Unigolyddiaeth

    Mae unigolyddiaeth yn egwyddor ryddfrydol cwbl ganolog. Golyga bod rhyddfrydwyr yn credu y dylid rhoi lles pobl unigol o flaen rhai cymdeithas, neu unrhyw grŵp torfol arall. Credant fod pobl yn unigolion gwahanol yn y lle cyntaf, a bod y ffaith hon yn bwysig. I ddechrau, mae pob person unigol yn unigryw gyda chymeriad, chwaeth a hunaniaeth ei hun. Hefyd, credant fod pob person yn gyfartal o ran statws moesol, gan fod pawb, yn y lle cyntaf, yn unigolyn.

    Yn dilyn hyn, mae rhyddfrydwyr am greu cymdeithas a fydd yn caniatáu i bobl lwyddo a datblygu, gan fyw eu bywydau fel y dymunant. Golyga hyn fod rhyddfrydwr yn amheus o unrhyw safbwynt gwleidyddol sy’n ceisio rheoli gormod o fywyd yr unigolyn, a pheidio gadael iddo ddilyn ei gwrs ei hun mewn bywyd.

    Fodd bynnag, tra bod unigolyddiaeth wedi bod yn egwyddor bwysig iawn mewn gwaith rhyddfrydol o bob math dros y canrifoedd, nid yw rhyddfrydwyr wedi cytuno bob tro sut i’w ddiffinio. Eglurodd y rhyddfrydwr Americanaidd, John Dewey (1931), o fewn rhyddfrydiaeth mae rhai yn credu mewn 'unigolyddiaeth haniaethol' ac eraill yn credu mewn 'unigolyddiaeth gymdeithasol'.

    • • Unigolyddiaeth haniaethol: Dyma'r unigolyddiaeth sydd agosaf i'r ffrwd glasurol o ryddfrydiaeth. Meddylir am yr unigolyn fel creadur cwbl annibynnol sy'n 'berchen' ar ei gorff ac ar ei alluoedd personol. O ganlyniad, yr unigolyn yn unig sy’n cael y clod am unrhyw lwyddiant yn ystod ei fywyd, ac ni fydd arno unrhyw ddyled neu ddiolch i'r gymdeithas ehangach. Disgrifir y safbwynt hwn weithiau fel un atomyddol (atomist), gan ei fod yn edrych ar unigolion fel casgliad o atomau ynysig sydd heb unrhyw gysylltiad â’i gilydd.
    • • Unigolyddiaeth gymdeithasol: Yn wahanol i’r uchod, mae Rhyddfrydwyr Modern yn cysylltu unigolyddiaeth gydag unedau ehangach, megis y teulu, y gymdeithas a hyd yn oed y genedl. Er enghraifft, dywedodd T.H. Green bod cymdeithas a’r cyfeillgarwch a’r gyd-ddibyniaeth sy'n rhan ohono, yn bwysig er mwyn i unigolion gael y cyfle i ddarganfod eu gwir gymeriad a chyrraedd eu potensial.

    Mae rhyddfrydwyr wedi edrych ar unigolyddiaeth mewn ffyrdd gwahanol iawn dros y blynyddoedd. Eto i gyd, er gwaetha’r gwahaniaethau hyn, mae pob rhyddfrydwr yn cytuno ar y pwynt cyffredinol, sef dylid rhoi blaenoriaeth i les yr unigolyn. Mewn geiriau eraill, yr unigolyn yw'r man cychwyn ar gyfer pob rhyddfrydwr – yr uned bwysicaf.

  • Rhyddid

    Ochr yn ochr ag unigolyddiaeth, mae Rhyddfrydiaeth (fel yr awgryma'r enw) yn ystyried rhyddid fel egwyddor allweddol. Mae’r pwyslais hwn ar ryddid yn ganlyniad naturiol i’r gred y dylai cymdeithas gael ei threfnu er mwyn caniatáu i’r unigolyn fyw ei fywyd fel y mae ef neu hi’n dymuno. Er mwyn medru gwneud hynny, rhaid i'r unigolyn gael rhyddid.

    Eto i gyd, mae rhyddfrydwyr yn gweld nad yw’n ymarferol i unigolion gael rhyddid absoliwt. Byddai rhyddid absoliwt yn medru creu sefyllfa lle gallai rhai unigolion ddefnyddio eu rhyddid i niweidio eraill. O ganlyniad, er bod rhyddid yn egwyddor sylfaenol i ryddfrydwyr, maent yn barod i gyfyngu ar y rhyddid hwnnw er mwyn i bawb fedru byw gyda’i gilydd. Credant y dylai pawb gael gymaint o ryddid ag sy’n bosib heb effeithio ar ryddid pobl eraill. Yng ngeiriau John Rawls (1971): ‘that everyone is entitled to the widest possible liberty consistent with a like liberty for all’.

    Ond er bod rhyddfrydwyr yn cytuno bod rhyddid yn egwyddor sylfaenol, nid ydynt wastad wedi cytuno ynglŷn â sut, yn ymarferol y gellir sicrhau'r rhyddid hwnnw. Yn ei ysgrif enwog, Two Concepts of Liberty (1958), soniodd Isaiah Berlin am ddau fath o ryddid a welir yng ngwaith rhyddfrydwyr, sef 'rhyddid negyddol' a 'rhyddid cadarnhaol'.

    • • Rhyddid negyddol: Dyma'r math o ryddid y mae’r Rhyddfrydwyr Clasurol yn credu ynddo. Y syniad tu ôl i ryddid negyddol yw bod unigolyn yn rhydd os yw’n cael llonydd i fyw ei fywyd heb unrhyw ymyrraeth, a’i fod yn medru ymddwyn fel y mae’n dymuno. Disgrifir y rhyddid hwn fel un negyddol gan ei fod yn credu y dylid gwneud i ffwrdd gydag unrhyw rwystrau a allai atal yr unigolyn rhag gwneud pethau.
    • • Rhyddid cadarnhaol: Yn wahanol i’r uchod, mae Rhyddfrydwyr Modern yn credu bod rhyddid yn galw am lawer mwy na dim ond gwneud i ffwrdd â rhwystrau a gadael llonydd i’r unigolyn. Yn hytrach, credant fod gwir ryddid yn galw am greu amodau a fydd yn rhoi cyfle teg i'r unigolyn i ddatblygu ei alluoedd a'i ddealltwriaeth o'r byd, a drwy hynny, bydd yn medru cyrraedd ei botensial fel person. Er mwyn gwneud hynny, credant fod angen cymryd camau cadarnhaol er mwyn gwneud yn siŵr bod yr unigolyn cael cyfle yn gymdeithasol, economaidd ac yn wleidyddol er mwyn iddo fod yn berson annibynnol.

    Nid sut y maent yn edrych ar ryddid yn unig sydd wedi arwain at drafodaeth ymhlith rhyddfrydwyr. Mae ganddynt hefyd syniadau gwahanol iawn ynglŷn â sut i drefnu cymdeithas wleidyddol, a beth yw rôl y wladwriaeth.

  • Hawliau

    Mae’r syniad o hawl yn bwysig iawn mewn trafodaethau gwleidyddol ar hyn o bryd. Mae hefyd yn syniad sy’n ganolog i olwg rhyddfrydwyr o’r byd. Yn wir, mae pwysigrwydd hawliau erbyn hyn yn adlewyrchu sut mae syniadau rhyddfrydol allweddol wedi mynd yn rhan bwysig o’n cymdeithas.

    Yn syml, hawl yw darpariaeth sy’n caniatáu i unigolyn neu grŵp o bobl ymddwyn neu gael eu trin mewn modd arbennig ac sydd, ar yr un pryd, yn ei gwneud hi’n ddyletswydd ar eraill i gadw at y trefniant hwn. Dadleuodd rhyddfrydwyr cynnar o’r 17eg ganrif a’r 18fed ganrif, megis John Locke a Thomas Jefferson, bod gan bob unigolyn hawliau naturiol – sef hawliau a roddwyd gan Dduw ac sy’n gyffredin i bawb, pwy bynnag ydynt a beth bynnag fo’u cefndir. Yn wir, dywedodd Jefferson (oedd yn digwydd bod yn ffrind i'r Cymro Richard Price ac wedi'i ddylanwadu gan rai o'i syniadau) bod y rhain yn hawliau ‘diymwad’ (inalienable), gan fod pobl yn eu cael yn unig am eu bod yn bobl; felly rhaid eu derbyn a chadw atynt. Dywedwyd bod yr hawliau naturiol yma yn gwbl angenrheidiol er mwyn byw bywyd ystyrlon. Credai Locke fod yr unigolyn â thri hawl naturiol, yr hawl i ‘fywyd, rhyddid ac eiddo’. Roedd barn Jefferson ychydig yn wahanol, sef ynglŷn ag os gellid trin eiddo fel hawl naturiol a roddwyd gan Dduw. O ganlyniad, disgrifiodd ef ein hawliau naturiol fel yr hawl i ‘fywyd, rhyddid a dedwyddwch’ (life, liberty and the pursuit of happiness). Erbyn heddiw, nid yw rhyddfrydwyr yn cyfeirio’n aml iawn at hawliau naturiol. Mae’r syniad o hawliau dynol yn fwy cyffredin bellach. Er hyn, mae’r egwyddor y tu ôl i’r ddau syniad – bod pob unigolyn, pwy bynnag ydyw, yn berchen ar hawliau sylfaenol – yn debyg iawn. Y prif wahaniaeth yw bod rhyddfrydwyr heddiw, wrth drafod hawliau dynol yn eu hystyried fel hawliau yr ydym wedi cytuno arnynt trwy ddefnyddio’n gallu i resymu, ac nid yn hawliau sydd wedi eu rhoi gan Dduw.

    Oherwydd y pwyslais y mae rhyddfrydwyr yn ei roi ar yr unigolyn, a’u bod hefyd am i bob unigolyn gael rhyddid i fyw ei fywyd fel y mae’n dymuno, gellir deall pam fod rhyddfrydwyr yn hoffi’r syniad bod pob unigolyn â hawliau sylfaenol. Mae’r hawliau hyn wedi cael eu defnyddio ar adegau i rwystro grym y wladwriaeth. Er enghraifft, pwysleisiodd Locke mai prif rôl y wladwriaeth yw gwneud yn siŵr bod aelodau cymdeithas yn cael eu hawliau naturiol. Os yw hyn yn digwydd, dywedodd y dylai pobl gadw at y gyfraith. Ond dywedodd Locke (a rhaid cofio bod hyn yn cael ei ddweud gan berson a oedd yn byw yn ystod yr 17eg ganrif) y byddai’n iawn i bobl wrthryfela yn erbyn y llywodraeth os nad oedd yn diogelu eu hawliau naturiol.

    Mae cymdeithas a gwleidyddiaeth wedi newid llawer ers cyfnod Locke a Jefferson. Eto i gyd, mae eu dadleuon yn parhau’n berthnasol iawn i ryddfrydwyr. Dyma pam y mae rhyddfrydwyr yn aml yn feirniadol iawn pan fydd gwladwriaethau’n gweithredu mewn ffordd sy’n peryglu hawliau dynol unigolion, er enghraifft trwy gyfyngu ar hawliau pobl i ryddid mynegiant, rhyddid cydwybod neu’r rhyddid i gasglu mewn torf. I ryddfrydwyr mae hyn yn arwydd o wladwriaeth sy’n camu’n rhy bell ac sy’n rhwystro unigolion i fyw bywydau rhydd fel y maent yn dymuno.

  • Rhesymoliaeth

    Datblygodd rhyddfrydiaeth yn dilyn y Goleuo – mudiad yn ystod y 18fed ganrif a oedd yn cwestiynu syniadau traddodiadol am grefydd, gwleidyddiaeth a dysg drwy gredu bod pobl yn medru defnyddio eu gallu i resymu er mwyn deall y byd. Canlyniad hyn yw bod dylanwad y Goleuo a'r pwyslais ar resymoliaeth wedi dylanwadu ar ryddfrydiaeth mewn sawl ffordd.

    I ddechrau, mae rhyddfrydwyr am roi rhyddid i bob unigolyn yn rhannol oherwydd eu bod yn credu bod pobl yn rhesymol ac ystyriol, a’u bod yn gallu meddwl dros eu hunain, a phenderfynu pa lwybr i'w ddilyn yn ystod eu bywydau. Nid yw hyn yn golygu bod rhyddfrydwyr yn meddwl nad yw pobl yn medru gwneud camgymeriadau. Fodd bynnag, mae’n golygu nad yw rhyddfrydwyr yn credu mewn syniadau tadol (paternal), sydd yn dweud wrth bobl sut y dylent fyw eu bywydau.

    Yn ail, mae’r pwyslais ar resymoliaeth yn golygu bod rhyddfrydwyr yn credu mewn cynnydd. Maent yn creu bod y cynnydd gwybodaeth dros y canrifoedd diwethaf, yn enwedig y chwyldro gwyddonol, yn golygu fod pobl yn deall natur eu byd yn well. Hefyd, oherwydd ein bod yn gallu rhesymu, gall pobl geisio trefnu'r byd er gwell. Disgwylir hefyd y bydd pob cenhedlaeth, yn ei dro, yn ychwanegu at y stôr o wybodaeth, er mwyn cael cynnydd pellach yn y dyfodol.

    Yn drydydd, mae’r pwyslais ar reswm yn golygu bod rhyddfrydwyr yn credu mewn trafodaeth. Maent yn derbyn bod gwrthdaro – er enghraifft ynglŷn â sut i rannu neu sut i ddefnyddio adnoddau prin – yn mynd i ddigwydd mewn unrhyw gymdeithas. Eto, pan fo hyn yn digwydd, creda’r rhyddfrydwyr mai’r unig ffordd o ddod dros hyn yw drwy gael trafodaeth agored. Credant y bydd hyn yn llwyddo, gan fod pobl yn rhesymol. Ac wrth drafod byddant yn gweld nad oes pwynt i wrthdaro ac y gallai arwain at drais neu ryfel, yn anffodus.

  • Cyfiawnder a chydraddoldeb

    Yn gyffredinol, gellir diffinio cyfiawnder fel mater o wneud penderfyniad moesol ar sut i rannu cyfleoedd neu adnoddau ymhlith aelodau cymdeithas, yn y modd mwyaf teg. Mae gan y rhyddfrydwyr dri diffiniad gwahanol o gydraddoldeb.

    Mae’r diffiniad cyntaf, cydraddoldeb sylfaenol, yn credu mewn cydraddoldeb sylfaenol pob person. Golyga hyn bod rhyddfrydwyr yn credu bod yr un gwerth i fywyd pob unigolyn. Mae cydraddoldeb sylfaenol, yn ei dro, yn arwain rhyddfrydwyr i gredu mewn cydraddoldeb ffurfiol. Golyga y dylai pob unigolyn gael yr un statws ffurfiol mewn cymdeithas, ac y dylai pob person, beth bynnag fo'u cefndir, gael yr un hawliau. Mae rhyddfrydwyr yn gwrthwynebu unrhyw drefn sy'n rhoi cyfle i rai pobl ond ddim i eraill oherwydd rhyw, lliw croen, crefydd neu ddosbarth cymdeithasol. Yr enghreifftiau mwyaf cyfarwydd o gydraddoldeb ffurfiol yw 'cydraddoldeb cyfreithiol' a 'chydraddoldeb gwleidyddol'. Mae'r cyntaf yn mynnu y dylai'r gyfundrefn gyfreithiol drin pob aelod o gymdeithas yr un fath, heb ystyried unrhyw ffactorau cymdeithasol eraill (hil, rhyw, dosbarth). Mae'r ail yn mynnu y dylai'r gyfundrefn wleidyddol drin pawb yn gyfartal, er enghraifft trwy roi'r un hawliau pleidleisio i bawb a sicrhau y bydd yr un gwerth i bleidlais pawb.

    Yn drydydd, mae rhyddfrydwyr yn rhoi pwyslais ar gyfle cyfartal, sef y dylai pob unigolyn gael yr un cyfle i lwyddo o fewn cymdeithas. Nid yw hyn yn golygu bod rhyddfrydwyr yn credu mewn cydraddoldeb absoliwt – hynny yw, nid ydynt yn credu y dylai canlyniadau bywyd fod yr un fath i bawb ac na ddylai fod unrhyw wahaniaeth mewn safon byw neu gyfoeth. Ond dylai’r man cychwyn fod yr un peth i bawb, gan dderbyn wedyn y bydd unigolion yn mynd i gyfeiriadau gwahanol yn ystod eu bywydau. Mae rhyddfrydwyr yn amheus o’r syniad o gydraddoldeb absoliwt, gan ein bod ni i gyd yn unigolion gyda thalentau gwahanol a phersonoliaeth wahanol ac nid pawb sydd am ddringo i fyny mewn cymdeithas.

    Mae'r tri math uchod o gydraddoldeb wedi bod yn ganolog i ryddfrydwyr wrth benderfynu sut i gael cyfiawnder i bawb o fewn cymdeithas. Fodd bynnag, mae Rhyddfrydwyr Clasurol a Rhyddfrydwyr Modern yn diffinio cydraddoldeb yn wahanol. Mae’r ddau fath o ryddfrydwyr yn cytuno mwy neu lai gyda’r diffiniad o gydraddoldeb sylfaenol a chydraddoldeb ffurfiol. Ond, mae pethau'n bur wahanol wrth droi i drafod cyfle cyfartal.

    Mae Rhyddfrydwyr Clasurol yn credu mai dim ond camau bach iawn sydd angen eu cymryd er mwyn rhoi cyfle cyfartal i aelodau cymdeithas. Credant os oes trefniadau ar gael ar gyfer sicrhau cydraddoldeb ffurfiol, a bod y trefniadau cyfreithiol a gwleidyddol ddim yn rhoi mantais annheg i unrhyw grŵp (e.e. bod rhai swyddi yn cael eu rhoi i ddynion yn unig neu bod addysg ond ar gael i bobl wyn yn unig), yna gellir dweud bod yna gyfle cyfartal i bawb. Mewn geiriau eraill, i Ryddfrydwyr Clasurol mae cyfle cyfartal yn golygu bod pob rhwystr ffurfiol i godi mewn cymdeithas wedi'i symud. O’i gymharu, mae Rhyddfrydwyr Modern yn credu bob angen gwneud llawer mwy. I'r rhyddfrydwyr hyn, nid yn unig mae angen sicrhau na fydd unrhyw rwystrau cyfreithiol neu wleidyddol ffurfiol, ond mae hefyd angen sicrhau na fydd ffactorau cymdeithasol eraill yn eu rhwystro. Felly mae Rhyddfrydwyr Modern yn credu bod sicrhau cyfle cyfartal go iawn yn galw ar y wladwriaeth i ddarparu addysg a gofal iechyd i bawb. Credant mai dim ond drwy roi cefnogaeth gymdeithasol y gellir cael maes chwarae teg, gyda chyfle cyfartal i unigolion i godi mewn cymdeithas.

  • John-Stuart-Mill.jpg
    John Stuart Mills
  • Goddefgarwch a phlwraliaeth

    Gan fod llawer o unigolion gwahanol mewn cymdeithas, mae'n golygu amrywiaeth eang o arferion a syniadau moesol, diwylliannol a gwleidyddol. Mae rhyddfrydwyr yn credu’n gryf mewn goddefgarwch o amrywiaeth. Credant y gall unigolion gwahanol ond byw bywydau rhydd os bydd pobl yn barod i dderbyn y bydd eraill, o bosib, yn dewis meddwl neu ymddwyn mewn ffordd nad ydyn mhw’n cytuno ef. Mae'r pwyslais ar oddefgarwch a'r cysylltiad rhyngddo a rhyddid unigol yn mynd yn ôl yn bell yn hanes rhyddfrydiaeth. Roedd yn cael llawer o sylw yng ngwaith rhyddfrydwyr cynnar megis John Locke (1689) ac yn enwedig wrth iddo amddiffyn y syniad o ryddid crefyddol. Yn ei ysgrif enwog, A Letter Concerning Toleration (1689), dywedodd Locke nad oedd yn iawn bod y wladwriaeth yn ymyrryd yn y dasg o 'ofalu am eneidiau dynion'.

    Ond creda rhai rhyddfrydwyr, nid dim ond rhywbeth i’w oddef yw cymdeithas sy’n cynnwys amrywiaeth moesol, diwylliannol a gwleidyddol. Credant y dylai plwraliaeth gymdeithasol gael ei ystyried yn rhywbeth cadarnhaol ac y dylid ei ddathlu a'i hybu. Er enghraifft, yn ei gyfrol enwog, On Liberty (1859), dadleuodd J.S. Mill o blaid cymdeithas sy'n caniatáu llawer o syniadau gwahanol ac sydd yn eu trafod yn agored. Credai y byddai hyn yn hybu trafod, dysg a chynnydd cymdeithasol.