Y consensws ymhlith y mwyafrif o ysgolheigion yw mai ideoleg wleidyddol a ddatblygodd yn ystod blynyddoedd cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg yw Ceidwadaeth. Honnir bod hyn wedi digwydd fel ymateb i'r gyfres o newidiadau gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd pellgyrhaeddol a oedd yn sgubo ar draws gorllewin Ewrop ar y pryd. Un digwyddiad mawr y mae haneswyr yn tueddu i gyfeirio ato fel symbol amlwg o’r newid hwn – y symud i’r hyn a ddisgrifir fel y cyfnod modern – yw Chwyldro Ffrainc yn 1789. Roedd hwn yn ddigwyddiad gwleidyddol arbennig o arwyddocaol. Yn ystod y Chwyldro gwelwyd yr hen drefn frenhinol absoliwt yn cael eu dymchwel a gweriniaeth newydd yn cael ei sefydlu ar sail egwyddorion blaengar, megis rhyddid, cydraddoldeb a brawdoliaeth (liberté, égalité, fraternité). A’r dybiaeth yw mai’r newidiadau gwleidyddol a chymdeithasol a ddeilliodd o’r chwyldro hwn oedd y prif gatalydd i ddatblygiad syniadau Ceidwadol. Mewn geiriau eraill, mai ideoleg a ddatblygodd yn wreiddiol fel ymateb i Chwyldro Ffrainc yn 1789 yw Ceidwadaeth i bob pwrpas.

  • Mae ambell i ysgolhaig wedi dadlau bod y stori uchod yn gor-symleiddio pethau ychydig a bod tueddiadau Ceidwadol i'w gweld wrth ystyried syniadau gwleidyddol o gyfnodau cynharach. Er enghraifft, mae rhai wedi dadlau dros edrych yn ôl mor bell â chyfnod y Groegwyr cynnar gan hawlio bod themâu Ceidwadol clir i'w gweld yng ngweithiau meddylwyr blaenllaw megis Plato (427-347 CC). Mae eraill yn cyfeirio at waith meddylwyr gwahanol o'r Canol Oesoedd ac yn dadlau bod syniadau Ceidwadwyr mwy diweddar y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn adleisio themâu a ddatblygodd yn wreiddiol yn ystod y cyfnod hwn. Cyfnod arall y cyfeirir ato yw degawdau ola’r ail ganrif ar bymtheg, ac yn benodol, y digwyddiadau yn Lloegr arweiniodd at ‘Adferiad’ y 1660au a ffurfioli’r drefn o frenhiniaeth gyfyngedig sydd, i bob pwrpas, wedi parhau hyd heddiw. Dyma'r cyfnod lle cafodd y term 'Tori' ei ddefnyddio am y tro cyntaf fel label i ddynodi safbwynt gwleidyddol penodol. Defnyddiwyd ef i grynhoi safbwynt y garfan a oedd o blaid cynnal grym y frenhiniaeth, mewn cyferbyniad â’r Chwigiaid, a oedd yn deisyfu ei ddiwygio.

  • Edmund-Burke.jpg
    Edmund Burke
  • Diau bod rhinweddau i bob un o'r dehongliadau uchod. Fodd bynnag, er gwaethaf bodolaeth amryw o themâu Ceidwadol cyn 1789, dim ond yn dilyn y chwyldro mawr yn Ffrainc y gwelwyd Ceidwadaeth yn datblygu i fod yn gorff o syniadau gwleidyddol cydlynol a hunanymwybodol. Ffigur allweddol yn y broses hon oedd yr athronydd a'r gwleidydd Edmund Burke (1729-97). Yn 1790 cyhoeddodd Burke ei gyfrol enwog, Reflections on the Revolution in France – darn o waith a gaiff ei ystyried bellach fel un o’r datganiadau cynharaf o egwyddorion Ceidwadol.

    Fel yr awgryma’r teitl, cyhoeddodd Burke ei gyfrol fel ymateb i’r digwyddiadau yn Ffrainc flwyddyn yng nghynt ac ynddo amlinellodd Burke pam nad oedd yn gefnogol i’r newidiadau a ddeilliodd o’r Chwyldro. Roedd cwymp disymwth y frenhiniaeth a’r ymdrech i sefydlu gweriniaeth newydd ar sail cred yn rhyddid a chydraddoldeb pob unigolyn yn destun pryder iddo. Ofn Burke oedd y byddai newid cymdeithasol sydyn tebyg i’r hyn a welwyd yn Ffrainc ond yn arwain at gyflwr anarchaidd, di-drefn a’i fwriad wrth gyhoeddi Reflections oedd rhybuddio llywodraeth San Steffan yn Llundain rhag gadael i sefyllfa o’r fath ddatblygu ym Mhrydain. Erbyn heddiw, mae’n siŵr y byddai rhai o syniadau Burke yn ymddangos yn gwbl ddi-sail. Fodd bynnag, mae’n bwysig cofio nad digwyddiad trefnus a heddychlon oedd y Chwyldro yn Ffrainc. Gwelwyd gwrthdaro gwaedlyd ac arweiniodd cwymp y frenhiniaeth at wrthdaro pellach rhwng gwahanol garfanau. O ganlyniad, gellir deall sut y byddai rhai wedi tybio ar y pryd bod y newidiadau wedi esgor ar gyflwr o anarchiaeth gymdeithasol. Beth bynnag, fel y nodwyd, roedd cyhoeddi Reflections yn ddigwyddiad allweddol yn natblygiad Ceidwadaeth ac ar sail y syniadau a amlinellwyd ynddo, daeth Burke i gael ei ystyried fel tad y syniadaeth.