- • Cydraddoldeb sylfaenol: Mae rhyddfrydwyr yn credu y dylai pob person gael hawl i gydraddoldeb sylfaenol a bod bywyd pob unigolyn â’r un gwerth moesol.
- • Cydraddoldeb ffurfiol: Mae rhyddfrydwyr yn credu y dylai pob person gael yr un statws ffurfiol o fewn cymdeithas, ac y dylai pob unigolyn, beth bynnag fo'u cefndir, gael yr un hawliau a breintiau. Credant na ddylai cymdeithas ystyried unrhyw wahaniaethau rhwng pobl a sicrhau bod cyfle i bawb beth bynnag yw eu rhyw, lliw croen, crefydd neu ddosbarth cymdeithasol. Gwelir hyn gyda 'chydraddoldeb cyfreithiol' (trin pawb yr un fath o dan y system gyfreithiol) a 'chydraddoldeb gwleidyddol' (triniaeth pawb yr un fath o dan y system wleidyddol).
- • Cyfle cyfartal: Mae rhyddfrydwyr yn credu y dylid pob person gael yr un cyfle i ddatblygu a llwyddo o fewn cymdeithas. Nid yw hyn yn golygu bod rhyddfrydwyr yn credu mewn cydraddoldeb absoliwt – hynny yw, nid ydynt yn credu y dylai canlyniadau bywyd fod yr un fath i bawb ac na ddylai fod unrhyw wahaniaeth mewn safon byw neu gyfoeth. Ond dylai’r man cychwyn fod yr un peth i bawb, gan dderbyn wedyn y bydd unigolion yn mynd i gyfeiriadau gwahanol yn ystod eu bywydau. Mae rhyddfrydwyr yn amheus o’r syniad o gydraddoldeb absoliwt, gan ein bod ni i gyd yn unigolion gyda thalentau gwahanol a phersonoliaeth wahanol ac nid pawb sydd am ddringo i fyny mewn cymdeithas.
-
Rôl y wladwriaeth wrth sicrhau cydraddoldeb
Yn yr adran hon edrychir ar rôl y wladwriaeth mewn sicrhau cydraddoldeb gan roi sylw i’r gwahaniaeth barn rhwng Rhyddfrydwyr Clasurol a Rhyddfrydwyr Modern ynglŷn â hyn.
Ni roddir sylw i gydraddoldeb sylfaenol yma, gan mai egwyddor foesol ydyw ac mae’n cael ei gynnwys gyda’r egwyddor o gydraddoldeb ffurfiol, wrth ystyried rôl y wladwriaeth.
Wrth edrych ar gydraddoldeb ffurfiol, gwelir bod Rhyddfrydwyr Clasurol a Rhyddfrydwyr Modern yn cytuno ynglŷn â’i ystyr ac y dylai’r wladwriaeth gymryd camau i sicrhau hyn. Ar y cyfan, mae’r ddau fath o ryddfrydwyr yn cytuno y dylai’r wladwriaeth fod yn barod i gymryd camau i sicrhau nad oes rhwystrau ffurfiol yn atal rhai grwpiau arbennig rhag medru manteisio ar gyfleoedd pwysig; er enghraifft, nad oes rhai cyfleoedd ar gael i bobl oherwydd lliw croen, crefydd neu ddosbarth cymdeithasol. Mae’r ddau fath o ryddfrydwyr yn cytuno y dylai’r wladwriaeth gael cyfreithiau er mwyn sicrhau hyn (e.e. trwy gyflwyno deddfau yn y cyfansoddiad) sy’n atal rhagfarn agored. Dyma enghreifftiau o gyfreithiau sy’n ceisio gwneud hyn:
- • Deddfau sy’n sicrhau nad yw rhai grwpiau cymdeithasol (e.e. merched) yn cael eu hatal rhag pleidleisio mewn etholiadau.
- • Deddfau sy’n sicrhau nad yw rhai grwpiau cymdeithasol (e.e. pobl sydd ddim yn berchen tir) yn cael eu hatal rhag bod yn ymgeiswyr mewn etholiadau.
- • Deddfau sy’n sicrhau nad yw cyflogwyr yn medru dweud bod rhai swyddi ond yn agored i grŵp arbennig o bobl (e.e. dim ond pobl wyn).
- • Deddfau sy’n sicrhau nad yw unigolion sy’n rhentu tai/fflatiau yn medru dweud nad ydynt yn fodlon derbyn rhai pobl fel tenantiaid posib (e.e. lleiafrifoedd ethnig)
- • Deddfau sy’n dweud nad yw ysgolion neu brifysgolion yn medru gwrthod derbyn myfyrwyr o rai cefndiroedd arbennig (e.e. myfyrwyr du).
Mae’r rhain yn enghreifftiau o gyfreithiau sydd wedi eu creu gan wladwriaethau rhyddfrydol ar draws y byd er mwyn sicrhau cydraddoldeb ffurfiol.
Tra bod Rhyddfrydwyr Clasurol a Rhyddfrydwyr Modern yn cytuno ynglŷn â’r syniad o gydraddoldeb ffurfiol a sut y dylai’r wladwriaeth sicrhau hyn, nid yw hynny’n wir o gwbl wrth sôn am gyfle cyfartal. Barn y Rhyddfrydwyr Clasurol mai dim ond camau bach iawn sydd angen i’r wladwriaeth eu cymryd er mwyn rhoi cyfle cyfartal i bob aelod o gymdeithas. Credant, os yw'r wladwriaeth wedi cymryd camau i sicrhau cydraddoldeb ffurfiol, er enghraifft trwy greu cyfreithiau fel yr uchod, yna mae cyfle cyfartal i bawb.
Yn wahanol i hyn, mae Rhyddfrydwyr Modern yn credu bod yn rhaid cymryd camau llawer mwy er mwyn sicrhau cyfle cyfartal. I'r rhyddfrydwyr hyn, nid yn unig mae angen sicrhau na fydd rhwystrau neu ragfarnau ffurfiol, ond maent hefyd am sicrhau na fydd ffactorau eraill yn eu rhwystro. Credant y dylid gwneud cymaint â phosib i sicrhau nad yw ffactorau sydd y tu hwnt i’w rheolaeth yn rhwystro’r unigolyn rhag datblygu a llwyddo yn ystod ei fywyd. Mae’r ffactorau hyn yn cynnwys rhywun sydd yn digwydd dod o deulu tlawd sy’n golygu ei bod yn anodd mynd i’r brifysgol; neu rywun sydd wedi’i eni gyda salwch sy’n galw am ofal cyson; neu rywun sydd wedi digwydd colli ei swydd ac yn brin o arian. O ganlyniad, mae Rhyddfrydwyr Modern yn dadlau bod sicrhau cyfle cyfartal yn golygu bod yn rhaid i’r wladwriaeth fod yn rhagweithiol (proactive), gan ymyrryd er mwyn lleihau effaith anfantais gymdeithasol. Golyga hyn bod yn rhaid i wladwriaethau rhyddfrydol gael systemau a pholisïau tebyg i’r isod:
- • Addysg: defnyddio trethi i gasglu arian er mwyn creu system addysg sy’n agored i bawb a lle nad yw lefel yr addysg a gaiff yr unigolyn yn dibynnu ar ba mor gyfoethog yw ef neu ei deulu.
- • Iechyd: defnyddio trethi i gasglu arian er mwyn creu system gofal iechyd sy’n agored i bawb a lle nad yw’r gofal a gaiff yr unigolyn yn dibynnu ar ba mor gyfoethog ydyw a’i allu i dalu am wahanol driniaethau.
- • Budd-daliadau: defnyddio trethi i gasglu arian er mwyn creu cronfa ariannol y gall pawb droi ato am help ar adeg anodd iddynt, er enghraifft os ydynt allan o waith ac yn ceisio byw heb gyflog rheolaidd; wedi cael damwain neu salwch difrifol sy’n golygu na allant weithio am gyfnod hir.
Mae’r rhain yn enghreifftiau o raglenni polisi cymdeithasol y mae Rhyddfrydwyr Modern yn credu ynddynt er mwyn sicrhau cyfle cyfartal i bawb. Rhwng y 1930au a’r 1970au, pan oedd syniadau’r Rhyddfrydwyr Clasurol fwyaf poblogaidd y gwelwyd rhaglenni tebyg i hyn yn datblygu, er enghraifft ar draws Gogledd America a Gorllewin Ewrop. Ond ers y 1970au, cafodd y syniadau hyn eu beirniadu a gwelwyd syniadau’r Rhyddfrydwyr Clasurol a neo-ryddfrydiaeth yn dod yn fwy poblogaidd,
Pam fod Rhyddfrydwyr Clasurol yn dadlau yn erbyn y systemau addysg, iechyd a budd-daliadau cyhoeddus hyn? Oherwydd eu bod yn credu mewn unigolyddiaeth a rhyddid nid ydynt yn hoffi’r syniad o’r wladwriaeth yn ymyrryd yn gymdeithasol, ac yn enwedig os yw’n golygu codi arian drwy drethi cyffredinol. Fel y dywedwyd eisoes, mae’r Rhyddfrydwyr Clasurol yn meddwl am yr unigolyn fel rhywun cwbl annibynnol sy'n 'berchen' ar ei gorff ac ar ei allu personol. O ganlyniad, yr unigolyn yn unig sydd i gael y clod am lwyddo yn ystod ei fywyd. Ac ef yn unig fydd berchen unrhyw gyfoeth y mae wedi llwyddo i’w gasglu yn ystod ei fywyd – nid oes arno unrhyw ddyled na diolch i'r gymdeithas. Felly mae’r Rhyddfrydwyr Clasurol yn credu bod rhyddid yr unigolyn yn golygu na ddylai eraill, gan gynnwys y wladwriaeth, ymyrryd yn ei fywyd ac effeithio ar ei allu i gasglu cyfoeth fel y dymuna. Mae hyn wedi cynnwys dadlau na ddylid gorfodi’r unigolyn i dalu arian i’r wladwriaeth er mwyn helpu i gynnal gwasanaethau cyhoeddus. Dadleuwyd y byddai gorfodi’r unigolyn i wneud hyn yn dwyn ei ryddid a dwyn ei eiddo, gan na fyddai’r wladwriaeth yn gadael iddo fyw ei fywyd fel y dymunai. Gwelir y safbwynt hwn yng ngeiriau’r athronydd Americanaidd Robert Nozick, 'Taxation of earnings from employment is on a par with forced labour' (1974: 169).
Rhyddfrydiaeth a chydraddoldeb
Mae’r rhyddfrydwyr yn credu bod tair elfen o gydraddoldeb i gyfiawnder cymdeithasol, sef:
Y tri math uchod o gydraddoldeb yn ôl rhyddfrydwyr fydd yn sicrhau cyfiawnder i bawb o fewn cymdeithas. Ond fel gyda nifer o safbwyntiau eraill, nid yw’r Rhyddfrydwyr Clasurol a’r Rhyddfrydwyr Modern yn cytuno ynglŷn â sut yn union y gellir creu cyfle cyfartal i bawb. Nid ydynt yn cytuno ynglŷn â rôl y wladwriaeth wrth sicrhau cydraddoldeb.