyddol wedi dewis dilyn sawl llwybr gwahanol, gan roi sylw i nifer o ddatblygiadau cymdeithasol a gwleidyddol pwysig. Fodd bynnag, dyma’r rhai mwyaf amlwg:

    • • Y nifer o chwyldroadau gwleidyddol mawr a fu yn Lloegr (1688), America (1776) a Ffrainc (1789); roeddent yn tynnu sylw, mewn gwahanol ffyrdd at themâu rhyddfrydol pwysig. Roedd y themâu yn cynnwys unigolyddiaeth, goddefgarwch, rhyddid a'r angen i gyfyngu grym gwleidyddol.
    • Y Goleuo, sef y symudiad diwylliannol a welwyd yn ystod y 18fed ganrif. Roedd y mudiad hwn yn cwestiynu traddodiadau crefydd, gwleidyddiaeth a dysg, gan ddangos y gallai pobl ddefnyddio eu gallu i resymu er mwyn deall y byd.
    • • Datblygiad y gymdeithas gyfalafol fodern o'r 17eg ganrif, pan welwyd dosbarth canol yn cael ei greu. Nid oedd aelodau’r dosbarth cymdeithasol newydd hwn yn fodlon i’w rhyddid gwleidyddol ac economaidd gael ei gyfyngu, fel a oedd wedi digwydd o dan system brenhinoedd absoliwt yn ystod y canrifoedd cynt.

    Gwelir felly bod nifer o ddatblygiadau mawr wedi cyfrannu at ddatblygiad syniadau rhyddfrydol. Yn gyffredinol, gwelwyd newidiadau gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd rhwng yr 17eg ganrif a'r 19eg ganrif ac un canlyniad o hyn oedd rhyddfrydiaeth.