-
-
Nid Burke, wrth gwrs, yw’r unig ffigur pwysig sy’n perthyn i’r traddodiad Ceidwadol, ac nid yw’r gwerthoedd a fu’n sail i’w Geidwadaeth Draddodiadol yn cynrychioli hyd a lled y syniadaeth. Er enghraifft, cysylltir y Ffrancwr Joseph de Maistre â Cheidwadaeth Awdurdodaidd, tra bod traddodiad y Dde Newydd yn gymysgfa o syniadau gwahanol, sy’n cwmpasu egwyddorion cymdeithasol neo-geidwadol ac egwyddorion economaidd neo-ryddfrydol. Yr hyn sy’n tueddu i gysylltu’r ffrydiau gwahanol yma o geidwadaeth yw pwyslais ar rai elfennau allweddol, gyda phob un ohonynt yn rhoi pwyslais ar werthoedd megis traddodiad, awdurdod a hierarchaeth, neu’n rhoi gwerth ar gysyniadau megis pragmatiaeth, amherffeithrwydd dynol, cymdeithas organig ac eiddo.
Mae mabwysiadu safbwyntiau ceidwadol fel arfer yn arwain at arddel barn gref ar bynciau’r dydd. Er enghraifft fe welir dylanwad syniadau Ceidwadol wrth ystyried trafodaethau ar ystod o bynciau llosg cyfoes, megis newidiadau i strwythur y teulu traddodiadol, rôl yr eglwys o fewn cymdeithas, neu arwyddocâd mewnfudo a datblygiad cymdeithas amlddiwylliannol. Yn ogystal, down ar draws safbwyntiau Ceidwadol cryf wrth ystyried trafodaethau ynglŷn â’r economi, gyda rôl y farchnad rydd yn elfen a gaiff ei phwysleisio’n aml – ond eto gyda rhai’n cydnabod bod y wladwriaeth hefyd yn medru ysgwyddo cyfrifoldebau economaidd pwysig.
Yng nghyd-destun gwleidyddiaeth Cymru, mae tuedd weithiau i dybio mai traddodiad ymylol iawn fu Ceidwadaeth. Fodd bynnag, dylid gochel rhag diystyru Ceidwadaeth wrth drafod hanes y Gymru fodern. Yn olaf, tra nad yw Ceidwadaeth ei hun yn cael ei gydnabod fel ideoleg allweddol yng nghyd-destun trafodaethau ynglŷn â gwleidyddiaeth ryngwladol, fe welir dylanwad agweddau o’r byd-olwg Ceidwadol wrth ystyried syniadau a dadleuon Realwyr a neo-ryddfrydwyr.
Ysgrifennodd Edmund Burke ei glasur, Reflections on the Revolution in France, fel ymateb i araith gan yr athronydd o Gymro, Richard Price. Roedd Price wedi croesawu’r newidiadau chwyldroadol oedd ar droed ar dir mawr Ewrop, gan groesawu’r ymosodiad ar awdurdod y Brenin yn Ffrainc fel mynegiant o brosesau hirdymor – rhai oedd yn rhyddfreinio dynoliaeth ac yn ei symud tuag at gymdeithas hapusach, mwy moesol a rhinweddol. Fodd bynnag, roedd dadleuon Price yn wrthun i Burke, yn arbennig ei bwyslais ar egwyddorion sylfaenol a gwerthoedd cyfanfydol. I Burke ffuglen oedd syniadau o’r fath – iddo ef, yr unig werthoedd a moesau oedd o wir sylwedd oedd y rheiny a gafodd eu sefydlu a’u meithrin gan gymunedau organig, ar draws yr oesau. A dyma godi cwr y llen ar thema Geidwadol allweddol – y duedd i ymwrthod ag egwyddorion haniaethol, gan, bwysleisio, yn hytrach, y diriaethol, y traddodiadol a’r hyn sydd wedi dod yn amlwg i bobl trwy eu profiadau dydd i ddydd.