“Yn eu calonnau, y mae’r bobloedd Geltaidd oll yn Gomiwnyddion... a chariad y Cymry at Sosialaeth ymysg eu rhinweddau mwyaf adnabyddus.”

    Mae’r dyfyniad hwn o 1907 gan Keir Hardie – arweinydd y Blaid Lafur ac Aelod Seneddol Merthyr – yn crybwyll y cysylltiad tybiedig rhwng Cymru a sosialaeth, a’r awgrym bod perthynas naturiol rhyngddynt. Ar un wedd, mae’r honiad yn gwbl anacronistaidd, yn yr ystyr bod y syniad o etifeddiaeth sosialaidd sy’n ymestyn yn ôl dros y canrifoedd yn groes i’r ffaith mai ideoleg fodern yw sosialaeth. Mae’n debygol bod y canfyddiad yn deillio i raddau o’r dehongliad o natur y gymdeithas Gymreig sy’n ymestyn yn ôl i’r Canol Oesoedd, ac a amlygwyd yn yr hen gyfraith gynhenid, Cyfraith Hywel (a enwyd ar ôl Hywel Dda (880-950OC) a oedd yn gyfrifol am unioni cyfreithiau ar draws y mwyafrif o diriogaeth Cymru). Yn wir, yn eu trafodaethau o’r Cymry, y mae Marx ac Engels yn trafod eu cyfraith gynhenid a’u traddodiadau.

  • Keir-Hardie.jpg
    Keir Hardie
  • Mae’r gyfraith honno’n nodedig am rai agweddau fyddai’n cael eu hystyried heddiw fel rhai sy’n adlewyrchu pwysigrwydd cydraddoldeb a dosbarthu eiddo’n deg. Er enghraifft, mae’n hysbys – yn groes i dueddiad y dydd – ei bod yn rhoi sylw penodol i gyfraith menywod ac achosion fel ysgariad. Ceir sôn yn ogystal am berchnogaeth adnoddau, fel melinau dŵr, ar y cyd. Thema arall nodweddiadol yw dosbarthu tir; ble byddai cyfraith pobloedd eraill fel y Normaniaid yn arfer primogeniture – sef bod y tiroedd oll yn cael eu hetifeddu gan y mab hynaf – roedd Cyfraith Hywel yn gofyn bod y mab ieuengaf yn rhannu’r tir yn dalpiau er mwyn i bob un o’r meibion dderbyn rhywfaint o’r etifeddiaeth. Yn ganolog i’r broses oedd y ffaith mai ef oedd yn cael y dewis olaf, er mwyn sicrhau rhaniad teg – oherwydd y byddai’r sawl oedd yn dewis olaf am sicrhau felly bod y talpiau oll yn weddol o debyg. Wrth gwrs, mae’r ffaith bod y tir yn cael ei rannu rhwng y meibion, ac nid y merched hefyd, yn codi cwestiynau sylfaenol ynghylch pa mor deg a ‘sosialaidd’ ei ffurf oedd y cymdeithasau Cymreig hyn. Rhaid gwarchod felly rhag hawlio’n ddifeddwl bod yna draddodiad ‘sosialaidd’ yng Nghymru cyn bod sosialaeth yn bod ond mae’n bwysig cydnabod bod y syniadau a’r straeon a chwedlau sydd wedi codi yn ei sgil wedi cael, ac yn parhau i gael, dylanwad cryf ar y modd y mae’r Cymry yn ystyried eu hunain fel pobl mwy ‘sosialaidd’ na’u cymdogion yn Lloegr yn arbennig.

    Ategwyd y canfyddiadau hyn gan realiti cymdeithasol Cymru yn yr oes fodern, yn benodol yn sgil y newidiadau hynod a ddilynodd ddatblygu’r chwyldro diwydiannol. Wrth i’r gweithfeydd a’r pyllau glo ddatblygu, mudodd cannoedd o filoedd o Gymry a phobl o fannau eraill i’r ardaloedd deheuol yn arbennig. Mae’n bosib honni felly y daeth Cymru yn fuan iawn yn wlad ‘dosbarth gweithiol’ oherwydd y canran cymharol uchel o bobl oedd yn byw yn y cymunedau diwydiannol hyn – nid yn unig yn y de ond hefyd yn y gogledd ddwyrain, tra bo datblygu’r diwydiant llechi yn y gogledd orllewin hefyd wedi esgor ar dwf cymunedau dosbarth gweithiol yn yr ardaloedd hynny hefyd. Yn yr ardaloedd diwydiannol hyn, yn enwedig erbyn troad yr ugeinfed ganrif, roedd syniadau ac arferion sosialaeth – yn enwedig yr undebau a sefydliadau cydweithredol – yn bwrw gwreiddiau gwydn a fyddai’n nodweddu’r cymdeithasau hynny am yn agos i ganrif.

  • Robert-Owen.jpg
    Robert Owen
  • Robert Owen

    Trafodwyd eisoes gyfraniad anhepgor Robert Owen i’r traddodiad sosialaidd rhyngwladol, a phwysigrwydd rhai o’i egwyddorion gwaelodol a osododd y seiliau ar gyfer ei ddatblygiad. Ceir awgrym bod gweledigaeth Owen am gymunedau cydweithredol cymharol fychan (wedi’i enghreifftio gan New Lanark, sydd bellach yn safle treftadaeth UNESCO) wedi’i ysbrydoli gan brofiadau ei blentyndod yn y Drenewydd – yn arbennig felly'r pwyslais a roddai ar y berthynas rhwng dyn a natur a’r angen i barchu’r amgylchedd. Mae’n bosib hefyd dehongli ei syniadau optimistaidd, ‘iwtopaidd’ fel y galwyd hwy gan Marx, fel cynnyrch y traddodiad crefyddol Methodistaidd a oedd wedi cydio yng Nghymru ei blentyndod. Roedd ‘milenariaeth’ yn ddylanwad trwm ar y mudiad hwn, sef y syniad bod y gymdeithas ddynol yn paratoi am ailddyfodiad Iesu a gwireddu, i bob pwrpas, nefoedd ar y ddaear. Ystyrir fod optimistiaeth y sosialwyr cynnar, ac athronwyr fel Hegel a Marx, ynghylch datblygu’r gymdeithas tuag at berffeithrwydd yn ddehongliad seciwlar o’r milenariaeth hwnnw, ac yn sicr ni cheir yr un meddyliwr sosialaidd oedd yn fwy crediniol ym mhosibiliad perffeithrwydd na Robert Owen.

    Fodd bynnag, nid oes modd honni bod sosialaeth wedi cydio’n gynnar yng Nghymru ar sail gweithgarwch Owen, a oedd wedi gadael Cymru ac yntau’n fachgen ifanc (er yn ddoeth a hynod yn ddeng mlwydd oed). Datblygodd nifer o’i syniadau aeddfetach yn ystod ei gyfnod fel oedolyn ifanc ym Manceinion. Yn wir, yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, er twf sydyn y cymunedau diwydiannol, cafwyd gwrthwynebiad i syniadau Owen yn ei famwlad oherwydd eu bod yn gwrthod crefydd sefydliadol, ac yn wir mae hynny’n adlewyrchu anfodlonrwydd ehangach i gofleidio ideoleg a oedd yn ei hanfod yn ddehongliad seciwlar o’r Bregeth ar y Mynydd. Dim ond gyda thwf y cymunedau hyn, datblygiad undebaeth, ehangu’r etholfraint a hefyd mewnlifiad pobl a syniadau o ardaloedd dinesig Lloegr a thu hwnt, y dechreuodd sosialaeth gydio yng Nghymru fesul tipyn wrth i’r ganrif ddirwyn i ben. Yn y cyfnod hwnnw fe drodd rhai o’r Cymry at eu cydwladwyr am ysbrydoliaeth.

  • Y Blaid Lafur a ffrydiau Sosialaidd yng Nghymru

    Un o’r ffigurau mwyaf lliwgar a deniadol ymysg sosialwyr Cymru erbyn troad yr ugeinfed ganrif oedd R.J. Derfel, bardd a phregethwr a fu’n byw ym Manceinion ran helaeth o’i oes, a drodd at sosialaeth gan gymryd Owen fel ei brif ysbrydoliaeth. Rhedai siop lyfrau Cymraeg yno, a gwasg gysylltiedig, gan gyhoeddi’n helaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg. Roedd hefyd yn un o’r sawl a sicrhaodd ddylanwad cynnar y Gymdeithas Fabian yng Nghymru. Un o’r agweddau a nodweddai ei ymdrechion oedd yr ymdrech i gysoni ei ffydd a’i sosialaeth – ymgais a oedd yn gynyddol haws mewn oes ble roedd sosialwyr Cristnogol yn dwyn ysbrydoliaeth gan ffigurau fel John Ruskin a William Morris.

    Byddai Derfel ei hun yn ysbrydoliaeth maes o law i sosialwyr yr ugeinfed ganrif fel T.E. Nicholas – ‘Niclas y Glais’ – un o nifer o Gymry Cymraeg a oedd yn weithgar yn y Blaid Lafur gyda Keir Hardie. Ymysg ei gyfoedion roedd David Thomas, addysgwr ac awdur a fu’n ganolog i’r ymdrech i sefydlu’r Blaid Lafur yng ngogledd Cymru. At ei gilydd, mae’r ffigurau hyn yn cynrychioli ffrwd o Sosialaeth Gymreig oedd wedi’i dylanwadu’n rhannol gan agweddau ‘cynhenid’ fel Anghydffurfiaeth, ac a oedd yn weithgar wrth geisio sefydlu Plaid Lafur Gymreig a fyddai’n rhoi pwyslais ar ddiwylliant a’r Gymraeg, ac a oedd hefyd yn gefnogol o ymreolaeth, os nad annibyniaeth i Gymru. Yn ffigur Keir Hardie, yr Albanwr a’r Methodist, roedd ganddynt enaid hoff cytûn, ond wedi’i farwolaeth a chyfnod cythryblus y Rhyfel Byd Cyntaf, pylodd gweithgaredd yr asgell hon o’r blaid wrth iddi gael ei dylanwadu fwyfwy gan y sawl oedd yn dymuno gweld unoliaeth â’r Blaid Lafur ledled Prydain.

    Rhaid cofio bod sosialaeth wedi bwrw gwreiddiau yn ne Cymru a’r gogledd-ddwyrain yn rhannol trwy gysylltiadau â Lloegr a diwydiant a’r rheilffyrdd, ac, yn hynny o beth, ddylanwad cynyddol yr iaith Saesneg. Roedd sefydliadau fel y Coleg Llafur Canolog yn ddylanwadol iawn o safbwynt datblygu ymwybyddiaeth ac ideoleg sosialaidd oedd yn arddel unoliaeth yr achos sosialaidd Prydeinig ac yn wrthwynebus i’r syniad o wahaniaeth ymysg y dosbarth gweithiol. Ategwyd hyn yn arbennig gan y ‘FED’, Ffederasiwn Glowyr De Cymru, a bwysleisiai gydsafiad rhyngwladol wedi’i wreiddio mewn hunaniaeth dosbarth, ar draul mynegiant o ymwybyddiaeth o genedl. Wedi’r chwyldro yn Rwsia ar ddiwedd y Rhyfel Byd cyntaf, ymlediad syniadau Marcsaidd, a dylanwad cynyddol y Blaid Gomiwnyddol yng Nghymru, cryfhau a wnaeth yr agweddau cydwladol yma’n arbennig. Ar y cyfan, nid oedd lle o fewn y byd-olwg hwn i anghenion neu anghyfiawnderau a oedd yn benodol i’r Cymry – er y Comiwnyddion, yn fwy na neb, oedd yn fodlon ystyried pwysigrwydd yr hunaniaeth Gymreig fel rhan o’r frwydr yn erbyn cyfalafiaeth. Roedd hyn, wrth gwrs, yn cyd-fynd â’r tueddiad ymhlith mudiadau Rhyddhad ledled y byd i asio’r cenedlaetholgar a’r Comiwnyddol, ac roedd unigolion megis Niclas y Glais yn gyfforddus iawn yn dilyn y patrwm yn achos Cymru.

    Ffrwd arall o’r syniadaeth a gafodd ddylanwad byrhoedlog yng Nghymru oedd syndicaliaeth, a hynny o dan ddylanwad ffigurau fel Noah Ablett, prif awdur y pamffled ‘The Miners Next Step’ a gyhoeddwyd yn 1912. Yn ei hanfod, roedd syndicaliaeth yn draddodiad oedd yn wrthwynebus i dueddiadau sosialaidd mwy confensiynol a dueddai at y syniad o ganoli grym yn y wladwriaeth. Yn hytrach na phleidiau, ystyrid mai’r undebau oedd y sefydliadau pwysicaf, gan arddel perchnogaeth leol yn hytrach na chael diwydiannau yn nwylo’r wladwriaeth, a chyfundrefn ffederal wedi’i threfnu yn ôl unedau economaidd y gymdeithas yn hytrach na gwladwriaeth ganolog, rymus. Yn hynny o beth ceir rhai cysondebau gyda gweledigaeth wreiddiol Robert Owen am gyfres o gymunedau cydweithredol, ond yn y pen draw, daeth y mudiad sosialaidd yng Nghymru, fel ym Mhrydain, i ddibynnu ar y Blaid Lafur fel y sefydliad i yrru’r achos yn ei flaen.

  • Aneurin-Bevan.jpg
    Aneurin Bevan
  • Aneurin Bevan

    I nifer, ymgorfforir y Blaid Lafur yng Nghymru gan ffigur totemig Aneurin Bevan. Daeth yn Aelod Seneddol yn 1929, ac erbyn hynny roedd y blaid wedi ennill yr oruchafiaeth etholaethol sydd wedi parhau hyd heddiw. Yn etholiad cyffredinol 1922 enillodd dros hanner y seddi ac ers hynny mae wedi dominyddu gwleidyddiaeth bleidiol, gan ennill dros 50% o’r blediais boblogaidd ar sawl achlysur. Mae Bevan yn fwyaf adnabyddus am ei rôl fel y Gweinidog a sefydlodd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yn ystod llywodraeth Lafur Clement Attlee, a gipiodd rym yn 1945 wedi’r Ail Ryfel Byd, ac a sefydlodd y Wladwriaeth Les fodern oedd yn ceisio sicrhau addysg, gofal iechyd a system fudd-daliadau a fyddai’n darparu cymdeithas lawer fwy cydradd.

    Bu’n ffigur dadleuol a oedd yn hollti’r farn gyhoeddus, a nodweddwyd ei yrfa gan y duedd i droedio’r ffin rhwng bod yn idealydd a oedd yn gweithredu ar sail egwyddor a gwleidydd pragmataidd oedd yn benderfynol o gael y maen i’r wal. O ganlyniad, profodd gyfnodau ar ymylon y blaid, a chyfnodau eraill ble byddai’n cymryd y llwybr pragmataidd, ac roedd yn parhau’n ffigur dylanwadol a blaenllaw tan ei farwolaeth yn 1960. Yn wir, adnabuwyd un adain o’r Blaid erbyn hynny – carfan a oedd yn glynu at syniadau mwy radical asgell chwith – fel y ‘Bevanites’, yn wyneb arweinyddiaeth fwy cymedrol Hugh Gaitskell o’r blaid.

    Nodweddai syniadau Bevan nifer o’r gwerthoedd ac egwyddorion a drafodwyd eisoes, gan bontio'r traddodiad mwy chwyldroadol Marcsaidd a’r traddodiad o Ddemocratiaeth Sosialaidd. Yn sicr, yn ei bwyslais ar rym, ei ddealltwriaeth o ddylanwad hollbwysig strwythurau economaidd cymdeithas, a’i gred yn yr egwyddor o genedlaetholi'r diwydiannau mawrion, roedd dylanwad Marx, a’i addysg yn y Coleg Llafur Canolog, yn amlwg. Yn ystod y 1930au pan oedd traddodiad mwy cymedrol y Blaid Lafur dan y lach, oherwydd ei methiannau ac argyfwng y dirwasgiad mawr, roedd Bevan yn un o’r sawl oedd yn fwy agored i’r dylanwadau mwy radical. Ar y llaw arall, roedd yn driw i egwyddorion democratiaeth, pwysigrwydd rhyddid a’r cyfrifoldeb unigol y mae’n ei ganiatáu, ac roedd y gwerthoedd hyn yn cael eu hamlygu yn ei feirniadaeth o dueddiadau totalitaraidd yr Undeb Sofietaidd.

    Amlygai safbwyntiau Bevan ar Gymru rai tensiynau yn ei agweddau gwleidyddol a phersonol. Ac yntau’n fab i Gymro Cymraeg a bardd, roedd yn gwerthfawrogi pwysigrwydd yr iaith a’r diwylliant Cymreig, yn enwedig yn wyneb yr hyn a ystyriai fel llwydni'r diwylliant cyfalafol, Americanaidd. Ar y llaw arall, roedd yn feirniad hallt o genedlaetholdeb Cymreig, gan ystyried problemau'r dosbarth gweithiol yng Nghymru fel rhai oedd yn addas ar gyfer ymateb a pholisi ar lefel Brydeinig yn unig. Yn hynny o beth roedd yn euog ar brydiau o borthi safbwyntiau llai na charedig yn erbyn cenedlaetholwyr Cymreig. Ac eto, cydnabyddir gan fwy nag un o’i gyfoedion ei fod yn ddylanwadol yn y pen draw o safbwynt sicrhau sefydlu’r Swyddfa Gymreig, a agorwyd yn 1964, ac a fu’n bwysig o safbwynt y daith hir tuag at ddatganoli a sefydlu’r Senedd.

  • Raymond Williams a Sosialaeth Plaid Cymru

    Yn wahanol i Aneurin Bevan, roedd un o ffigurau arall mwyaf nodedig y traddodiad sosialaidd yng Nghymru yn academydd – un a oedd yn hanu o’r Pandy, pentref bach yn Sir Fynwy ar y ffin â Lloegr. Astudiodd Raymond Williams yng Nghaergrawnt a dychwelodd yno fel ysgolhaig, a daeth yn adnabyddus yn rhyngwladol am ei waith ym maes astudiaethau diwylliannol ac am ei gyswllt â mudiad y New Left. Yn y bôn, dyma grŵp o feddylwyr a geisiodd addasu syniadau’r traddodiad Marcsaidd trwy leihau’r pwyslais ar y sylfaen economaidd, gan ddadansoddi yn hytrach y modd y mae agweddau ar ddiwylliant yn gweithredu a chynnal y system gyfalafol. Dylanwadwyd Williams a’i debyg gan athronwyr fel Gramsci, a dynnodd sylw at y modd y mae’r uwchstrwythur (agweddau hytrach i’r economi fel gwleidyddiaeth a’r gyfraith) yn dylanwadu’n drwm ar y modd y mae pobl yn deall ac yn dod i dderbyn syniadau a gwerthoedd y system honno. Drwy ei bwyslais ar ddylanwad diwylliant poblogaidd a’r ffocws ar y cyfryngau torfol, newidiodd Williams yr hyn a ddeallwyd gan astudiaethau diwylliannol ar ffurfiau mwy traddodiadol fel llenyddiaeth.

    Goblygiadau ymarferol syniadau’r o’r fath oedd ehangu’r frwydr yn erbyn y drefn y tu hwnt i ‘lawr y ffatri’ gan bwysleisio pwysigrwydd ymwrthod â strwythurau gormesol y wladwriaeth gyfalafol ar seiliau eraill. Yn benodol, roedd y New Left yn dueddol o bwysleisio pwysigrwydd brwydrau ar sail hunaniaeth, gan fawrygu ffeministiaeth a’r frwydr am gydraddoldeb i ferched, a gweithgarwch lleiafrifoedd a phobl o liw wrth geisio sicrhau cydnabyddiaeth a hawliau. Yn dilyn o’r safbwynt cychwynnol hwn, roedd gan Raymond Williams safbwyntiau diddorol am sefyllfa Cymru, ac ystyriai gweithredu Cymdeithas yr Iaith yn rhan o’r gwrthwynebiad ehangach i’r drefn. Yn wir, am gyfnod bu’n aelod o Blaid Cymru. Yn groes i draddodiad prif ffrwd y Blaid Lafur, ystyriai’r wladwriaeth Brydeinig yn rhan o’r broblem i sosialwyr, oherwydd bod y wladwriaeth honno, yn ei farn ef, wedi’i hieuo at gyfalafiaeth. Ymhellach, yn ei ysgrifau, awgryma Williams yn ogystal fod y diwylliant dosbarth gweithiol a’r diwylliant sydd ynghlwm â’r iaith Gymraeg ill dau yn ffurfiau ar fyw sy’n herio’r drefn, a bod natur y gymdeithas Gymreig felly yn wrthnysig i gyfalafiaeth mewn modd nad sy’n wir am agweddau ar y gymdeithas Seisnig – sy’n tueddu mwy at agwedd o wasanaethu’r drefn gyfalafol.

    Bu gwaith Williams yn ddylanwadol ymysg rhai cenedlaetholwyr yng Nghymru, yn arbennig unigolion fel Dafydd Elis Thomas, a fu’n gyfrifol am geisio gosod Plaid Cymru ar lwybr sosialaidd yn y 1970au a’r 1980au. Roedd ffigurau eraill fel Robert Griffiths a Gareth Miles, a fyddai’n sefydlu’r Mudiad Sosialaidd Gweriniaethol Cymreig yn ystod y 1980au, hefyd yn gyfrifol am boblogeiddio syniadau uniongred Marcsaidd ymysg cenedlaetholwyr. Hanfod y dadleuon hyn oedd na fyddai modd i Gymru ffynnu fel gwlad a gwarchod buddiannau ei phobl oni bai ei bod yn datblygu’n wladwriaeth annibynnol, drwyadl sosialaidd. Er na lwyddasant i newid y blaid i fod yn llwyr radical, mae’n wir fod Plaid Cymru ers y 1980au wedi symud i ddisgrifio’i lleoliad ei hun fel plaid sosialaidd ac wedi’i lleoli’i hun yn glir ar adain chwith y sbectrwm gwleidyddol, yn rhannol mewn ymgais i herio dominyddiaeth y Blaid Lafur yn ardaloedd diwydiannol y de.

  • Sosialaeth ers Datganoli

    O safbwynt pleidiol, mae’r Senedd yng Nghymru wedi bod yn gorff llywodraethol lled-sosialaidd ers y cychwyn, a hynny ar sail y ffaith bod y Blaid Lafur wedi ennill oddeutu hanner y bleidlais ymhob etholiad, a Phlaid Cymru’n dychwelyd oddeutu 10 neu fwy o aelodau. Ond er bod dau draean o’r aelodau felly’n cynrychioli pleidiau sosialaidd democrataidd mewn enw, mae’n ansicr i ba raddau y gellir ystyried polisïau yng Nghymru dros y cyfnod hwnnw yn rhai traddodiadol asgell chwith – a hynny er bod y Blaid Lafur wedi llywodraethu mewn clymblaid gyda Phlaid Cymru rhwng 2007 a 2011, a rhoi cefnogaeth achlysurol ers hynny.

    Yn ystod cyfnod Rhodri Morgan yn Brif Weinidog, does dim amheuaeth fod y Blaid Lafur wedi defnyddio rhethreg ac ambell bolisi er mwyn lleoli Llafur yng Nghymru i’r chwith o New Labour Tony Blair a Gordon Brown yn San Steffan, gan fathu’r dywediad bod yna ‘ddŵr coch croyw’ rhwng Cymru a Lloegr, neu’r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd. Ymgais oedd hyn i fynegi’r syniad bod y traddodiad Cymreig yn meddu ar werthoedd ychydig yn fwy sosialaidd, a bod angen i bolisïau adlewyrchu hynny, fel y penderfyniad i sicrhau presgripsiwn am ddim i gleifion y Gwasanaeth Iechyd. Cafwyd ymdrech hefyd i ymwrthod â thuedd New Labour i geisio diwygio rhannau o’r sector cyhoeddus, fel addysg a iechyd, trwy ddefnyddio cwmnïau preifat i gynnig rhai gwasanaethau, neu hybu cystadleuaeth rhwng darparwyr.

    Fodd bynnag, anodd iawn fyddai dadlau bod rhai o’r polisïau hyn wedi mynd â Chymru ar drywydd gwahanol iawn, tra bo Llafur Cymru dan Carwyn Jones wedi amlygu’r gwahaniaethau honedig hyn lawer yn llai. Mae hyn yn ganlyniad i raddau i’r ffaith fod y Ceidwadwyr wedi bod mewn grym yn San Steffan, a bod y pwyslais wedi bod felly ar amddiffyn gwasanaethau craidd yng Nghymru, ond amlygir tueddiadau llai trwyadl sosialaidd Llafur gan arweinyddiaeth Leanne Wood dros Blaid Cymru, a dyfodiad diweddar Jeremy Corbyn fel arweinydd y Blaid Lafur yn San Steffan. Y mae safbwyntiau a maniffestos Plaid Cymru yn ddiweddar wedi tueddu i fod yn fwy sosialaidd eu naws, tra bo Carwyn Jones wedi ei leoli’i hun a Llafur Cymru mewn gwrthwynebiad i safbwyntiau mwy traddodiadol sosialaidd Corbyn. Erbyn hyn, ymddengys bod y dŵr coch croyw’n llifo i’r cyfeiriad arall, yn achos y Blaid Lafur o leiaf.