-
Serch hynny, nid enw a fathwyd ar y pryd gan y meddylwyr eu hunain oedd hwn, ond yn hytrach enw a ddaeth yn boblogaidd ar sail beirniadaeth ddiweddarach Karl Marx a Friedrich Engels o waith ffigurau fel Owen, Fourier a Simon. Beirniadodd y ddau eu ruagflaenwyr sosialaidd fel ‘iwtopiaid’ diniwed – carfan a oedd yn dyheu am newid cymdeithasol, heb allu cynnig unrhyw amlinelliad credadwy o sut y gellid sicrhau’r newid hwnnw. Cyferbynnwyd hyn â’r dadansoddiad ‘gwyddonol’ manwl a ddatblygwyd ganddynt yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg o’r llwybr anochel tuag at chwyldro a chwymp cyfalafiaeth. Cyhoeddwyd, er enghraifft, yr ysgrif enwog ‘Y Maniffesto Comiwnyddol’ yn galw ar weithwyr y byd i uno, ond gweithiau aeddfed Marx – yn enwedig Das Kapital – a gyflwynodd y feirniadaeth fwyaf trylwyr o’r system gyfalafol. Er na lwyddodd syniadau Marx i ddenu dilynwyr eang o blith sosialwyr yn ystod ei oes ei hun, yn dilyn ei farwolaeth yn 1883 datblygodd Marcsiaeth i fod yn athroniaeth o’r pwys mwyaf. Yn Rwsia cafodd y syniadau eu harddel a’u datblygu gan Lenin, arweinydd y chwyldro comiwnyddol cyntaf yn 1917, ac yn dilyn hynny arweinydd cyntaf yr Undeb Sofietaidd. Eto i gyd, yn ystod yr un cyfnod datblygodd ffrydiau sosialaidd eraill, llai radical, fel Democratiaeth Gymdeithasol ar sail gwaith unigolion fel Eduard Bernstein, a oedd yn eu hanfod yn gwrthod natur chwyldroadol Marcsiaeth.
-
Robert Owen
-
Mae sosialaeth felly’n ideoleg sydd wedi cwmpasu ystod o ffrydiau gwahanol. Fodd bynnag mae modd adnabod rhai elfennau allweddol sydd wedi tueddu i nodweddu syniadau sosialaidd fel teulu o syniadau cyffelyb. O bwys mawr yn hanes y traddodiad mae cysyniadau fel Cymuned, Cydweithrediad, Cyfiawnder Cymdeithasol, Gwleidyddiaeth Dosbarth a Rheolaeth Gyffredin. Er hyn, mae rhai materion pwysig wedi esgor ar anghydweld rhwng aelodau gwahanol ffrydiau sosialaidd. I ddechrau ceir pwnc pa fath o ddulliau y dylai sosialwyr eu defnyddio er mwyn cyrchu’r gymdeithas well. Ar y naill law, mae’r sosialwyr hynny sydd wedi arddel dehongliadau Marx wedi pwysleisio'r angen am chwyldro ac wedi derbyn bod hyn yn golygu bod defnyddio trais yn anochel. Ar y llaw arall, mae sosialwyr mwy cymedrol sydd wedi arddel ffurfiau ar ddemocratiaeth gymdeithasol wedi pledio achos graddoliaeth a rhinweddau’r llwybr seneddol. Dyma safbwynt sydd yn cynnig bod sosialaeth yn y bôn yn ddatblygiad o hanfodion rhyddfrydiaeth, i’r lliaws, ac sydd yn gallu ymestyn hawliau, cydraddoldeb a safon byw ddymunol i’r mwyafrif trwy system ddemocrataidd gyflawn.
Mater arall sy’n esgor ar anghydweld yw’r math o amcanion y dylai sosialwyr eu cyrchu – mewn geiriau eraill pa fath o gymdeithas ddylai’r un sosialaidd fod, ac yn arbennig pa fath o drefniadau economaidd ddylai nodweddu’r gymdeithas honno. Yn y cyswllt hwn, mae Marcswyr wedi mynnu bod yn rhaid dymchwel cyfalafiaeth gan sefydlu cymdeithas gomiwnyddol amgen ble ceir rheolaeth gyffredin o’r moddion cynhyrchu – sef yr adnoddau, offer a pheiriannau sydd yn creu nwyddau. Fodd bynnag, tuedda’r democratiaid cymdeithasol i ddadlau bod modd ffrwyno cyfalafiaeth a sicrhau cydraddoldeb cymdeithasol trwy arddel economi cymysg a thrwy gynnal gwladwriaeth les hael sy’n ailddosbarthu cyfoeth.
Wrth gwrs mae sosialaeth wedi dylanwadu’n helaeth ar wleidyddiaeth yng Nghymru, yn arbennig dros y ganrif ddiwethaf. Mae’r dylanwad hwn i’w weld nid yn unig wrth ystyried dominyddiaeth etholiadol y Blaid Lafur, ond hefyd wrth ystyried hynt pleidiau a mudiadau eraill. O safbwynt gwleidyddiaeth fyd-eang gwelir mai Marcsaeth sydd wedi bod yn fwyaf dylanwadol: ar y naill law trwy gynnig sail i ddatblygiad grymoedd gwleidyddol mawr, yr Undeb Sofietaidd a China yn bennaf, ac ar y llaw arall trwy gynnig sail i ddatblygiad safbwynt dadansoddol beirniadol sy’n dehongli’r system ryngwladol fel mynegiant o gyfalafiaeth.
Cydnabyddir y Cymro, Robert Owen, fel un o’r sosialwyr cyntaf. Yn 1800 sefydlodd ef gymuned gydweithredol yn New Lanark, ger Glasgow, ac yn ystod y blynyddoedd canlynol cyhoeddodd nifer o ysgrifau a ystyrir heddiw yn ddogfennau allweddol o safbwynt gosod seiliau sosialaeth. Yn ystod yr un cyfnod, cafwyd cyfraniadau pwysig gan feddylwyr o Ffrainc fel Charles Fourier a Saint-Simon, ac at ei gilydd, ystyrir safbwyntiau’r garfan gynnar hon fel Sosialaeth Iwtopaidd.