Er y gwahaniaethau pwysig a geir rhwng gwahanol ffrydiau Sosialaidd, gellir nodi rhai elfennau neu themâu cyffredin sy’n tueddu i nodweddu’r byd-olwg Sosialaidd; elfennau sy’n caniatáu i ni wahaniaethu rhywfaint rhwng Sosialaeth ac ideolegau gwleidyddol eraill, yn arbennig Rhyddfrydiaeth neu Geidwadaeth.

  • Cymuned

    Elfen greiddiol i sosialwyr o bob math yw’r dybiaeth fod bodau dynol yn greaduriaid cymdeithasol. Golyga hyn eu bod yn credu bod gennym y gallu i gydweithio’n effeithiol gydag eraill, a hynny er mwyn cyrchu amcanion cyffredin. Nid creaduriaid a fydd yn blaenoriaethu ein buddiannau personol ar bob cyfrif mohonom, yn nhyb sosialwyr. Deillia hyn o’r ffaith nad yw’r un ohonom yn byw ein bywydau mewn gwagle ac yn gwbl hunangynhaliol. Yn hytrach, rydym oll wedi ein gwreiddio o fewn unedau mwy – hynny yw, yn aelodau o gymunedau – ac yn aml iawn rydym yn gwbl ddibynnol ar y cysylltiadau a’r gefnogaeth sy’n deillio o hyn.

    Ymhellach, mae arwyddocâd y cyd-destun cymunedol i’w weld yn y ffaith bod sosialwyr, yn wahanol i nifer o ryddfrydwyr neu geidwadwyr, yn ymwrthod â’r awgrym bod pobl yn meddu ar natur gynhenid na ellir mo’i newid – hynny yw, ein bod oll, o ran natur, naill ai’n greaduriaid da neu ddrwg. Yn hytrach, yn nhyb sosialwyr, mae’r natur ddynol yn rhywbeth hyblyg a fydd yn cael ei siapio ar sail yr amgylchiadau a’r profiadau y bydd pobl yn eu hwynebu yn ystod eu bywydau. O ganlyniad, nid yw ein cymeriad a’n galluoedd yn bethau sydd wedi’u ragosod cyn i ni gael ein geni. Maent, yn hytrach, yn bethau y byddwn yn eu meithrin a’u dysgu o fewn cyd-destun cymdeithasol penodol.

  • Cydweithrediad

    Gan eu bod yn dehongli bodau dynol fel creaduriaid cymdeithasol, mae sosialwyr wedi tueddu hefyd i bwysleisio rhinweddau cydweithio. Iddyn nhw, mae hwyluso cydweithio rhwng unigolion yn llawer mwy llesol na chystadlu. Bydd creu cystadleuaeth yn annog unigolion i herio’i gilydd ac yn sgil hynny yn cymell ymddygiad hunanol ac ymosodol ac yn tanseilio ein rhinweddau cymdeithasol. Fodd bynnag, trwy annog aelodau cymdeithas i gydweithio â’i gilydd gellir eu hannog i ddatblygu’r gallu i gydymdeimlo, ymddiried a gofalu am ei gilydd. Ymhellach, bydd cydweithio’n caniatáu i alluoedd ac egni’r gymuned gyfan gael ei sianelu i’r un cyfeiriad, yn hytrach na bod unigolion gwahanol oll yn mynd ar draws ei gilydd.

  • Cydraddoldeb cymdeithasol

    Yr ymrwymiad cryf i gydraddoldeb yw un o brif nodweddion sosialaeth – iddyn nhw, dyma’r egwyddor wleidyddol bwysicaf, heb os. Ymhellach, y duedd ymhlith sosialwyr yw arddel y syniad o gydraddoldeb cymdeithasol neu gydraddoldeb canlyniad, yn hytrach na’r syniad mwy cyfyngedig o gyfle cyfartal a gaiff ei arddel gan ryddfrydwyr. Yn nhyb sosialwyr mae’r ffurf fwy pellgyrhaeddol hon ar gydraddoldeb yn hanfodol os am sicrhau cyfiawnder. Yn wahanol i ryddfrydwyr, nid yw sosialwyr yn barod i dderbyn bod modd cyfiawnhau anghydraddoldeb o ran cyfoeth o fewn cymdeithas ar sail y ffaith bod unigolion oll yn wahanol, ac yn meddu ar alluoedd a hefyd diddordebau gwahanol. Nid yw sosialwyr yn gwadu bodolaeth gwahaniaethau pwysig ymhlith aelodau cymdeithas ac nid ydynt yn mynnu y dylid trefnu fod pawb yn meddu ar union yr un talentau a sgiliau. Er enghraifft, ni fyddai’r gymdeithas sosialaidd yn un ble byddai angen sicrhau bod pob myfyriwr yn ennill yr un graddau yn eu harholiadau lefel A. Fodd bynnag, cred sosialwyr bod yr achosion mwyaf amlwg ac eithafol o anghydraddoldeb (e.e. gwahaniaethau sylweddol o ran incwm, lefelau iechyd a safon byw) yn deillio o driniaeth gymdeithasol anffafriol, ac ni ellir eu diystyru trwy gyfeirio at rai o’r gwahaniaethau o ran sgiliau a geir rhwng unigolion.

    Yn ogystal, mae sosialwyr yn rhoi pwyslais mawr ar bwysigrwydd cydraddoldeb, gan ei fod, yn eu tyb hwy, yn angenrheidiol er mwyn cynnal cymunedau sefydlog, ble mae cydweithio effeithiol yn digwydd rhwng yr aelodau. Os yw pobl yn byw gyda’i gilydd mewn cymdeithas gyfartal, yna byddant yn fwy tebygol o uniaethu â’i gilydd a gweithio ar y cyd er mwyn hybu lles pawb. O ganlyniad, yn nhyb sosialwyr, mae cydraddoldeb yn meithrin ymdeimlad o gydsafiad (solidarity) cymdeithasol.

  • Gwleidyddiaeth dosbarth

    Mae sosialwyr wedi tueddu i drin dosbarth cymdeithasol fel y rhaniad gwleidyddol mwyaf arwyddocaol a geir o fewn cymdeithas. Mae dosbarth yn thema sy’n dod i’r amlwg mewn gwaith sosialaidd mewn dwy ffordd wahanol. I ddechrau, caiff dosbarth ei drin fel cysyniad dadansoddol. Y duedd ymhlith sosialwyr fu i ddehongli cymdeithas fel casgliad o ddosbarthiadau gwahanol gyda phob dosbarth yn dwyn ynghyd pobl sy’n rhannu’r un statws economaidd. Bydd aelodau pob dosbarth wedyn yn tueddu i uniaethu â’i gilydd ac i rannu’r un math o fyd-olwg. O ganlyniad, yn nhyb sosialwyr, dosbarthiadau, yn hytrach nag unigolion, yw’r actorion allweddol o fewn cymdeithas, a deall hynt y dosbarthiadau hyn yw’r allwedd er mwyn deall unrhyw newid cymdeithasol neu wleidyddol. Mae’r gred hon i’w gweld yn fwyaf amlwg yn namcaniaethau hanesyddol Karl Marx, ble honnir fod esblygiad hanes yn ganlyniad i gyfres o wrthdrawiadau rhwng gwahanol ddosbarthiadau cymdeithasol. Yn ail, mae sosialaeth yn aml yn cael ei drin fel ideoleg sy’n cynnig amddiffyniad o fuddiannau un dosbarth cymdeithasol yn benodol, sef y dosbarth gweithiol. Dyma’r dosbarth sy’n dioddef ecsploetio a gorthrwm parhaol yn sgil natur y gyfundrefn gyfalafol fodern, ond, ar yr un pryd, dyma’r dosbarth sydd â’r potensial i arwain y ffordd tuag at y gymdeithas sosialaidd well.

    Er y pwyslais cyson ar wleidyddiaeth dosbarth, mae’n bwysig nodi nad yw sosialwyr yn tybio bod dosbarth yn nodwedd gymdeithasol barhaol a digyfnewid. Wedi’r cyfan, i nifer o sosialwyr, yn enwedig y sawl sydd wedi arddel ffurfiau ar Farcsiaeth, y gobaith, yn y pen draw, yw y bydd modd cyrraedd cyfnod ble bydd anghydraddoldeb economaidd yn diflannu a ffiniau dosbarth yn peidio â bod.

  • KarlMarcx.jpg
    Karl Marcx
  • Rheolaeth gyffredin

    I lawer o sosialwyr, gwraidd yr anghydraddoldeb a’r cystadlu niweidiol a geir o fewn cymdeithas yw’r berchnogaeth ar eiddo preifat. Yn y cyswllt hwn, yr hyn sydd dan sylw gan sosialwyr yw’r eiddo hwnnw y gellir ei drin fel ‘cyfalaf’ neu ‘asedau’ ac y gellir ei ddefnyddio er mwyn cynhyrchu mwy o gyfoeth. Dylid nodi nad yw’r feirniadaeth sosialaidd ar eiddo preifat yn ymestyn i ymwrthod â’r syniad bod unigolion yn gallu bod yn berchen ar eitemau personol, fel cartref, dillad, eitemau hamdden neu deganau.

    Mae’r niwed cymdeithasol sy’n deillio o fodolaeth eiddo preifat yn cwmpasu sawl agwedd. I ddechrau, mynnir bod perchnogaeth breifat ar eiddo yn creu anghyfiawnder: gan fod cynhyrchu cyfoeth wastad yn dibynnu ar ymdrech gydweithredol gan ystod eang o bobl, dylai’r cyfoeth hwnnw fod yn eiddo i’r gymuned gyfan yn hytrach na rhai unigolion dethol. Yn ail, honnir bod eiddo preifat yn niweidio ein hymdeimlad o foesoldeb trwy gymell pobl i feddwl mewn termau materol ac i dybio bod hapusrwydd yn ddibynnol ar gywain cymaint o gyfoeth â phosib. Yn drydydd, dadleuir bod eiddo preifat yn arwain at rannu cymdeithas ac yn cymell gwrthdaro, er enghraifft rhwng y gweithwyr a’r cyflogwyr neu rhwng y cyfoethog a’r tlawd.

    O ganlyniad, mae sosialwyr wedi dadlau y dylid diddymu’r syniad o eiddo preifat trwy sefydlu rheolaeth gyffredin o unrhyw gyfalaf y gellir ei ddefnyddio er mwyn cynhyrchu cyfoeth. I rai, er enghraifft Marcswyr chwyldroadol, dylid ymdrechu i ddiddymu cyfalaf preifat yn gyfan gwbl fel rhan o’r broses o sefydlu comiwnyddiaeth. Mae democratiaid cymdeithasol hefyd wedi dadlau o blaid y syniad o sefydlu rheolaeth gyffredin. Fodd bynnag, tueddwyd i ffafrio gwneud hynny mewn ystod gyfyngedig o feysydd yn unig, er enghraifft yn achos rhai diwydiannau allweddol fel glo, dur, trydan a nwy – yr hyn a ddisgrifiwyd fel ‘uchelfannau’ yr economi.