• Rhagymadrodd: Cyflwyno Sosialaeth

    Cydnabyddir y Cymro, Robert Owen, fel un o’r sosialwyr cyntaf. Yn 1800 sefydlodd ef gymuned gydweithredol yn New Lanark, ger Glasgow, ac yn ystod y blynyddoedd canlynol cyhoeddodd nifer o ysgrifau a ystyrir heddiw yn ddogfennau allweddol o safbwynt gosod seiliau sosialaeth. Yn ystod yr un cyfnod, cafwyd cyfraniadau pwysig gan feddylwyr o Ffrainc fel Charles Fourier a Saint-Simon, ac at ei gilydd, ystyrir safbwyntiau’r garfan gynnar hon fel *Sosialaeth Iwtopaidd*.

    darllen mwy >>
  • Gwreiddiau Sosialaeth

    Ar y cyfan, y farn ymhlith ysgolheigion yw mai ideoleg wleidyddol a ddatblygodd yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg yw sosialaeth. Fodd bynnag, gellir olrhain gwreiddiau’r syniadaeth yn ôl ymhell cyn hynny. Er enghraifft, yn nhyb rhai, gwelir syniadau o anian sosialaidd ar waith yn nisgrifiad y Testament Newydd o fywyd y Cristnogion cynnar.

    darllen mwy >>
  • Ffrydiau Sosialaidd

    Tra bo cred yn yr angen i drawsnewid cymdeithas, a hynny ar sail egwyddorion fel cydraddoldeb a chydweithrediad, yn tueddu i nodweddu dadleuon bron pob sosialydd, mae’n bwysig cofio na cheir un ffurf swyddogol ar sosialaeth. Yn hytrach, dros y blynyddoedd datblygodd ystod o ffrydiau sosialaidd gwahanol. Isod cyflwynir rhai o’r ffrydiau mwyaf dylanwadol: Sosialaeth Iwtopaidd, Marcsiaeth a Democratiaeth Gymdeithasol.

    darllen mwy >>
  • Elfennau Allweddol Sosialaeth

    Er y gwahaniaethau pwysig a geir rhwng gwahanol ffrydiau Sosialaidd, gellir nodi rhai elfennau neu themâu cyffredin sy’n tueddu i nodweddu’r byd-olwg Sosialaidd; elfennau sy’n caniatáu i ni wahaniaethu rhywfaint rhwng Sosialaeth ac ideolegau gwleidyddol eraill, yn arbennig Rhyddfrydiaeth neu Geidwadaeth.

    darllen mwy >>
  • Cymharu Dulliau Sosialwyr: Sut i Gyrchu’r Gymdeithas Well?

    Tra bo modd rhestru ystod o elfennau allweddol sy’n tueddu i nodweddu gwaith sosialaidd o bob math, gellir hefyd nodi ystod o wahaniaethau pwysig. Mae dau fater yn arbennig wedi esgor ar gryn wahaniaeth barn rhwng aelodau gwahanol ffrydiau sosialaidd. I ddechrau mae’r mater o ba fath o ddulliau y dylai sosialwyr eu defnyddio er mwyn cyrchu’r gymdeithas well.

    darllen mwy >>
  • Sosialaeth a Chyfalafiaeth: Dymchwel ynteu Ddiwygio?

    Yr ail fater pwysig sy’n destun anghydweld sylweddol rhwng gwahanol draddodiadau sosialaidd yw’r union amcanion y dylid eu cyrchu – hynny yw, pa fath o gymdeithas y dylai’r un sosialaidd fod. Yn ei hanfod, mae’r anghydweld sy’n codi yn y cyswllt hwn yn deillio o syniadau gwahanol ynglŷn â sut i ymdrin â chyfalafiaeth: a ddylid ei ddymchwel ynteu’i ddiwygio?.

    darllen mwy >>
  • Sosialaeth yng Ngwleidyddiaeth Cymru

    *“Yn eu calonnau, y mae’r bobloedd Geltaidd oll yn Gomiwnyddion.

    darllen mwy >>
  • Sosialaeth mewn Gwleidyddiaeth Fyd-eang

    Mae sosialaeth yn ei hamryw ffurfiau yn ideoleg gyfanfydol, yn yr ystyr ei bod yn gasgliad o werthoedd a syniadau y mae’r sawl sy’n eu harddel yn credu y gellid eu lledaenu ledled y byd – yn ddamcaniaethol o leiaf. Dyna oedd cred Robert Owen ynghylch ei gymunedau cydweithredol – cymunedau y credai allasai nodweddu pob cymdeithas pa ots ble yn y byd. Yn eu Maniffesto Comiwnyddol apeliodd Engels a Marx ar weithwyr y byd i uno yn eu brwydr yn erbyn y bourgeoisie.

    darllen mwy >>